Skip to main content

Cynllunio - Cyngor cyn ymgeisio

Oes angen caniatâd cynllunio arna i?

Bu newidiadau i'r drefn gynllunio yng Nghymru, o 1 Hydref 2013, gan ymestyn Hawliau Datblygu a Ganiateir ymhellach i gynlluniau deiliad tŷ. Mae hyn yn golygu does dim angen ichi gael caniatâd cynllunio llawn ar gyfer rhai addasiadau i'r tŷ a'r ardd. Dyw'r gofyniad ar gyfer pan fo Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol ddim wedi newid.

 Gwefan y Llywodraeth: Oes angen caniatâd arnoch chi?

Os ydych chi dal yn ansicr a oes angen caniatâd, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio llawn. Os nad oes angen caniatâd llawn, byddwn ni'n cyhoeddi Tystysgrif Cyfreithlondeb yn lle hynny.

Tystysgrif Datblygu Cyfreithlon

Bydd Tystysgrif Datblygu Cyfreithlon yn rhoi ateb pendant i chi does angen caniatâd cynllunio, mae'n rhwym yn gyfreithiol a dylech chi ei chadw'n ddiogel ymhlith eich gwaith papur cysylltiedig, ar gyfer pan ddewch i werthu eich tŷ. Bydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi doedd dim angen caniatâd llawn, ac efallai bydd yn atal oedi diangen.

Y ffi am Dystysgrif yw 50% o'r ffi ar gyfer cais llawn, a bydd y gwahaniaeth yn cael ei ad-dalu os does angen caniatâd llawn.

Ar ôl adolygu'r holl wybodaeth, os ydych chi'n siŵr does dim angen caniatâd ar eich cynllun, ond hoffech chi'r sicrwydd mae Tystysgrif Cyfreithlondeb yn ei roi, mae modd i chi wneud cais am un gan ddefnyddio'r ffurflen Cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon (Arfaethedig), neu ar-lein drwy'r Porth Cynllunio.

Cynllunio – Gwasanaethau Ychwanegol

Mae'r Adran Gynllunio yn cynnig ystod o wasanaethau ac yn annog ac yn croesawu'r cyfle i gynnig cyngor cyn y bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno. Ein nod yw annog a hyrwyddo datblygiadau o ansawdd uchel ac i wella effeithlonrwydd ein gwasanaeth. 

Bydd amrywiaeth o ffioedd yn daladwy am gyngor cyn cyflwyno cais a fydd yn amrywio gan ddibynnu ar faint a graddfa'r datblygiad.

Llinell cyn cyflwyno cais am COVID

Noder ar hyn o bryd does dim modd i ni gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb naill ai ar y safle neu yn y swyddfa oherwydd y sefyllfa COVID-19. Hefyd, dim ond hyn a hyn o systemau rhithwir sydd ar gael, ac felly does dim modd i nifer o swyddogion drefnu cyfarfodydd o'r fath. Oherwydd hyn, noder y bydd y rhan fwyaf o gyflwyniadau cyn cyflwyno cais ddim yn cynnwys cyfarfod gyda swyddog ar hyn o bryd, a bydd hyn yn annhebygol hyd nes bod sefyllfa bresennol y Llywodraeth o ran ymbellhau cymdeithasol yn newid. Dylech chi ystyried y wybodaeth yma cyn gwneud unrhyw ymholiad cyn cyflwyno cais ar hyn o bryd.

Llinell cyn cyflwyno cais am Systemau Draenio Cynaliadwy

Noder fod y rhan fwyaf o ymholiadau cyn cyflwyno cais bellach ddim yn cynnwys sylwadau gan Adran Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor. Yn unol ag Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, ers 7 Ionawr 2019 mae'n rhaid i drefniadau draenio dŵr wyneb y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd gydymffurfio â'r Safonau Cenedlaethol gorfodol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS). Mae'n rhaid dangos y rhain mewn cais ar wahân am Gymeradwyaeth Draenio Cynaliadwy gan y Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB) cyn dechrau unrhyw waith datblygu ar y safle. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddatblygiad lle mae'r gwaith adeiladu yn fwy nag un annedd neu'n cynnwys arwynebedd o 100 metr sgwâr neu fwy. Noder bod y gofyniad i gael cymeradwyaeth ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy y tu allan i'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref a does dim modd ei gyflawni'n ôl-weithredol. 

