Skip to main content

SNAP Cymru

Mae RhCT yn gweithio mewn partneriaeth â SNAP Cymru, sef elusen ar gyfer plant Cymru gyfan sy'n gweithio â theuluoedd, pobl ifainc a gweithwyr proffesiynol ar faterion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Mae SNAP Cymru yn elusen Genedlaethol sy'n unigryw yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu ym 1986. Ei phrif nod yw gwella addysg pobl yng Nghymru a chynorthwyo cynhwysiad. Mae SNAP Cymru wedi gweithio i hwyluso partneriaeth ers dros 30 mlynedd ac mae ganddi lawer o wybodaeth a phrofiad.

Mae'r elusen yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol rhad ac am ddim, i helpu i gynnig yr addysg gywir i blant a phobl ifainc sydd â phob math o anghenion addysgol arbennig (AAA) ac anableddau.  Maent yn rhoi cyngor a chymorth ar ystod o faterion gan gynnwys asesiadau, datganiadau o anghenion addysgol arbennig, bwlio, presenoldeb ysgol, gwaharddiad, darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a gwahaniaethu.

Maent hefyd yn darparu eiriolaeth, datrys anghytundeb a hyfforddiant ar gyfer pobl ifainc, rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Pwy ydyn nhw'n eu helpu?

Pob teulu, plentyn neu berson ifanc sy'n byw yng Nghymru sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, neu a allai fod â hwy. Mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnwys Anghenion Addysgol Arbennig, Anableddau ac unrhyw rwystrau eraill at addysg, er enghraifft plant mewn angen, anfodlonrwydd, tlodi, amddifadedd, neu Gymraeg neu Saesneg fel ail iaith. Gallant hefyd gynnig cymorth i gynhalwyr (gofalwyr), gweithwyr proffesiynol, a phobl neu sefydliadau eraill sy'n cefnogi plant a phobl ifanc gan gynnwys ysgolion, colegau a sefydliadau addysg eraill yn y gymuned.

Cyfranogiad Disgyblion

Mae SNAP Cymru yn gweithio â phobl ifainc, teuluoedd, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i geisio sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifainc yn cael eu clywed a bod eu barn yn cael ei hystyried wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Sut gallen nhw helpu?

Mae yna garfanau o staff a gwirfoddolwyr hyfforddedig sy'n helpu:

  • Teuluoedd i wneud penderfyniadau gwybodus am ysgolion a lleoliadau addysgol eraill a darpariaeth gan wasanaethau iechyd, addysg, cymdeithasol ac asiantaethau eraill.
  • Teuluoedd i weithio mewn partneriaeth ac yn cynnal perthnasoedd gwaith da gyda gweithwyr proffesiynol perthnasol.
  • Ysgolion i barhau i ddatblygu arferion gwaith da gyda rhieni/cynhalwyr.
  • Teuluoedd i chwarae rhan weithredol a gwerthfawr yn addysg a datblygiad eu plentyn - rhoi dewis i deuluoedd.
  • Gwybodaeth, cyngor a chymorth cyfrinachol a chywir.
  • Clust i wrando; cyfle i deuluoedd siarad am eu problemau.
  • Cymorth i gael mynediad at ystod o wasanaethau cymorth a chyngor arbenigol.
  • Cymorth ymarferol wrth ddelio â llythyrau, llenwi ffurflenni a deall adroddiadau proffesiynol.

Mae carfanau o staff a gwirfoddolwyr hyfforddedig sy'n cynnig:

Mae eu tîm o staff a gwirfoddolwyr hyfforddedig yn darparu:

Gwybodaeth, cyngor a chymorth am bryderon a allai effeithio ar addysg a datblygiad plant a phobl ifanc, gan gynnwys:

  • Cyngor ar hawliau a chyfrifoldebau.
  • Anghenion ychwanegol ar gyfer plant, gan gynnwys rhai cyn oed ysgol.
  • Deall Cynllun Addysg Unigol plentyn
  • Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, Datganiadau a'r broses Adolygu Blynyddol.
  • Cynlluniau pontio.
  • Bwlio.
  • Diffyg presenoldeb neu chwarae triwant.
  • Gwaharddiadau, apeliadau a thribiwnlysoedd.
  • Darparu gwybodaeth ar sut mae Anghenion Addysgol Arbennig yn cael eu canfod a'u hasesu gan yr ysgol a'r Awdurdod Lleol.
  • Helpu wrth baratoi cyfarfodydd, gwaith papur, dod o hyd i wybodaeth briodol a helpu i bennu pa gwestiynau i'w gofyn.
  • Helpu o ran cyfathrebu gydag ysgolion a datrys anghytundebau yn gynnar. 

Eiriolaeth

Mae gwasanaeth eiriolaeth annibynnol SNAP Cymru “AMDANAF I”, yn darparu: gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth, cynrychiolaeth a chymorth i blant a phobl ifainc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan gynnwys Anghenion Addysgol Arbennig ac anabledd.

Mae eiriolaeth yn hollbwysig wrth sicrhau bod dymuniadau a barn y plant a'r bobl ifainc yn cael eu clywed ar bob adeg, ac felly'n eu diogelu ac yn eeu hunain.

Mae SNAP Cymru wedi mabwysiadu'r egwyddorion craidd canlynol:

  • Mae eu heiriolwyr yn gweithio dros blant a phobl ifainc a neb arall; maen nhw'n gwerthfawrogi a pharchu plant a phobl ifanc fel unigolion.
  • Mae eu heiriolwyr yn gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifainc yn gallu deall yr hyn sy'n digwydd, yn ogystal â hyn maen nhw'n gallu helpu'r plant a phobl ifainc i leisio'u barn a, lle'n bosibl, arfer eu dewis pan fydd penderfyniadau amdanyn nhw a'u dyfodol yn cael eu gwneud.
  • Mae eu heiriolwyr yn helpu plant a phobl ifainc i godi materion a phryderon am bethau sy'n eu gwneud nhw'n anhapus. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwneud cwynion ffurfiol ac anffurfiol o dan Adran 26 o Ddeddf Plant 1989.

Gall cyfranogiad gweithredol plant a phobl ifainc yn y broses o gasglu gwybodaeth, cynllunio a gwneud penderfyniadau helpu i osgoi anghytundebau a gwrthdaro.

Mae eiriolaeth yn hollbwysig wrth sicrhau bod dymuniadau a barn y plant a'r bobl ifainc yn cael eu clywed ar bob adeg, ac felly'n eu diogelu ac yn eeu hunain.

Rhif ffôn y Llinell Gymorth

Mae gan SNAP Cymru llinell gymorth ddwyieithog Cymru gyfan.

Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 9:30am – 16:30pm bob dydd yn ystod yr wythnos.

Gall teuluoedd hefyd anfon e-bost ar unrhyw adeg at : helpline@snapcymru.org

Bydd teuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu cyfeirio at ein gwasanaeth gwaith achos.

Mae eu Partneriaeth Annibynnol i Rieni yn rhad ac am ddim i deuluoedd ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd a chwir trwy ein Cynllun Cefnogi Rhieni Annibynnol:

Llinell gymorth: 0808 801 0608
Llun – Gwe: 09:30am – 16:30pm
Ebost: enquiries@snapcymru.org

Gwefan: http://www.snapcymru.org/