Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Mae'r Cyngor yn rheoli tua 750 cilometr o hawliau tramwy cyhoeddus. Mae'r rhwydwaith yn darparu cysylltiadau rhwng cefn gwlad a threfi/pentrefi, ac yn galluogi'r cyhoedd i archwilio'u cefn gwlad a'u treftadaeth leol.
Beth yw Hawl Tramwy Cyhoeddus?
Hawl tramwy cyhoeddus yw llwybr sydd wedi'i gofrestru ar y Map Diffiniol o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae yna lwybrau mewn trefi, pentrefi a chefn gwlad. Serch hynny, ddylai llwybrau troed ddim cael eu cymysgu â llwybrau troed y priffyrdd, hynny yw, palmentydd ar ochr y ffordd.
Llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd yw Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Mae'r Cyngor yn gwneud ei orau er mwyn sicrhau bod arwyddion yn dangos hawliau tramwy cyhoeddus yn glir oddi ar y ffyrdd a bod marciau ar hyd y llwybrau.
Yn ogystal â hyn, mae yna lwybrau cyhoeddus caniataol yn y Fwrdeistref. Mae perchenogion y tir yma, ar y cyd â'r Cyngor, wedi rhoi caniatâd i aelodau'r cyhoedd gerdded ar draws y tir. Dydy'r llwybrau yma ddim wedi'u cofnodi ar y Map Diffiniol.
Llwybrau Cyhoeddus
Cerddwyr yn unig. Mae yna dros 650 cilometr o lwybrau troed yn Rhondda Cynon Taf.
Llwybr ceffylau
Cerddwyr, ceffylau a beiciau yn unig.
Mae yna dros 80 cilometr o lwybrau ceffylau yn Rhondda Cynon Taf.
Cilffordd
Pob math o draffig, gan gynnwys cerbydau.
Mae yna dros 18 cilometr o gilffyrdd yn Rhondda Cynon Taf.
Llwybr troed caniataol
Cerddwyr yn unig yn unol â chytundeb â pherchennog y tir.
Canllawiau ar gyfer y rheiny sy'n defnyddio llwybrau cyhoeddus yn ystod tywydd garw neu ar ôl hynny
Mae'r rhwydwaith llwybrau cyhoeddus yn cynnwys llwybrau, llwybrau ceffylau a chilffyrdd. Mae ansawdd wynebau'r llwybrau yma yn amrywio yn ôl eu defnydd. Er enghraifft, dylai wyneb llwybr cerdded fod yn addas ar gyfer ei ddefnyddio fel llwybr cyhoeddus ar droed. Bydd wyneb naturiol ar rai o'r llwybrau, a bydd eu hansawdd yn amrywio yn ôl lleoliad, cyflwr y tywydd a'r tymhorau. Bydd yr un peth yn wir am lwybrau lled-drefol, a allai fod â wyneb tarmac neu garreg.
Mae pawb sy'n defnyddio llwybr cyhoeddus yn gyfrifol am gymryd y camau gofal angenrheidiol ymlaen llaw cyn eu defnyddio. O ganlyniad i hynny, dylai'r defnyddiwr asesu cyflwr cyffredinol y llwybr, cymryd gofal priodol a bod yn barod i ddefnyddio llwybr arall yn ôl yr angen. Yn ogystal â hynny, dylai'r defnyddiwr wisgo dillad ac esgidiau addas, gan ddibynnu ar y tywydd, e.e. efallai y bydd dillad sy'n gwrthsefyll dŵr, esgidiau glaw (wellingtons) a/neu ddillad cynnes ychwanegol yn briodol.
Dylai'r defnyddiwr gymryd gofal arbennig yn ystod tywydd garw neu ar ôl tywydd garw, e.e. cyfnodau o law anarferol o drwm sy'n peri i rai wynebau fynd yn llithrig a/neu'n wlyb gan ddibynnu ar y tir.
Ffynonellau eraill o wybodaeth:-
Llwybrau Cerdded | Croeso Rhondda Cynon Taf, De Cymru (rctcbc.gov.uk)
Hawliau Tramwy yng Nghymru a Lloegr - Ramblers Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru / Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Nghymru
Hawliau Tramwy Cyhoeddus | LLYW.CYMRU