Mae gan Adran Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor ei wasanaeth cyn cyflwyno cais ei hun ac mae manylion llawn o'r rhain ar gael yma - https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/ParkingRoadsandTravel/Roadspavementsandpaths/SustainableDrainage/SustainableDrainages.aspx.

Cyngor cyn gwneud cais

Anogir ymgeiswyr a datblygwyr yn weithredol i ymgysylltu â'r Cyngor yn ystod y cam cynharaf posibl wrth ddatblygu cynllun. Y manteision i chi o gael y cyngor yma fyddai asesiad o'r ddesg ac ymateb ysgrifenedig yn cynnwys y canlynol:

Cynllun Mwy Manwl

Chwilio am ymateb manylach i'ch cynlluniau a'ch syniadau?

I gael ymateb a chyngor mwy cynhwysfawr, mae'r Cyngor wedi teilwra gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio wedi'i deilwra.

Yn dibynnu ar y math o wasanaeth y byddwch chi'n ei ddewis, mae yna opsiwn i gwrdd â swyddog am dâl bychan. Ar gyfer y gwasanaeth mwy manwl byddwch chi'n derbyn: 

  • opsiwn ar gyfer cyfarfod ar y safle neu mewn swyddfa gyda swyddog cynllunio, am dâl bychan ychwanegol
  • asesiad o'r datblygiad arfaethedig
  • ystyried y prif faterion cynllunio
  • ffyrdd o wella'r cynllun
  • sut y gellid lliniaru unrhyw gyfyngiadau
  • rheoli disgwyliadau ymgyngoreion statudol, hynny yw, gofynion parcio oddi ar y stryd, unrhyw faterion o ran llifogydd, asesu risg glo, arolygon ystlumod, hawliau tramwy ac ati
  • manylion yr hanes cynllunio ar gyfer y safle
  • rhestr o bolisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol neu Ganllawiau Cynllunio Atodol efallai yr hoffech chi eu hystyried.
  • amlinelliad o unrhyw gyfyngiadau amgylcheddol
  • manylion sut y bydden ni'n delio â'ch cais
  • syniad ynghylch a fyddai'ch datblygiad yn atebol i Ardoll Seilwaith Cymunedol neu gyfraniad Adran 106.

Os ydych chi am ddefnyddio'r gwasanaeth yma, rhaid i chi gyflwyno ffurflen ymholiad cyngor cyn ymgeisio sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl am eich cynnig, darparu cynllun o'r lleoliad a thalu'r ffi berthnasol sydd wedi'i rhestru isod.

Taliadau gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio mwy manwl

 

 

Cyfarfod swyddogion

Deiliad tŷ

£51

£25.50

Annedd Sengl

£102

£41

Datblygiad Llai

£305

£152.50

Datblygiad Mawr

£712

£356

Datblygiad ar raddfa fawr

£1220

£610

Ceisiadau Cyflym

A oes angen penderfyniad cyflym arnoch chi?

Efallai y bydd adegau pan fydd angen penderfyniad cyflym arnoch chi ar eich cais cynllunio. Er enghraifft, efallai y bydd gyda chi adeiladwyr yn aros i weithio neu sydd ag amserlen i ddechrau gweithio, efallai trefniant cytundebol, neu efallai eich bod chi am i'ch cais gael ei drin cyn gynted â phosibl.

 Fel arfer, mae'n ofynnol i'r Cyngor benderfynu ar eich cais o fewn 8 wythnos ac weithiau efallai fydd dim penderfyniad yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod yma. Felly, os hoffech i'ch cais gael ei benderfynu'n gynt byddwn ni'n cyflymu eich cais am dâl ychwanegol o £86, a rhoi penderfyniad i chi o fewn 28 diwrnod ar ôl cofrestru. Yn yr achos annhebygol y byddwn ni'n methu â chyrraedd y targed yma, byddwn ni'n ad-dalu'r ffi lawn i chi.

Dydy defnyddio'r gwasanaeth Ceisiadau Cyflym ddim yn effeithio ar rinweddau'r cynnig ac felly er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleuster yma efallai y bydd gyda chi ddiddordeb yn ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio a fydd yn sicrhau bod unrhyw broblemau posibl a fydd o bosibl yn arwain at oedi yn cael sylw cyn i chi gyflwyno'ch cais.

