C. Pam mae'r Cyngor yn gweithredu'r newid?
Mae'r Cyngor yn ceisio lleihau nifer y bagiau plastig y mae'n eu defnyddio wrth gasglu gwastraff ledled y fwrdeistref.
Mae adborth gan ddarparwyr gwasanaeth yn dangos bod modd gwneud y prosesau o gompostio gwastraff gwyrdd yn fwy effeithlon trwy gael gwared ar y sachau plastig a byddan nhw'n cynhyrchu cyfaint uwch o gompost o ansawdd.
C. Pam mae angen i drigolion gofrestru?
Rydyn ni bellach yn ei gwneud yn ofynnol i drigolion gofrestru er mwyn ein galluogi ni i reoli'r casgliadau'n fwy effeithlon, gwella ein cyfathrebu â thrigolion ac osgoi colli unrhyw gasgliadau.
C. Dydw i ddim yn defnyddio'r gwasanaeth yn y gaeaf, ond bydd ei angen arna i yn y gwanwyn/yr haf.
Mae modd i chi benderfynu pryd i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
Nodwch: Os fyddwch chi ddim yn rhoi unrhyw wastraff gwyrdd allan dros gyfnod o 12 casgliad, mae'n bosib y cewch eich tynnu oddi ar y rownd gasglu a bydd angen i chi gofrestru eto.
C. Sut rydw i'n cael fy 2 sach am ddim neu sachau ychwanegol?
Mae modd i chi gofrestru ac archebu eich 2 sach gwastraff gwyrdd am ddim ar-lein neu drwy ffonio Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 425001.
C. Fydd unrhyw newidiadau i'r diwrnod caiff fy ngwastraff gwyrdd ei gasglu?
- Bydd eich diwrnod ailgylchu gwastraff gwyrdd yn aros yr un peth a bydd yn dilyn trefn eich diwrnod ailgylchu yn ystod y casgliadau wythnosol, ac eithrio ein bod ni wedi dweud wrthoch chi fel arall (e.e. ffermydd ac ati).
- Bydd casgliadau yn digwydd yn wythnosol yn ystod misoedd yr haf a phob pythefnos yn ystod y gaeaf.
- Bydd eich casgliadau bob pythefnos yn dilyn trefn eich diwrnodau casglu bagiau du/biniau, ac eithrio ein bod ni wedi dweud wrthoch chi fel arall (e.e. ffermydd ac ati).
Sylwch: O'r wythnosau sy'n dechrau ar 27 Rhagfyr 2021, 3 a 10 Ionawr 2022, fydd dim casgliadau gwastraff gwyrdd gan y bydd ein criwiau ailgylchu yn canolbwyntio ar y cynnydd mewn deunydd ailgylchu dros gyfnod y Nadolig a chasgliadau coed Nadolig. Bydd casgliadau gwastraff gwyrdd yn ailddechrau ddydd Llun 17 Ionawr 2022.
C. Sut mae'r sachau'n edrych? / Faint o wastraff y mae modd ei roi yn y sachau?
Sach werdd o 90 litr (45cm x 45cm x 45cm) – Mae'r sachau yn cyfateb i ddau fag ailgylchu clir a hanner.
Mae gyda'r sachau ddolen/strap ar y top yn ogystal â strap ar yr ochr ac oddi tanyn nhw.
Mae plastig wedi'i drymhau ar waelod y sach.
C. Sut rydw i'n cael fy 2 sach am ddim neu sachau ychwanegol?
Mae modd i chi gofrestru ac archebu eich 2 sach gwastraff gwyrdd am ddim ar-lein neu drwy ffonio Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 425001.
Yn yr un modd, mae modd archebu sachau ychwanegol ar-lein neu drwy ffonio Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar y rhif uchod.
C. Beth fydd yn digwydd os dydw i ddim yn cofrestru?
Os dydych chi ddim wedi cofrestru'ch eiddo ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd, fyddwn ni ddim yn casglu'ch gwastraff gwyrdd.
C. Dydw i ddim yn defnyddio'r gwasanaeth yn y gaeaf, ond bydd ei angen arna i yn y gwanwyn/yr haf.
Mae modd i chi benderfynu pryd i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
Sylwch: Os byddwch chi'n methu â rhoi eitemau allan ar gyfer 12 casgliad yn olynol, mae'n bosibl y cewch chi eich tynnu o'r rownd gasglu a bydd angen i chi gofrestru eto.
C. Oes terfyn ar faint o sachau gwastraff gwyrdd mae modd i fi eu rhoi allan?
Does dim terfyn ar nifer y sachau gwastraff gwyrdd sydd wedi'u cofrestru i eiddo unigol y byddwn ni'n eu casglu. RHAID i chi roi'r sachau yma y tu allan i'r eiddo sydd wedi'u cofrestru neu fyddwn ni ddim yn eu casglu nhw. Serch hynny, rydyn ni'n gofyn yn gwrtais am 24 awr o rybudd os ydych chi'n rhoi dros 10 o sachau allan, er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau'n cael eu dyrannu. Mae modd gwneud hyn trwy e-bostio Ailgylchu@rhondda-cynon-taf.gov.uk.
Oes modd i fi ddefnyddio un o sachau fy nghymydog?
