Beth sydd angen i mi ei wneud cyn bod hawl gyda fi ddod i'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned?
Bwriwch olwg ar https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/BinsandRecycling/FindaTiporRecyclingCentre/CRCSiteRules.aspx er mwyn dod o hyd i'r rheolau cyfredol - mae'r rhain ar waith ar gyfer diogelwch staff a'r cyhoedd ac i sicrhau bod pawb yn cadw at yr holl reoliadau a gofynion llym. Gallai peidio â chydymffurfio ag UNRHYW un o'r rhain arwain at gau'r safleoedd.
Byddwch yn barod i ddangos tystiolaeth o'ch cyfeiriad i gael mynediad, megis trwydded yrru neu fil cyfleustodau.
A fydd y safleoedd yn cadw at eu horiau agor arferol?
Mae Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor 7 diwrnod yr wythnos - 8.30am-6.30pm (01/04/25 – 26/10/25). 8.30am-4.30pm (27/10/25 – 29/03/26). Yn amodol ar gau dros wyliau tymhorol.
Ewch i: www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu i weld y manylion llawn.
Pa eitemau mae'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn eu derbyn?
Mae rhestr lawn o'r hyn y mae Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn derbyn yn www.rctcbc.gov.uk/EitemauCanolfannauAilgylchu
Sylwch: Ar hyn o bryd dydy'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned DDIM yn derbyn gwastraff bagiau du, deunydd ailgylchu SYCH na gwastraff bwyd. Bydd y rhain yn cael eu casglu'n rhan o'r gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd.
A yw'r Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn cymryd gwastraff o'ch gardd?
Ydy. Mae modd i chi fynd â gwastraff gwyrdd/ o'r ardd i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned. Sicrhewch fod eich holl wastraff yn cael ei wahanu ymlaen llaw i gyflymu'ch taith gan mai dim ond slot 10 munud y byddwch chi'n ei gael i ddadlwytho'n llawn.
Os mai dim ond un person sy'n cael ei ganiatáu y tu allan i'r cerbyd ar y safle, a dydy staff y safle ddim yn rhoi unrhyw gymorth i ddadlwytho deunyddiau, sut byddaf i'n llwyddo i dynnu eitemau gwastraff swmpus allan o fy ngherbyd?
Rhaid i staff ac ymwelwyr gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol bob amser. Dylai trigolion cadw'r eitemau hynny sydd angen 2 berson i'w codi gartref nes i'r mesurau cadw pellter cymdeithasol gael eu llacio. Wedyn, bydd modd i ni dderbyn eitemau trwm a swmpus.
Fel arall, os bydd angen i chi gael gwared ar yr eitemau yma ar frys, mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff swmpus. Bydd angen i chi drefnu hyn ymlaen llaw a thalu am y gwasanaeth. Mae rhagor o fanylion ar gael yma www.rctcbc.gov.uk/EitemauMawr
Ydych chi'n ystyried nwyddau gwyn yn eitemau swmpus o wastraff cartref? Oes hawl gyda fi i fynd â nwyddau gwyn i'r Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar hyn o bryd?
Mae croeso i ch fynd â nwyddau gwyn i'r safleoedd, ond gwnewch yn siŵr bod yr eitemau yma'n gallu cael eu codi'n ddiogel gan un person YN UNIG.
Sut mae cael gwared ar eitemau gwastraff swmpus fel dodrefn a nwyddau gwyn?
Os nad oes modd i chi godi eitem yn ddiogel ac mae angen cael gwared arno ar frys, mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff swmpus. Bydd angen i chi drefnu hyn ymlaen llaw a thalu am y gwasanaeth.
Mae mwy o fanylion ar gael yma www.rctcbc.gov.uk/EitemauMawr
Oes hawl gyda fi ddod â gwastraff o'r ardd a gwastraff o wneud gwaith ar y tŷ (DIY)?
Mae'r safle'n derbyn gwastraff o'r ardd, gwastraff o wneud gwaith ar y tŷ a gwastraff peryglus. Cofiwch ddidoli'ch gwastraff cyn dod i'r safle er mwyn i chi allu mynd trwy'r safle'n gyflymach.
Fydd raid i mi giwio i fynd i mewn i'r safle?
Rydym ni'n disgwyl cyfnodau prysurach yn ystod penwythnosau a thywydd cynhesach, yn enwedig gan ein bod yn dal i orfod cyfyngu ar nifer y defnyddwyr sy'n gwaredu eu hailgylchu a'u gwastraff ar unrhyw adeg. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod ni'n dilyn canllawiau'r llywodraeth ar bellhau cymdeithasol, a sicrhau bod defnyddwyr a gweithwyr yn cadw pellter diogel o 2 fetr lle bo hynny'n bosibl. Bydd hyn yn helpu i leihau traffig i Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Rydyn ni'n diweddaru'n tudalennau gwe a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn gyson felly bwriwch olwg arnyn nhw cyn i chi fynd. Byddwch yn amyneddgar, rydyn ni'n trio'n gorau glas.
A fydd hawl gan faniau a cheir â cherbydau ôl ddefnyddio'r safle?
Mae hawl i faniau mawr (math Transit 1.5t ar y mwyaf) ddefnyddio'r safleoedd, yn ogystal â faniau sydd yr un maint â cheir / cerbydau 4x4 a cherbydau-ôl.
Does DIMhawl i faniau bocs a cherbydau gwely gwastad mawr ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned RhCT. Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth ar gyfer tipio/dadlwytho'r cerbydau yma yn ei gyfleuster sied Didoli Tŷ Amgen yn Llwydcoed, Aberdâr. Rhaid i drigolion sy'n dymuno defnyddio'r cyfleuster yma drefnu hynny ymlaen llaw trwy ffonio safle Tirlenwi Bryn Pica ar 01685 870770, rhwng 8am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Oes modd i fi ddefnyddio'r Ganolfan Ailgylchu os nad oes cerbyd gyda fi?
Gan nad oes llwybrau cerdded wrth fynedfeydd y Canolfannau Ailgylchu, does dim modd dod i mewn ar droed yn anffodus.
Diolch am eich cydweithrediad a'ch amynedd.
Rhowch gymorth inni wella