Os ydych am ddefnyddio'r gwasanaeth yma, lawrlwythwch y ffurflen gais a'i llenwi ac yna'i dychwelyd, ynghyd â'r ffi, y ffurflen gais cynllunio safonol a'r cynlluniau, i gwasanaethaucynllunio@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu Ffyniant a Datblygiad, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

Tystysgrifau Cwblhau – Tystysgrif Iechyd Glân

Ydych chi'n chwilio am dawelwch meddwl ynghylch gwaith sy'n digwydd yn eich eiddo?

 Mae Tystysgrif Cwblhau yn wasanaeth dewisol y mae'r Cyngor yn ei gynnig. Bydd y dystysgrif yn: - 

  • Datgan p'un a yw'r cais am Ganiatâd Cynllunio a/neu Ganiatâd Adeilad Rhestredig wedi cael ei wneud yn unol â'r cynlluniau sy wedi'u cymeradwyo
  • Cadarnhau statws yr holl Amodau ac unrhyw newidiadau cymeradwy os yw'n berthnasol.

Diben y gwasanaeth newydd yma yw cynnig cymorth i ymgeiswyr, asiantau neu unrhyw barti arall sydd â diddordeb bod y gwaith yn briodol ac yn dderbyniol ar ôl ei gwblhau. Os oes problem ynghylch diffyg cydymffurfio, caiff hyn ei ddwyn i sylw'r ymgeisydd gan roi cyfle i'r ymgeisydd unioni'r tor-reolaeth cynllunio.

Bydd y gwasanaeth yn cynnwys archwiliad safle ac ymchwil ac ymchwiliad wrth y ddesg.

Ar gyfer ceisiadau gan ddeiliaid tai a mân geisiadau, y ffi ar gyfer y gwasanaeth yma fyddai £51 ar gyfer pob rhif cais sydd angen tystysgrif. Byddwn yn ceisio darparu ymateb ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod.

Os ydych yn dymuno defnyddio'r gwasanaeth yma, gwnewch hynny trwy gwasanaethaucynllunio@rctcbc.gov.uk neu Ffyniant a Ddatblygu, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU. Ar ôl derbyn eich cais a'ch taliad, caiff ei logio a bydd llythyr cydnabod yn cael ei anfon gyda'r cyfeirnod. Yna, bydd eich swyddog achos mewn cysylltiad i drefnu ymweliad â'r safle.

Cytundebau Cyflawniad Cynllunio

Gadewch i ni wneud y gwaith anodd ar eich rhan!

Mae Cytundebau Cyflawniad Cynllunio yn ein galluogi ni i'ch helpu chi i reoli eich prosiect a chyflwyno'ch cynigion i amserlen gytûn, gyda chamau gweithredu ac adnoddau yn seiliedig ar eich anghenion. Mae modd defnyddio Cytundebau Cyflawniad Cynllunio yn ystod y cam cyn ymgeisio, cam y cais cynllunio a'r cam ôl-benderfyniad neu unrhyw gyfuniad o'r rhain.

Mewn egwyddor, mae modd defnyddio Cytundebau Cyflawniad Cynllunio ar gyfer unrhyw gais, ac er eu bod nhw'n fwy effeithiol ar gyfer cynigion cymhleth ar raddfa fawr, mae'r Cyngor yn cynnig cytundeb symlach ar gyfer cynlluniau llai, yn seiliedig ar gerrig milltir allweddol y prosiect y byddai angen cadw atyn nhw. Mae'r Cyngor hefyd yn hyrwyddo'i wasanaeth cyngor cyn ymgeisio ar gyfer pob cynnig.

Yn genedlaethol, mae awdurdodau lleol ac ymgeiswyr cynllunio wedi nodi nifer o fanteision clir ar gyfer defnyddio Cytundebau Cyflawniad Cynllunio, gan gynnwys: 

  • nodi materion allweddol ac ymgyngoreion yn gynnar
  • rhoi gwarant o adnoddau'r Cyngor gydag amserlenni synhwyrol
  • rheolaeth gyffredinol well o'r cyfnod cyn ymgeisio i'r camau ôl-ymgeisio
  • rhagor o atebolrwydd, tryloywder a chyfathrebu
  • gweithio mewn partneriaeth yn well
  • parhad a chysondeb gan swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol, a 
  • chyngor pwrpasol gan ymgyngoreion allweddol (er enghraifft rheoli adeiladu, yr amgylchedd, priffyrdd ac ati).

Os hoffech ddefnyddio'r gwasanaeth hwn gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein Siarter cytundeb perfformiad cynllunio drwy anfon e-bost at gwasanaethaucynllunio@rctcbc.gov.uk.

