Skip to main content

Gwastraff clinigol

Sut i gael gwared ar wahanol fathau o eitemau miniog meddygol, rhwymynnau a gwastraff clinigol arall gartref. 

Offerynnau Meddygol Miniog

Mae angen rhoi eitemau miniog meddygol mewn bin eitemau miniog melyn sy'n cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. 

Mae offer miniog meddygol yn cynnwys:

  • Nodwyddau
  • Chwistrelli
  • Dyfeisiau pigo bys ar gyfer profi gwaed
  • Offer miniog mewn perthynas â diabetes

Ffoniwch Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ar 03000 123 9208 i drefnu i fin eitemau miniog gael ei ddanfon neu ei gasglu.

Gwastraff heintus

Mae angen rhoi gwastraff sydd wedi'i halogi â gwaed neu wastraff dialysis mewn bagiau oren sy'n cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. 

Mae gwastraff heintus yn cynnwys:

  • Cadachau
  • Menig
  • Gorchuddion Sych
  • Rhwymynnau
  • Ffedogau

Ffoniwch Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgan ar 03000 123 9208 i drefnu i fagiau gael eu danfon neu eu casglu.

Gwastraff Bagiau Stoma / Cathetr a Cholostomi

Dylid gwared â gwastraff bagiau stoma, cathetr a cholostomi yn eich bag gwastraff du.

Gwastraff Anymataliaeth

Mae Casgliadau Gwastraff Anymataliaeth yn wasanaeth wythnosol AM DDIM i drigolion Rhondda Cynon Taf. Cofrestrwch ar gyfer casgliadau er mwyn casglu eich gwastraff anymataliaeth. O fewn pythefnos i gofrestru, byddwn ni'n anfon e-bost atoch yn nodi eich diwrnod casglu ac yn danfon eich bagiau porffor. Mae modd i chi archebu rhagor o fagiau ar-lein.

Dysgwch ragor am Gasgliadau Gwastraff Anymataliaeth

Meddyginiaethau a thermomedrau

Mae modd gwared â meddyginiaethau diangen yn eich fferyllfa leol.

Mae modd i hyn gynnwys:

  • Tabledi neu bilsenni diangen
  • Anadlwyr Asthma
  • Thermomedrau

Dewch o hyd i'ch fferyllfa leol