Mae casgliadau gwastraff gwyrdd (o’r ardd) yn wasanaeth RHAD AC AM DDIM i drigolion Rhondda Cynon Taf. Mae angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yma.
Sut mae'n gweithio
Mae angen i chi gofrestru i ddechrau manteisio ar gasgliadau.
Mae gwastraff gwyrdd yn cynnwys gwastraff naturiol o'r ardd a phlanhigion. Mae casgliadau'n rhad ac am ddim ac maen nhw'n cael eu casglu o ymyl y ffordd. Rydyn ni'n anfon eich gwastraff i gael ei gompostio, felly does dim rhaid i chi fynd ag ef i'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned.
O fewn pythefnos o gofrestru, byddwch chi'n derbyn dwy sach gwastraff gwyrdd am ddim ac unrhyw sachau ychwanegol rydych chi wedi'u harchebu. Mae modd i chi archebu rhagor o sachau gwastraff gwyrdd am £3.20 yr un pan fyddwch chi'n cofrestru neu ar ddyddiad diweddarach.
Mae sachau gwastraff gwyrdd wedi'u cofrestru i gyfeiriad, nid person. Os byddwch chi'n symud, dylech chi adael unrhyw sachau yn y cyfeiriad y cawson nhw eu harchebu iddo'n wreiddiol.
Mae casgliadau'n cael eu gwneud ar amserlen gasglu'r haf a'r gaeaf.
Mae modd mynd â Gwastraff Gwyrdd i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned lleol hefyd.
I roi sachau gwastraff gwyrdd allan i'w casglu:
- Cofrestrwch ar gyfer casgliadau cewynnau.
- Labelwch eich sachau gydag enw neu rif eich tŷ
- Gwiriwch eich diwrnod casglu gwastraff gwyrdd yn yr haf
- Gwnewch gais am gasgliad gwastraff gwyrdd y gaeaf yn y gaeaf.
- Rhowch wastraff gwyrdd yn unig yn eich sachau gwastraff gwyrdd RhCT
- Defnyddiwch y sach gwastraff gwyrdd a ddarparwyd gennym ni yn unig
- Peidiwch â gorlenwi'ch sachau, dylai'r holl wastraff fod o fewn y sachau.
- Croeswch handlenni'r sach
- Rhowch eich sachau yn eich man casglu arferol erbyn 7am ar eich diwrnod casglu
Cofrestru ar gyfer casgliadau
Cofrestrwch eich cyfeiriad i fanteisio ar gasgliadau gwastraff gwyrdd a sachau.
O fewn pythefnos o gofrestru byddwch chi'n derbyn dwy sach gwastraff gwyrdd am ddim ac unrhyw sachau ychwanegol rydych chi wedi'u harchebu. Mae modd i chi archebu mwy o sachau gwastraff gwyrdd am £3.20 yr un pan fyddwch chi'n cofrestru neu ar ddyddiad diweddarach.
Mae sachau gwastraff gwyrdd wedi'u cofrestru i gyfeiriad, nid person. Os byddwch chi'n symud, dylech chi adael unrhyw sachau yn y cyfeiriad y cawson nhw eu harchebu iddo'n wreiddiol. Os nad oes sachau wedi'u gadael, rhowch wybod am y sachau coll
Cofrestru ar gyfer Casgliadau Gwastraff Sachau Gwyrdd
Casgliadau'r haf a'r gaeaf
Mae casgliadau gwastraff gwyrdd yn cael eu gwneud ar amserlen gasglu yr haf a'r gaeaf.
Casgliadau'r haf
Mae casgliadau Gwastraff Gwyrdd yr Haf yn cael eu casglu rhwng 16 Mawrth 2026 a 13 Tachwedd 2026. Bydd casgliadau'n digwydd yn awtomatig ar eich diwrnod casglu biniau arferol.
Trefnu casgliad y gaeaf
Mae casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf yn cael eu casglu rhwng 16 Tachwedd 2026 a 15 Mawrth 2026. Yn ystod y cyfnod yma, mae angen i chi drefnu casgliad bob tro y bydd gyda chi wastraff gwyrdd i ni ei gasglu.
Mae Archebion Casglu Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf yn agor ar 9 Tachwedd 2026
Yr hyn mae modd i chi ei roi yn eich sachau a'r hyn does dim modd i chi ei roi yn eich sachau
Le:
- Gwair
- Tocion Gwrychoedd
- Dail
- Blodau
- Peli gwreiddiau blodau
- Blawd llif
- Gwely ar gyfer anifeiliaid bach mewn cwt
Na:
- Gwastraff bwyd
- Gwastraff cyffredinol
- Pridd, mwd neu blociau clai
- Rwbel
- Planhigion ymledol (e.e. Canclwm Siapan)
- Pren, canghennau neu foncyffion
- Addurniadau gardd a theganau
Fyddwn ni ddim yn casglu eich sachau os ydyn nhw'n cynnwys y gwastraff anghywir.
Mae modd cael gwared ar eitemau nad oes modd eu hailgylchu yn eich sach gwastraff gwyrdd yn eich Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned
Archebu mwy o sachau
Os ydych chi wedi cofrestru mae modd i chi brynu sachau ychwanegol am £3.20 yr un. Mae pob sach yn dal 90 litr (45cm x 45cm x 45cm). Mae hynny'n cyfateb i gyfaint dau a hanner o fagiau ailgylchu clir.
Prynu sachau gwastraff gwyrdd ychwanegol
Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu
Os ydych chi wedi cofrestru a dydy eich sachau gwastraff gwyrdd heb eu casglu cyn pen 24 awr ar ôl y diwrnod sydd wedi'i drefnu ar eich cyfer, mae modd i chi roi gwybod am wastraff heb ei gasglu ar-lein.
Rhoi gwybod am wastraff gwyrdd sydd heb ei gasglu
Rhoi gwybod am sachau sydd ar goll, neu sachau wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn.
Os ydych chi wedi cofrestru a bod eich sach gwastraff gwyrdd ar goll, wedi'i difrodi neu ei dwyn, mae modd i chi roi gwybod am hyn ar-lein.
Dydyn ni ddim yn derbyn cyfrifoldeb am draul / ôl draul.
Rhoi gwybod am sachau sydd ar goll, neu sachau wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn
Canslo eich casgliadau
Mae modd i drigolion ganslo casgliadau gwastraff gwyrdd ar-lein. Bydd eich sachau'n cael eu cymryd i ffwrdd ar eich diwrnod casglu gwastraff gwyrdd nesaf. Does dim modd eich ad-dalu ar gyfer sachau ychwanegol a gafodd eu harchebu.
Canslo eich Casgliadau Gwastraff Gwyrdd