Gwiriadau Dilysu

Hoffech chi sicrhau bod eich cais cynllunio yn gywir y tro cyntaf?

Bydd nifer o geisiadau am ddatblygiadau deiliad tŷ neu fân ddatblygiadau'n cael eu cyflwyno'n uniongyrchol gan yr ymgeisydd neu asiant, ac efallai fyddan nhw ddim wedi elwa o gyngor gan ymgynghorydd cynllunio nac yn cynnwys cynlluniau sy wedi'u llunio'n broffesiynol.

Er bod cyflwyniadau o'r fath yn dderbyniol, dydy llawer o'r ceisiadau ddim yn bodloni gofynion dilysu statudol. Mae materion sy'n codi'n rheolaidd yn cynnwys diffyg cynlluniau, cynlluniau sydd wedi'u llunio i'r raddfa anghywir neu gynlluniau â manylion ar goll, ffurflenni cais anghyflawn neu heb lofnod, neu daliadau anghywir o ran ffioedd.

Er mwyn gwneud y broses yma'n haws, mae'r Cyngor wedi cyflwyno gwiriad dilysu cyn cyflwyno ar gyfer ceisiadau gan ddeiliaid tai a mân geisiadau, am dâl bychan o £20. Mae hyn yn golygu y byddai eich cais yn barod i fynd ac yn atal y rhwystredigaeth a'r oedi a achosir gan ohebiaeth a galwadau ffôn i wneud cywiriadau.

Os ydych chi am ddefnyddio'r gwasanaeth yma, rhaid i chi gyflwyno ffurflen archwiliad dilysu ynghyd â'r ffi. Yn ogystal ag anfon eich cais atom drwy'r post neu yn electronig, cewch chi hefyd ein ffonio ni er mwyn trefnu apwyntiad a byddwn ni'n gwirio'ch cais wrth i chi aros!

Cyngor cyn ymgeisio – Cynllun Statudol 

Hoffech chi wybod a fyddai eich cynlluniau yn dderbyniol mewn egwyddor?

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn bod pob Awdurdod Cynllunio Lleol yn darparu gwasanaeth cyn ymgeisio statudol. Ar gyfer y gwasanaeth statudol byddwch chi'n derbyn: 

  • barn sylfaenol ynghylch a fyddai'r datblygiad yn dderbyniol mewn egwyddor
  • manylion hanes cynllunio ar gyfer y safle
  • rhestr o bolisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol neu Ganllawiau Cynllunio Atodol efallai yr hoffech chi eu hystyried
  • amlinelliad o unrhyw gyfyngiadau amgylcheddol
  • cyngor datblygu cyffredinol
  • manylion ynghylch sut y bydden ni'n delio â'ch cais
  • syniad a fyddai'ch datblygiad yn destun Ardoll Seilwaith Cymunedol neu gyfraniad Adran 106.

Os ydych chi'n dymuno defnyddio'r gwasanaeth yma, rhaid i chi gyflwyno ffurflen ceisio cyngor cyn ymgeisio sy'n cynnwys gwybodaeth am eich cynnig. Rhaid hefyd darparu cynllun o'r lleoliad a thalu'r ffi berthnasol. Anogwn i chi ddarparu cymaint o fanylion â phosibl ar eich cynnig er mwyn galluogi ymateb manwl a chywir.

Taliadau Statudol Cenedlaethol am wasanaeth cyngor cyn ymgeisio

Math o Gais

Ffi

Cyfarfod â Swyddog Cynllunio

Deiliad tŷ

£25

Ddim yn berthnasol

Datblygiad Llai

£250

Ddim yn berthnasol

Datblygiad Mawr

£600

Ddim yn berthnasol

Datblygiad ar raddfa fawr

£1,000

Ddim yn berthnasol

 

Ewch i www.securedbydesign.com i gael y Canllaw Cartrefi Newydd 2019
Mae Diogelu Drwy Ddylunio (SBD) yn fenter ddiogelwch swyddogol yr heddlu sy’n gweithio i wella diogelwch adeiladau a’r hyn sydd o’u cwmpas er mwyn darparu mannau diogel i fyw, gweithio, siopa ac ymweld â nhw.

Anfonwch ddogfennau at gwasanaethaucynllunio@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu Ffyniant a Datblygiad, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

Gwnewch sieciau'n daladwy i 'RCTCBC' neu ffonio 01443 281135 i dalu dros y ffôn