Gofynnwch i'ch cymydog am ganiatâd a sicrhau bod y sach wedi'i rhoi y tu allan i'w heiddo nhw i gael ei chasglu. Dim ond nifer y sachau sydd wedi'u cofrestru i eiddo unigol y byddwn ni'n eu casglu. Mae criwiau wedi cael gwybod hyn gan fod rhai trigolion wedi dwyn sachau er mwyn osgoi prynu rhai ychwanegol. Mae gan y criwiau casglu ddyfais yn y cerbyd sy'n dangos faint o sachau sydd wedi'u cofrestru i eiddo.
C. Oes modd i fi barhau i ddefnyddio bagiau ailgylchu clir?
Nac oes, fydd dim modd defnyddio bagiau ailgylchu clir ar gyfer gwastraff gwyrdd o ddydd Llun 1 Tachwedd 2021.
C. Oes modd i fi gael gwared ar fy ngwastraff gwyrdd yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned?
Mae modd cael gwared ar wastraff gwyrdd yn eich Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned (bydd angen cael gwared ar fagiau plastig, blychau ac ati ar wahân).
C. Beth fydd yn digwydd os caiff y sachau eu difrodi ar ddamwain gan y criwiau casglu?
Gall preswylwyr roi gwybod am sachau coll, wedi'u difrodi neu eu dwyn drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein
C. Fydd sachau sydd ar goll yn cael eu hamnewid?
Does dim modd i'r Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am sachau sydd ar goll. Mae croeso i drigolion nodi rhifau tai ac ati ar eu sachau a byddwn ni'n dychwelyd y sachau i'r man casglu biniau pan fyddan nhw'n wag.
C. Fydd sachau sydd wedi'u treulio yn cael eu hamnewid?
Does dim modd i'r Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am sachau gwastraff gwyrdd sydd wedi'u treulio.
C. Beth sy'n cael ei gynnwys yn y £3 ar gyfer sachau ychwanegol/newydd ac ai fi sy'n berchen ar y sach ar ôl talu?
Mae'r £3 yn talu am gost y sach yn unig. Eiddo RhCT yw'r sach. Does dim modd ad-dalu’r gost yma.
C. Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn mynd â'm sachau?
Mae'r holl sachau wedi'u cofrestru i eiddo unigol. Fyddwn ni ddim yn casglu unrhyw sachau ychwanegol sydd heb eu cofrestru gyda ni. Fyddwn ni ddim yn casglu o eiddo sydd heb gofrestru ar gyfer y cynllun.
Ein cyngor i'n holl drigolion yw nodi rhif/enw eu heiddo ar y sachau.
C. Fydd fy sachau yn cael eu dychwelyd?
Bydd pob criw casglu, lle bydd modd, yn dychwelyd y sachau mor agos a diogel â phosibl er mwyn lleihau nifer y sachau sy'n mynd ar goll/sy'n cael eu dwyn.
C. Beth fydd yn digwydd os bydda i'n newid cyfeiriad?
Gadewch eich sachau yn eich hen gyfeiriad gan eu bod wedi'u cofrestru yn erbyn yr eiddo. Os yw'ch cyfeiriad newydd wedi'i gofrestru o'r blaen, dylai'r sachau fod yno yn barod i chi eu defnyddio.
Os dydy'r eiddo newydd ddim wedi'i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd, a fyddech cystal ag ailgofrestru'r eiddo ar gyfer casgliadau.
C. Sut mae rhoi gwybod i'r Cyngor nad oes angen gwasanaeth gwastraff gwyrdd arna i mwyach?
Cwblhewch y ffurflen ar-lein os nad oes angen casglu gwastraff gwyrdd o'ch cartref bellach
C. Ga i orlenwi'r sachau?
Na chewch. Dylai cynnwys y sach, gan gynnwys unrhyw ganghennau, gael eu dal yng nghorff y sach.
C. Fyddwch chi'n casglu gwastraff cytiau anifeiliaid?
Byddwn, cyn belled nad yw'r gwastraff wedi'i halogi ag eitemau sydd ddim yn cael eu derbyn.
C. Fyddwch chi'n casglu blodau a brynwyd mewn siop?
Byddwn, cyhyd â bod yr holl blastig, rhubanau ac ati yn cael eu tynnu.
C. Fyddwch chi'n derbyn blociau mwd ('clodges')?
Na fyddwn, bydd angen i chi gael gwared ar y rhain yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Fydd sachau gwastraff gwyrdd ddim yn cael eu casglu os ydyn nhw'n cynnwys blociau mwd.
C. Fydd coed Nadolig yn cael eu hailgylchu trwy ddefnyddio'r sachau newydd?
Na fyddan. Bydd coed Nadolig yn cael eu casglu trwy system archebu ar wahân sydd fel arfer ar gael trwy gydol mis Ionawr.
C. Pa ddeunyddiau fyddwch chi ddim yn eu casglu?
Fydd y gwasanaeth gwastraff gwyrdd ddim yn derbyn eitemau fel gwastraff cegin, gwastraff cyffredinol, pridd, blociau mwd, rwbel, rhywogaethau ymledol e.e. canclwm, pren, boncyffion (6" a mwy mewn diamedr) neu addurniadau/teganau'r ardd ac ati.
C. Fyddwch chi'n casglu gan fusnesau?
Byddwn – Cofrestrwch ar gyfer Casgliadau Gwastraff Masnachol
C. Fyddwch chi'n casglu sachau gwastraff gwyrdd a brynwyd o siop / siop ar-lein?
Na fyddwn. Byddwn ni ond yn casglu sachau gwastraff gwyrdd sydd wedi'u dosbarthu gan y Cyngor.