Skip to main content

Ailgylchu batris, fêps ac offer trydanol bach

Batris

Ddylech chi byth roi batris yn eich bagiau du neu fagiau ailgylchu clir gan fod modd iddyn nhw niweidio'r amgylchedd ac achosi tanau yn ystod y cam prosesu.

Batris o'r tŷ

Mae batris cyffredin o'r tŷ yn cynnwys:

  • Batris AA ac AAA (batris bach siâp silindr a gaiff eu defnyddio'n gyffredin mewn offer trydanol bach)
  • Batris C a D (batris siâp silindr mawr a gaiff eu defnyddio'n gyffredin mewn offer trydanol mawr)
  • Batris botwm (batris crwn bach a gaiff eu defnyddio'n gyffredin ar gyfer oriorau neu gymhorthion clyw)

Mae modd ailgylchu batris cyffredin o'r tŷ yn eich Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned lleol neu archfarchnadoedd.

Batris ceir a cherbydau

Mae modd ailgylchu batris mawr o geir a cherbydau eraill yn rhai o'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.

Gwiriwch pa Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned all dderbyn batris ceir a cherbydau

Fêps

Ddylech chi byth roi fêps yn eich bagiau du neu fagiau ailgylchu clir gan fod modd iddyn nhw niweidio'r amgylchedd ac achosi tanau yn ystod y cam prosesu.

Mae modd ailgylchu fêps ym mhob un o'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.

Gwiriwch leoliadau ac oriau agor Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.

Offer trydanol bach

Ddylech chi ddim rhoi offer trydanol bach yn eich bagiau du na'ch bagiau ailgylchu. Maen nhw'n cynnwys deunyddiau gwerthfawr mae modd eu hailgylchu'n ddiogel.

Offer trydanol yw unrhyw offer:

  • sydd â phlwg
  • sy'n defnyddio batris
  • mae angen eu gwefru
  • sydd â llun o fin olwynion â marc 'X' arno

Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned

Mae modd ichi fynd â'ch hen offer trydanol i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol i'w hailgylchu.

Gwiriwch pa offer trydanol mae'r ganolfan yn eu derbyn cyn i chi fynd yno.

Biniau offer trydanol bach mewn canolfannau hamdden

Mae biniau wrth y dderbynfa mewn rhai canolfannau hamdden ar gyfer offer trydanol bach.

Dyma rai o'r eitemau mae modd ichi eu hailgylchu:

  • Offer gofal personol - er enghraifft steilwyr gwallt, brwsys dannedd ac eillwyr
  • Offer cegin - er enghraifft tegellau, tostwyr a chymysgwyr
  • Dyfeisiau electronig - er enghraifft ffonau, radios, chwaraewyr CD/DVD a chonsolau gemau
  • Goleuadau - er enghraifft lampau, ffitiadau golau
  • Ceblau a gwifrau gwefru

Fyddwn ni ddim yn derbyn:

  • Fêps
  • Offer cegin mawr - er enghraifft ffriwyr aer a microdonnau

Ewch â'r eitemau yma i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol.

Mae modd mynd â'ch offer trydanol bach i'r canolfannau hamdden canlynol:

  • Canolfan Chwaraeon Abercynon
  • Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen
  • Canolfan Hamdden Llantrisant
  • Canolfan Hamdden Rhondda Fach
  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
  • Canolfan Hamdden Sobell
  • Canolfan Hamdden Tonyrefail

Gweld lleoliadau eich canolfannau hamdden lleol.

Siopau ac archfarchnadoedd

Rhaid i lawer o fanwerthwyr sy'n gwerthu offer trydanol gynnig gwasanaeth dychwelyd am ddim pan fyddwch chi'n prynu eitem newydd.

Mae rhai manwerthwyr hefyd yn derbyn offer trydanol i'w hailgylchu, heb fod angen i chi siopa yno.

Gwiriwch pa siopau ac archfarchnadoedd lleol sy'n cynnig ailgylchu offer trydanol bach.