Mae modd gweld map o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf ar-lein. Dydy'r map yma ddim yn gofnod cyfreithiol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus ond mae modd ei ddefnyddio at ddibenion hamdden.
Nodwch yr wybodaeth ganlynol sydd wedi’i chynnwys yn rhan o delerau defnyddio cyfleuster Mapio'r We:
"Mae'r wybodaeth hawliau tramwy cyhoeddus sydd i'w gweld ar y map rhyngweithiol yn dod o gopi gwaith y Cyngor o haen y Map Diffiniol. Nid dyma'r Map Diffiniol ac ni ddylai ei ystyried yn gofnod cyfreithiol o hawliau tramwy cyhoeddus yn y Fwrdeistref Sirol. Canllaw at ddibenion dangosol yn unig yw'r map, felly ddylech chi ddim dibynnu arno at ddibenion cyfreithiol neu fasnachol. Os ydych chi'n dymuno archwilio'r Map Diffiniol, neu os oes angen i chi wneud chwiliad cyfreithiol o'r cofnodion hawliau tramwy cyhoeddus, neu os oes gyda chi unrhyw ymholiadau eraill am statws llwybr neu aliniad llwybr, cysylltwch â'r Gwasanaethau i Gwsmeriaid gan ofyn i siarad â'r Garfan Hawliau Tramwy."
Llwybrau eraill sy'n cael eu hyrwyddo:
Llwybrau Cerdded | Croeso Rhondda Cynon Taf, De Cymru (rctcbc.gov.uk)