Skip to main content

Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned

Mae modd mynd ag eitemau cartref nad oes eu casglu yn rhan o'ch casgliadau gwastraff ac ailgylchu cyffredinol i'n chwe chanolfan ailgylchu yn y gymuned. 

Oriau agor a lleoliadau 

Mae gyda phob Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned yr un oriau agor:

  • Mis Hydref i Fis Mawrth:  Dydd Llun i ddydd Sul, 8.30am i 4.30pm
  • Mis Ebrill i Fis Hydref: Dydd Llun i ddydd Sul, 8.30am i 6.30pm
  • Ar gau yn ystod gwyliau banc y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 

Mae chwe Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf:

  • Aberdâr: Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0BX
    Ffôn: 07483 922322
  • Dinas: Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Dinas, Heol Cymer, Dinas, CF39 9BL
    Ffôn: 07483 133706
  • Glynrhedynog: Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Glynrhedynog, Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS
    Ffôn: 07508 829782
  • Llantrisant: Canolfan Ailgylchu 100% Llantrisant, Heol Pant-y-Brad, ger Heol-y-Sarn, Ystad Ddiwydiannol Llantrisant, CF72 8XZ
    Ffôn: 07483 952801
  • Trefforest: Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Trefforest, Heol Ffynnon Taf, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
    Ffôn: 07483 180511
  • Treherbert: Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ
    Ffôn: 07483 951707

Os nad os modd i chi fynd ag eitem fawr i'r ganolfan ailgylchu, mae modd i chi drefnu casgliadau eitemau mawr o'ch cartref.

Beth sy'n cael a ddim yn cael ei ailgylchu yn y canolfannau

Eitemau sy'n cael eu derbyn ym mhob canolfan:

  • Batris - er enghraifft batris sy'n cael eu defnyddio yn y cartref
  • Ceblau ac eitemau sy'n ymwneud â'r cyfryngau - er enghraifft ceblau, gwifrau, plygiau, tapiau fideo, CDau, DVDau
  • Dillad - er enghraifft dillad, esgidiau a bagiau
  • Deunyddiau adeiladu - er enghraifft rwbel, concrit, teils, crochenwaith, plastrfwrdd (rhaid bod yn lân heb unrhyw ddeunydd arall ynghlwm)
  • Offer trydanol (wedi'u gwagio a'u glanhau) - er enghraifft oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi dillad, sychwyr dillad, tegelli, tostwyr, setiau teledu, monitorau, chwaraewyr DVD, consolau, (Dydyn ni ddim yn derbyn offer masnachol - trefnwch gasgliad gwastraff masnachol: 01685 870770.)
  • Dodrefn a deunyddiau dodrefnu meddal - er enghraifft soffas, dodrefn pren, carpedi, rygiau, matresi, gobenyddion, carthenni plu (duvets), tecstilau, teganau meddal
  • Gwastraff Gardd - er enghraifft glaswellt, deiliach gwrych, dail, blodau, peli gwreiddiau blodau, llwch llif, deunydd gwelyau anifeiliaid cwt, pridd, mwd, canghennau, boncyffion
  • Gwydr - er enghraifft poteli, paneli ffenestri
  • Metelau - er enghraifft caniau diodydd, pibellau, handlenni drysau, rheiliau, toeau metel
  • Eitemau symudedd - er enghraifft ffyn cerdded, baglau, fframiau cerdded
  • Olewau - er enghraifft olew coginio ac olew injan
  • Papur a chardbord - er enghraifft llyfrau, cardbord, cartonau diodydd, papur, cetris inc  
  • Plastigion - er enghraifft plastig caled, poteli, polystyren, ffenestri UPVC, teiars, teganau plastig
  • Ffenestri a gwydr - er enghraifft ffenestri UPVC, paneli gwydr, cwareli ffenestri
  • Pren - er enghraifft pren a drysau
  • Fêps - defnydd sengl ac ailddefnyddiadwy

Eitemau sy'n cael eu derbyn mewn rhai canolfannau:

