Skip to main content

Bagiau Ailgylchu Clir

Bydd eich gwastraff ailgylchu yn cael ei gasglu ar eich  diwrnod casglu ailgylchu wythnosol.

Dylech chi roi eitemau sych y mae modd eu hailgylchu mewn bag ailgylchu clir. Peidiwch â'u rhoi nhw yn yr un bag â'r gwastraff o'r cartref (gwastraff bagiau du/bin ar olwynion). 

NODWCH: Peidiwch â defnyddio bagiau ailgylchu ar gyfer eich gwastraff bagiau du. Gallai camddefnyddio bagiau ailgylchu arwain at gamau gorfodi, gan gynnwys dirwy o £100.

DOES DIM CYFYNGIAD ar nifer y bagiau ailgylchu y mae modd i chi eu rhoi allan BOB WYTHNOS.

Beth mae modd imi ei ailgylchu a ble?

Nodwch eich cyfeiriad isod a byddwn ni'n esbonio sut mae modd cael gwared ar yr eitemau yma.

Gwastraff sydd wedi'i halogi

Os bydd bag ailgylchu yn cynnwys eitemau does dim modd eu hailgylchu, yna fyddwn ni ddim yn ei gasglu.

Caiff sticer 'Wedi'i Halogi’ ei roi ar y bag a bydd angen i chi ddidoli cynnwys y bag, cael gwared ar yr eitemau anaddas a'i roi e allan i gael ei gasglu'r wythnos ganlynol.

Bydd methu â chydymffurfio'n arwain at gymryd camau gorfodi. 

Contaminmated sticker

Dillad a Thecstilau

Dylech chi DDIM rhoi dillad yn eich bagiau ailgylchu CLIR. Mae banciau dillad ar gael yn ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Byddai modd mynd â dillad i siopau ailddefnyddio Y Sied neu i'ch siop elusen leol.

Ble mae fy ailgylchu'n mynd?

Mae ailgylchu yn RhCT yn cael ei gludo i ganolfan ailgylchu Amgen Cymru yn Llwydcoed, lle mae'n cael ei ddidoli i blastigau, gwydr, papur a metel. Yna caiff ei roi i mewn i fwndeli yn barod i'w hanfon i ganolfannau ailgylchu penodol ledled y DU.

Mae rhagor o fanylion am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru ar gael yma www.myrecyclingwales.org.uk/cy.

Mae rhagor o fanylion am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru ar gael yma www.myrecyclingwales.org.uk/cy.