Skip to main content

Gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl

Trafnidiaeth Cymru sydd bellach yn cyhoeddi cardiau Teithio Rhatach.  Y ffordd hawsaf a chyflymaf i gael eich cerdyn teithio yw trwy wneud cais ar-lein ar wefan Trafnidiaeth Cymru. 

Bydd gofyn i chi lwytho un ddogfen sy'n dangos tystiolaeth o ddyddiad geni, dwy ddogfen â'ch cyfeiriad arnyn nhw, ffotograff lliw a fyddai'n dderbyniol ar gyfer pasbort a darparu'ch Rhif Yswiriant Gwladol. Mae rhestr gyflawn o ddogfennau derbyniol i'w gweld ar wefan Trafnidiaeth Cymru. Fydd dim modd i chi gwblhau eich cais os na ddarperir yr wybodaeth yma. Ar gyfer gwneud cais ar-lein, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru a dilynwch y cyfarwyddiadau syml.                                   

Os does dim modd i chi wneud cais ar-lein, beth am ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddo i wneud cais ar eich rhan.  Fel arall, os does neb ar gael i roi cymorth i chi, trefnwch apwyntiad i fynd i Ganolfan IBobUn, lle bydd rhywun ar gael i'ch helpu i gwblhau'ch cais. Mae modd trefnu hyn ar-lein yma www.rctcbc.gov.uk/archebu neu drwy ffonio 01443 425005.  Sicrhewch eich bod yn mynd â'r dystiolaeth gywir gyda chi, neu fydd dim modd i ni brosesu eich cais.

Pryd fydd fy ngherdyn teithio newydd yn cyrraedd?

Dylai Trafnidiaeth Cymru bostio'ch cerdyn teithio i'ch cyfeiriad cartref cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau pellach, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru neu ffoniwch 0300 303 4240.  Fel arall gallwch gysylltu ag Uned Trafnidiaeth Integredig y Cyngor trwy naill ai e-bostio gwasanaethautrafnidiaeth@rctcbc.gov.uk (rhowch fanylion i egluro eich cwestiwn) neu ffonio 01443 425001.

Rwyf wedi cael fy asesu ar gyfer Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl, gan nad oeddwn i'n gymwys yn awtomatig. Beth os ydw i'n anfodlon ar y penderfyniad ynglŷn â fy asesiad?

Byddai'r Cyngor wedi cwblhau'ch asesiad ac wedi ystyried y manylion roeddech chi wedi'u darparu ar eich ffurflen gais ynghylch eich anabledd, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a oedd wedi'i chynnwys. 

Er mwyn derbyn Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl, mae'r pwyslais yn cael ei roi ar yr angen ichi fodloni un o'r meini prawf canlynol;

  • Wedi colli llawer o’ch golwg yn y ddwy lygad.
    • i). amhariad difrifol ar eich golwg – methu darllen (gyda’ch sbectol os ydych yn gwisgo rhai) llythyren uchaf siart prawf golwg safonol o bellter o 3 metr neu lai.
    • ii). amhariad ar eich golwg – dim ond yn gallu darllen (gyda’ch sbectol os ydych yn gwisgo rhai) llythyren uchaf siart prawf golwg safonol o bellter o 6 metr neu lai.
  • Hollol fyddar neu ddifrifol o fyddar, wedi colli 70 desibel (dBHL) neu fwy o’ch clyw yn y ddwy glust.
  • Methu siarad – methu cyfathrebu’n llafar mewn unrhyw iaith.
  • Rydych yn anabl neu wedi dioddef anaf, sydd wedi cael effaith sylweddol a thymor hir ar eich gallu i gerdded.
  • Does dim breichiau gennych chi, neu rydych chi wedi colli'r gallu i ddefnyddio'ch breichiau dros y tymor hir.
  • Amhariad gwybyddol.
  • Ni fyddech â hawl cael trwydded i yrru cerbyd o dan Ran III o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, yn unol ag adran 92 o’r Ddeddf honno (ffitrwydd corfforol) ac eithrio ar sail camddefnydd parhaus o gyffuriau neu alcohol.

 

Ar ôl ystyried yr holl feini prawf a'r wybodaeth uchod, os ydych chi'n anfodlon ar y penderfyniad ynglŷn â'ch Asesiad Hawl i gael Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl, bydd croeso i chi apelio yn ei erbyn. Serch hynny, wrth wneud hynny, byddai angen i chi nodi ar ba sail rydych chi eisiau apelio. Bydd raid ichi hefyd gyflwyno rhagor o dystiolaeth nad oedd ar gael neu nad oedd wedi'i ddarparu adeg eich asesiad. Mae modd anfon yr wybodaeth hon drwy'r post neu drwy e-bost i'r cyfeiriad isod:

Drwy'r post:

Ymgysylltu a Chwynion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

 

Neu drwy e-bostio:

AdborthCwsmeriaid@rctcbc.gov.uk