Pryd fydd fy mhlentyn yn derbyn ei docyn teithio ar y bysiau?
Ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd sy'n dechrau Blwyddyn 7 ym mis Medi, bydd gwybodaeth am eu trefniadau cludiant i'r ysgol, ynghyd â thocyn teithio ar y bysiau eich plentyn, yn cael eu postio i ddisgyblion cymwys cyn gwyliau'r haf.
Bydd disgyblion ysgol gynradd yn derbyn llythyr awdurdodi yn cadarnhau eu hawl. Mae rhaid dangos y llythyr i’r gyrrwr er mwyn gallu teithio ar y bws. Mae rhestr o’r dysgwyr hynny sy’n gymwys i deithio ar fysiau ysgol wedi cael ei rhoi i bob cwmni sy’n darparu cludiant i’r ysgol.
Oes rhaid i mi gadw fy nhocyn bws?
PEIDIWCH â chael gwared ar y tocyn bws - bydd angen ei ddangos i'r gyrrwr bob tro mae'r plentyn yn teithio, nes ei fod yn gadael yr ysgol. DIM TOCYN DIM TEITHIO
Beth fydd yn digwydd os ydw i’n colli fy nhocyn bws neu ei fod wedi’i ddifrodi?
Os yw’ch plentyn yn colli’i docyn neu ei fod wedi'i ddifrodi. Bydd slip awdurdodi teithio yn cael ei roi i’ch plentyn gan yr ysgol sy’n rhoi cyngor i chi ar sut mae prynu un newydd. Gall methu â dangos tocyn bws ysgol dilys effeithio ar gludiant eich plentyn.
Mae tâl gweinyddol o £8.15 am argraffu un newydd.
Rhoi gwybod am docyn bws sydd wedi mynd ar goll ar-lein
Sut ydw i'n cael tocyn teithio ar y bysiau newydd?
Mae modd archebu tocyn teithio ar y bysiau newydd ar-lein, trwy ffonio 01443 425001, neu drwy ymweld ag un o Ganolfannau IbobUn y Cyngor. Bydd angen cerdyn credyd neu ddebyd arnoch chi i dalu ar-lein neu dros y ffôn. Mae modd talu ag arian parod yng Nghanolfannau IBobUn y Cyngor.
Mae tocyn teithio ar y bysiau fy mhlentyn wedi dod i ben
Bydd angen i chi gysylltu â Charfan Cludiant i'r Ysgol y Cyngor i gael tocyn newydd (manylion isod).
Dydy fy mhlentyn ddim wedi derbyn tocyn teithio ar y bysiau neu lythyr cymeradwyo
Os dydych chi ddim wedi llenwi ffurflen ar gyfer derbyn eich plentyn i'ch ysgol o ddewis, yna bydd rhaid i chi wneud hyn trwy ffonio'r Garfan Materion Derbyn Disgyblion ar 01443 744000. Os ydych chi wedi llenwi'r ffurflen ac wedi derbyn llythyr sy'n cadarnhau lle yn yr ysgol, bydd rhaid i chi ffonio'r Garfan Cludiant i'r Ysgol ar 01443 425001.
All yr ysgol ofyn i’r cwmni sy’n darparu cludiant i roi caniatâd i fy mhlentyn deithio heb docyn bws?
Na - Mae pob disgybl ysgol uwchradd sy’n gymwys i gael cludiant i’r ysgol yn derbyn tocyn bws ac mae rhaid ei ddefnyddio i gael mynediad i drafnidiaeth ysgol.
All ffrind fy mhlentyn deithio ar y bws ysgol gyda fy mhlentyn er nad yw’n gymwys?
Na - Dim ond plant sy’n gymwys i deithio ar y bws, sydd â thocyn bws dilys, all deithio ar drafnidiaeth ysgol. Mae pob sedd wedi’u clustnodi i ddisgyblion sy’n gymwys i deithio. Os yw rhagor o ddysgwyr yn teithio, yna efallai y bydd gormod o bobl ar y bws.
Cysylltu â’r Uned Trafnidiaeth Integredig
Uned Trafnidiaeth Integredig
Tŷ Glantaf
Uned B23 Taffs Fall Road
Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 425001