  • Asbestos - yn cael ei dderbyn yn Aberdâr. Mae angen i chi gadw lle ymlaen er mwyn gwared ag asbestos
  • Baw Cathod (mewn bag wedi'i glymu) - yn cael ei dderbyn yn Aberdâr, Dinas, Glynrhedynog, Trefforest a Threherbert mewn bag wedi'i glymu
  • Batris ceir - yn cael ei dderbyn ym mhob canolfan ar wahân i Ganolfan Glynrhedynog
  • Cemegau (yn eu cynwysyddion gwreiddiol) - yn cael eu derbyn yng Nghanolfan Tŷ Amgen  
  • Goleuadau tiwb fflwroleuol - yn cael eu derbyn yn Aberdâr, Dinas, Llantrisant, Trefforest a Threherbert
  • Silindrau nwy LPG (dim ocsi-asetylen nac ocsigen) - yn cael eu derbyn yn Aberdâr, Dinas, Glynrhedynog, Llantrisant a Threherbert

Eitemau sydd ddim yn cael eu derbyn mewn unrhyw ganolfan:

Rheolau'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned 

Wrth ddefnyddio'r ganolfan:

  • Rhaid dangos tystiolaeth eich bod chi'n breswylwyr yn Rhondda Cynon Taf - er enghraifft bil cyfleustodau, trwydded yrru, neu gytundeb rhentu
  • Dim ond eitemau cartref y mae modd eu gwaredu yn y canolfannau
  • Rhaid gwaredu â gwastraff masnachol yng Nghyfleuster Didoli Gwastraff Masnachol Bryn Pica - Ffoniwch 01685 870770 i drefnu ymweliad gwared â gwastraff.
  • Rhaid i chi ddidoli pob eitem ymlaen llaw cyn cyrraedd - er enghraifft pren, plastig, metel, gwydr
  • Does dim modd i staff eich helpu chi i ddadlwytho na chodi eitemau
  • Parchwch ein staff sy'n rhedeg y ganolfan – fydd dim croeso i gam-drin
  • Dilynwch y rheolau rheoli traffig yn unol â'r hynny sydd wedi'i nodi ar yr arwyddion
  • Os bydd ciwiau'n dechrau effeithio ar draffig, efallai y bydd gofyn i chi ddychwelyd yn ddiweddarach
  • Yn ystod cyfnodau prysur, fyd dim hawl gyda chi i ymuno â'r ciw 30 munud cyn amser cau
  • Rhaid i blant ac anifeiliaid aros yn y cerbyd
  • Chewch chi ddim ysmygu ar y safle

Van and commercial vehicle rules

Rheolau ar gyfer faniau a cherbydau masnachol

Rhaid i bob fan a cherbyd masnachol sy'n fwy na 4x4 sy'n gwaredu ag eitemau domestig ffonio a threfnu ymlaen llaw er mwyn defnyddio'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned.

Fydd dim hawl i lorïau tipio gwastad, faniau Luton dros 1.5 tunnell na thractorau sy'n tynnu trelars waredu â gwastraff yn ein canolfannau.

Ffoniwch i drefnu ymweliad gwared â gwastraff yn eich fan: 07824 541758.

Bydd rhaid i chi ddarparu'r manylion canlynol er mwyn trefnu ymweliad gwared â gwastraff yn eich fan:

  • manylion cyswllt
  • manylion y cerbyd
  • i ba ganolfan ailgylchu yn y gymuned y byddwch chi'n mynd â'ch gwastraff
  • pryd byddwch chi'n mynd i'r ganolfan
  • pa wastraff rydych chi'n ei waredu
  • o ble daeth y gwastraff

Pan fyddwch chi'n cyrraedd y ganolfan ailgylchu yn y gymuned, bydd angen i chi:

  • roi gwybod i aelod o staff eich bod chi wedi cyrraedd
  • dangos tystiolaeth eich bod chi'n breswyliwr yn Rhondda Cynon Taf (e.e. bil cyfleustodau, trwydded yrru, neu gytundeb rhentu)
  • cwblhau ffurflen
  • dangos cynnwys eich fan i'r staff

Trefnwch ymweliad er mwyn gwaredu â gwastraff masnachol

Mae modd i chi dalu er mwyn gwared â gwastraff masnachol yng Nghyfleuster Didoli Gwastraff Masnachol Bryn Pica.

Ffoniwch i drefnu ymweliad gwaredu â gwastraff: 01685 870770.

Mae modd i geisio gwaredu â gwastraff masnachol yn ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned fod yn drosedd yn unol ag Adran 34 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.