Celebrating our Apprentices

 

Rydyn ni wedi bod yn cynnig ein Rhaglen Brentisiaethau, sydd wedi ennill gwobrau, ers dros 14 mlynedd. Yn ystod y cyfnod yma, rydyn ni’n falch o fod wedi cefnogi prentisiaid i dyfu, datblygu a chyflawni. Dyma beth oedd gan rai o’n prentisiaid llwyddiannus i’w ddweud am y rhaglen.

 

Aimee yn Ennill Gwobr y Prentis yng Ngwobrau'r Dysgwr 2025

Rydyn ni’n hynod falch o rannu bod Aimee wedi ennill Gwobr y Prentis yng Ngwobrau'r Dysgwr 2025, a gynhaliwyd gan Goleg y Cymoedd.
Ymunodd Aimee â Chyngor RhCT fel Prentis yn y Garfan Alluogi ym mis Medi 2023. Ers hynny, mae ei hymroddiad, ei brwdfrydedd a'i chynnydd wedi bod yn ysbrydoledig iawn. Mae ei hymrwymiad i ddysgu a datblygu wedi sefyll allan yn wirioneddol, ac mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol o'i gwaith caled.
Dywedodd ei Rheolwr, Stephen, ‘Rydyn ni mor falch o gefnogi Aimee ar ei thaith i ddod yn Weithiwr Galluogi, a thrwy wneud hynny, ennill y wobr hon. Mae Aimee wedi datblygu i fod yn Weithiwr Galluogi rhagorol sydd wedi ychwanegu cymaint at y garfan, ac wedi helpu cymaint o deuluoedd i wella’u sefyllfa, sef prif nod y gwasanaeth’.
Llongyfarchiadau Aimee………Rydyn ni i gyd mor falch ohonot ti!

Ethan

Gwobr Prentis y Flwyddyn

Dechreuodd Ethan weithio i RhCT yn 2020 yn rhan o’n Rhaglen Camu i'r Cyfeiriad Cywir gan gwblhau dwy flynedd o swydd dan hyfforddiant gyda'r Garfan TGCh.  Yn ystod ei amser ar leoliad gyda'r Garfan, cwblhaodd cymhwyster TGCh Lefel 2.  Yn ystod ei amser yn y swydd dan hyfforddiant, darganfyddodd Ethan ei angerdd am weithio yn y maes TGCh ac aeth ati i sicrhau Prentisiaeth yn 2022.  Fe wnaeth Ethan gynnydd arbennig yn ystod ei Brentisiaeth TGCh a chroesawodd yr her o fod mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid yn uniongyrchol.  Cafodd gyfle i adeiladu ar ei sgiliau technegol a datblygu ei alluoedd cyfathrebu.  Roedd cydbwyso ei swydd llawn amser a’i astudiaethau i gwblhau Diploma Lefel 3 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer TGCh, a chymhwyster Telegyfathrebu Proffesiynol yn her iddo, ond llwyddodd i gwblhau’r Brentisiaeth a chafodd ei benodi i swydd llawn amser gyda’r Garfan TGCh fel Cynorthwy-ydd Cymorth. 

Llongyfarchiadau i Ethan a enillodd wobr AUR Prentis y Flwyddyn.

 

Alex

Uwch Brentis y Flwyddyn

Ymunodd Alex â Chyngor RhCT yn 2023 fel Prentis Ansawdd Data a daeth yn rhan annatod o Garfan Data ‘r Adran TGCh a Gwasanaethau Digidol yn gyflym iawn.  Roedd yn rhagori ym meysydd dadansoddi data, cymodi a gwella systemau.  Ochr yn ochr â chwblhau Diploma Lefel 4 mewn Dadansoddi Data, dangosodd Alex brwdfrydedd ac agwedd ragweithiol tuag at bob tasg, sicrhaodd ddyrchafiad i rôl Swyddog Cymorth Data gyda Charfan y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd o fewn blwyddyn.

Llongyfarchiadau mawr i Alex a dderbyniodd y wobr Canmoliaeth Uchel.

 

Jonathan

Uwch Brentis y Flwyddyn

Ymunodd Jonathan â RhCT fel Prentis yn 2021 gan gyflawni rôl Cynorthwy-ydd Ynni a Lleihau Carbon.  Ers hynny, mae Jonathan wedi symud ymlaen i rôl Swyddog Technegol.  Mae Jonathan yn angerddol iawn am leihau carbon a gwella ei gymuned leol.  Ar hyn o bryd, mae Jonathan yn cwblhau cymhwyster Rheoli Prosiect Lefel 4 sydd wedi ei helpu i gyflawni prosiectau lleihau carbon effeithiol.  Mae ei ymroddiad a'i arbenigedd yn ei wneud yn ased hollbwysig o ran amcanion carbon-niwtral y Cyngor.

Llongyfarchiadau mawr i Jonathan ar dderbyn y wobr Canmoliaeth Uchel!

 

Cydnabyddiaeth Arbennig

Llongyfarchiadau i Henry sydd wedi derbyn Gwobr Talent Yfory yn rhan o Wobrau Academi Sgiliau Cymru. Mae Henry wedi llwyddo i gwblhau dwy brentisiaeth gyda ni - un ym maes Gweinyddu Busnes a'r llall ym maes Cynnal a Chadw'r Priffyrdd. Mae Henry bellach yn gweithio’n Arolygydd Priffyrdd yn Nepo Dinas.

Hoffen ni ddiolch i The Construction Hub Academy am ddarparu hyfforddiant i Henry ac am ei gefnogi drwy ei gymhwyster.

 

I glywed gan Henry, cliciwch ar y fideo isod: The Construction Hub Academy - Apprenticeships | Videos & Movies on Vimeo

 

 

Doniau’r Dyfodol

KatieMae Katie, sy'n Brentis Uwch, yn chwarae rôl allweddol wrth helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyflawni targedau heriol yn ymwneud â datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd. Cafodd cyfraniad Katie ei gydnabod yn ddiweddar yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 gan iddi gyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Doniau’r Dyfodol.

A hithau'n Swyddog Lleihau Carbon, mae Katie, sy'n 27 oed ac sydd o Gwm Clydach, yn rhan o waith datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, gan gynnwys fferm solar chwe megawat a chynlluniau trydan dŵr, yn ogystal ag ystod o gynlluniau eraill i leihau ôl troed carbon y Cyngor. Mae Katie yn frwdfrydig am ynni adnewyddadwy a lleihau carbon, ac mae hi'n rhannu arferion gorau gyda chynghorau eraill ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Garbon, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, perchnogion tir a pheirianwyr. Dywedodd Katie, "Rydw i wedi ymddiddori ym maes ynni adnewyddadwy a lleihau carbon erioed, ac mae'r ddau yn bynciau llosg wrth i  Lywodraeth Cymru ymdrechu i sicrhau bod Cymru'n ennill statws sector cyhoeddus sero net erbyn 2030."

Dal ati gyda'r gwaith gwych, Katie!

Unigolion Anhygoel

Llongyfarchiadau i dri o'n cyn-brentisiaid ym maes Peirianneg Sifil sydd wedi derbyn gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn BEng Peirianneg Sifil.

Dechreuodd Adam, Liam a Dylan ar eu taith gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf yn brentisiaid yn 2015. Yn dilyn eu rhaglenni prentisiaeth dwy flynedd, cawson nhw gefnogaeth i fynychu Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Phrifysgol De Cymru am bedair blynedd arall.

Trwy waith caled, dyfalbarhad a chefnogaeth y Cyngor, maen nhw bellach wedi cyflawni cymhwyster lefel gradd yn eu maes gwaith.