Achlysuron ac addysg yn ymwneud ag ailgylchu

Dewch ar daith ryngweithiol i fyd ailgylchu a chael cyfle i ddysgu sut caiff eitemau o'r cartref eu casglu o ochr y ffordd, eu didoli’n fathau gwahanol o wastraff a'u troi'n eitemau newydd.

Cewch ddod i hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am ailgylchu, gwastraff a sut mae angen i ni wella ein hymdrechion ailgylchu i ennill y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. 

Mae ein Carfan Ymwybyddiaeth Gofal y Strydoedd yn ymweld â gwahanol leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod gan drigolion yr holl wybodaeth ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.