Skip to main content

Casgliadau gwastraff bwyd

Caiff gwastraff bwyd ei gasglu o ochr y ffordd bob wythnos.

 

Sut mae'n gweithio

Mae angen i chi ddefnyddio un o'n biniau gwastraff bwyd i fanteisio ar ein casgliadau gwastraff bwyd. Os nad oes gyda chi un, mae modd i chi ofyn am fin gwastraff bwyd am ddim i ddechrau manteisio ar gasgliadau.

Mae ailgylchu eich gwastraff bwyd yn cadw plâu allan o'ch bagiau du, yn helpu i reoli eich lwfans bagiau du, ac yn lleihau nwyon tirlenwi sy'n ddrwg i'n hamgylchedd.

O fewn pythefnos i ofyn am fin gwastraff bwyd, byddwch chi'n derbyn:

  • bin bach ar gyfer eich cegin
  • rholyn o fagiau gwastraff bwyd i roi yn eich bin bach
  • bin mawr y mae modd ei gloi ar gyfer y tu allan

Rydyn ni'n casglu gwastraff bwyd o'ch man casglu bob wythnos.

I roi eich gwastraff bwyd allan i'w gasglu:

  • Gwnewch gais am fin bwyd
  • Gwiriwch eich diwrnod casglu gwastraff bwyd
  • Rhowch wastraff bwyd yn unig yn eich bagiau bwyd
  • Defnyddiwch fagiau gwastraff bwyd a gaiff eu darparu gennym ni neu prynwch fagiau safonol y diwydiant o archfarchnadoedd neu fanwerthwyr ar-lein
  • Peidiwch â gorlenwi eich bagiau
  • Pan fydd eich bin gwastraff bwyd cegin yn llawn, tynnwch y bag a chlymwch y bag yn dynn
  • Rhowch y bag yn eich bin gwastraff bwyd y tu allan
  • Clowch dop y bin i atal anifeiliaid rhag mynd i mewn
  • Rhowch eich bin gwastraff bwyd mawr yn eich man casglu arferol erbyn 7am

Gofyn am fin gwastraff bwyd

Gofynnwch am fin gwastraff bwyd i ddechrau manteisio ar y casgliadau wythnosol neu gwnewch gais am fin newydd os oes angen. 

Gofyn am fin gwastraff bwyd

Yr hyn gewch chi ei roi yn y bagiau a'r hyn does dim modd i chi ei roi yn y bagiau

Le:

  • Ffrwythau a Llysiau
  • Cig a Physgod
  • Bara ac eitemau becws
  • Reis, pasta a ffacbys
  • Cynhyrchion llaeth
  • Sawsiau
  • Esgyrn
  • Bagiau te, dail te a choffi
  • Grawnfwyd
  • Bwyd anifeiliaid

Na: 

  • Bagiau plastig, deunydd pacio neu gynwysyddion
  • Gwydr neu fetel
  • Tuniau, caniau a ffoli
  • Deunydd pacio bwyd
  • Cardfwrdd a phapur
  • Pecynnau creision
  • Deunydd lapio clir
  • Olew neu frasterau hylif
  • Hylifau
  • Blodau a gwastraff gardd
  • Dillad

Os nad oes modd i eitem neu ateb ar y rhestr yma, bwriwch olwg ar ein hadnodd chwilio ailgylchu A-Z.

Casglu mwy o fagiau

Mae modd casglu bagiau gwastraff bwyd o nifer o leoliadau lleol.

Peidiwch â storio gormod o roliau o fagiau gartref. Maen nhw wedi'u gwneud yn fwriadol o ddeunydd bioddiraddadwy a fydd yn gwanhau dros amser ac a all ddod yn fregus erbyn i chi eu defnyddio nhw.

Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu

Efallai y bydd ein criwiau'n rhedeg yn hwyr ac efallai na fyddan nhw'n casglu eich bagiau tan yn ddiweddarach yn y dydd. Os nad yw eich bagiau wedi'u casglu ar ôl 24 awr, mae modd i chi roi gwybod am eich gwastraff sydd heb gael ei gasglu.