Skip to main content

Amserlenni Torri Gwair

Lleiniau glas – Ardaloedd bioamrywiaeth

Mae nifer o ardaloedd bioamrywiaeth yn rhan o'n lleiniau glas. Maen nhw'n cael eu torri unwaith y flwyddyn (naill ai ddiwedd mis Gorffennaf neu yn yr hydref) gan ddefnyddio ein peiriant torri a chasglu. Mae unrhyw wastraff gwyrdd sy'n deillio o hyn naill ai'n cael ei droi'n gompost neu mae pentyrrau cynefin yn cael eu creu ar gyfer bywyd gwyllt. Yn 2020, cafodd 120 hectar o wair yn y Fwrdeistref Sirol eu trin at ddibenion bioamrywiaeth. Mae hynny'n cyfateb i ychydig dros 126 o gaeau Stadiwm Principality. Rydyn ni'n gobeithio cynyddu'r nifer yma flwyddyn ar ôl blwyddyn. Os hoffech chi awgrymu ardal o wair i'w hystyried at ddibenion rheoli blodau gwyllt, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Gwair ar Safleoedd Tai

Mae gwair ein safleoedd tai yn cael ei dorri chwe gwaith yn ystod y tymor tyfu (cyfartaledd o unwaith bob pedair wythnos). Mae'r tymor torri gwair yn cychwyn ddechrau mis Ebrill ac yn gorffen ddiwedd mis Medi.

Lleiniau glas ein Priffyrdd

Mae gwair lleiniau glas ein priffyrdd yn cael ei dorri chwe gwaith yn ystod y tymor tyfu (cyfartaledd o unwaith bob pedair wythnos). Mae'r tymor torri gwair yn cychwyn ddechrau mis Ebrill ac yn gorffen ddiwedd mis Medi.

Ein Parciau Baner Werdd

Safleoedd

Pa mor aml?

Parc Aberdâr

Mae'r prif wair a'r gwair addurnol yn cael eu torri bob tair wythnos yn ystod y tymor tyfu.

Mae gwair y lawnt fowlio'n cael ei dorri dair gwaith yr wythnos yn ystod y tymor chwarae.

Mae'r ardaloedd bioamrywiaeth penodedig yn cael eu torri a'u casglu unwaith y flwyddyn yn yr hydref. Yna, mae'r gwastraff gwyrdd sy'n deillio o hyn yn cael ei ailgylchu a'i ailddefnyddio'n gompost yn y parc.

Parc Ffynnon Taf

Mae'r prif wair a'r gwair addurnol yn cael eu torri bob tair wythnos yn ystod y tymor tyfu.

Mae gwair y lawnt fowlio'n cael ei dorri dair gwaith yr wythnos yn ystod y tymor chwarae.

Mae'r ardaloedd bioamrywiaeth penodedig yn cael eu torri a'u casglu unwaith y flwyddyn yn yr hydref.

Parc Coffa Ynysangharad

Mae'r prif wair a'r gwair addurnol yn cael eu torri bob tair wythnos yn ystod y tymor tyfu.

Mae gwair y lawnt fowlio'n cael ei dorri dair gwaith yr wythnos yn ystod y tymor chwarae.

Mae'r cae criced a'r cae o'i amgylch yn cael eu torri unwaith yr wythnos yn ystod y tymor chwarae.

Mae'r cae pêl-droed yn cael ei dorri unwaith yr wythnos yn ystod y tymor chwarae.

Mae'r ardaloedd bioamrywiaeth penodedig yn cael eu torri a'u casglu unwaith y flwyddyn yn yr hydref. Yna, mae'r gwastraff gwyrdd sy'n deillio o hyn yn cael ei ailgylchu a'i ailddefnyddio'n gompost yn y parc.

Parciau eraill a mannau agored

Mae'r prif wair yn cael ei dorri unwaith bob pythefnos ac mae arwynebau chwaraeon yn cael eu torri unwaith yr wythnos yn ystod y tymor chwarae.

Mae'r ardaloedd bioamrywiaeth pwrpasol yn ein parciau yn cael eu torri unwaith y flwyddyn gan ddefnyddio peiriant torri a chasglu. Yna mae'r gwair sydd wedi'i dorri naill ai'n cael ei ailgylchu (ei gompostio oddi ar y safle) neu, mewn rhai achosion, ei bentyrru i greu eco-bentyrrau ar gyfer ymlusgiaid ac amffibiaid.

Lle does dim modd defnyddio peiriannau i dorri ardaloedd fel glannau serth neu dir anwastad, bydd yr ardal yn cael ei strimio a'i rhacanu â llaw.

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn helpu â'r gwaith yma yn yr ardaloedd dan sylw, anfonwch e-bost aton ni: parciaucefngwlad@rctcbc.gov.uk gan nodi ‘Gafael yn eich Rhaca’.