Mae Casgliadau Bagiau Du ar gyfer gwastraff bob dydd does dim modd ei ailgylchu na'i gompostio a chaiff ei gasglu o ochr y ffordd bob tair wythnos.
Dyma'r drefn
Mae modd rhoi 3 bag du maint safonol (70 litr) wrth ymyl eich ffordd i'w casglu bob tair wythnos. Rhaid i chi brynu eich bagiau du eich hun.
Caiff yr holl wastraff bagiau du ei gludo i Gyfleuster Adfer Ynni yng Nghaerdydd. Mae'r cyfleuster yn ymdrin â thua 425,000 tunnell o wastraff does dim modd ei ailgylchu, y flwyddyn. Mae'n atal gwastraff rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi ac yn cynhyrchu trydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol.
Cyn rhoi bagiau allan i'w casglu, gwnewch y canlynol:
- Gwirio'ch diwrnod casglu bagiau du
- Dim ond rhoi eitemau does dim modd eu hailgylchu yn eich bagiau
- Rhoi hyd at 3 bag du allan i'w casglu - uchafswm o 70 litr yr un
- Fydd lwfans bagiau du sydd heb ei ddefnyddio ddim yn cael ei drosglwyddo i'ch casgliad nesaf
- Dydyn ni ddim yn casglu bagiau o finiau olwynion
- Peidiwch â gorlenwi'ch bag
- Clymwch ben eich bag yn dynn
- Rhowch eich bagiau allan i'w casglu unrhyw bryd rhwng 7pm y noson gynt a 7am ar fore'r diwrnod casglu.
- Mae rhoi eich bagiau unrhyw le arall yn achos o dipio'n anghyfreithlon ac efallai y cewch ddirwy.
Beth mae modd/does dim modd ei roi yn eich bagiau
Ie:
- Offer miniog neu wydr wedi torri (lapiwch yr eitemau mewn papur er diogelwch cyn eu rhoi yn eich bag du)
- Baw cŵn, baw cathod a gwasarn cathod (rhowch y gwastraff yma mewn bag cyn ei roi yn eich bag du) - Sut i gael gwared ar wastraff anifeiliaid arall
- Lludw glo a phren (rhaid iddi oeri cyn ei roi yn eich bag du)
- Tiwbiau bwydo, bagiau stoma, cathetrau a gwastraff colostomi
Na:
Os does dim modd i chi ddod o hyd i eitem neu ateb ar y rhestr yma, edrychwch yn ein cyfleuster chwilio A-Y.
Mae modd ailgylchu ffoil, haenen lynu (clingfilm), plastigau meddal, dillad a phecynnau creision yn ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned neu yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr.
Bagiau Trwm
Os byddwch chi'n rhoi rhai eitemau fel lludw glo neu wastraff cathod yn eich bagiau du, byddan nhw'n drwm. Rydyn ni felly'n awgrymu eich bod chi'n hanner llenwi eich bagiau fel bod modd eu cario'n ddiogel i'ch man casglu.
Os ydych chi'n cael trafferth codi'r bagiau, os oes gyda chi anawsterau corfforol ac os does neb yn gallu helpu, mae modd i chi wneud cais am wasanaeth casgliadau â chymorth.
Lwfans bagiau du ychwanegol
Mae lwfans bag du ychwanegol ar gyfer eitemau cartref sy'n cael eu defnyddio bob dydd does dim modd eu hailgylchu.
Efallai yr hoffech chi wneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol os ydych chi:
- yn gynhaliwr sy'n defnyddio llawer o fenig, ffedogau neu ddillad meddygol
- yn berchen ar dân glo neu wresogydd llosgi coed
- yn cael gwared ar wastraff cathod
Ar ôl i chi wneud cais, byddwn ni'n cysylltu â chi i drafod eich cais.
Os cewch chi lwfans bagiau du ychwanegol, byddwn ni'n anfon sticeri atoch i'w rhoi ar y bagiau du ychwanegol fel bod y criwiau casglu yn effro i hyn.
Chewch chi ddim rhoi bagiau ychwanegol allan nes bod eich cais wedi'i gymeradwyo.
Gwneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol
Mannau Casglu
Rhowch eich bagiau du yn eich man casglu - peidiwch â rhwystro palmentydd na chyrbau isel.
Mewn mannau casglu cyffredin, rhowch fagiau gyda'i gilydd yn ôl math fel eu bod yn hawdd eu gweld.
Os oes gyda chi broblemau o ran ble rydych chi'n rhoi eich bagiau, neu os yw'ch cymdogion yn rhoi eu bagiau y tu allan i'ch eiddo, e-bostiwch ni gorfodigofalystrydoedd@rctcbc.gov.uk a rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni fel bydd modd i ni ymchwilio i'r mater. Chewch chi ddim eich cosbi os nad chi sydd ar fai.
Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu
Os dyw'ch bagiau ddim wedi cael eu casglu ar ôl 24 awr, mae modd i chi roi gwybod am hyn.
Rhoi gwybod am fagiau du sydd heb gael eu casglu