Mae’r Ddeddf ADY, a ddaeth i rym ym mis Medi 2021, yn golygu bod plant a phobl ifainc yn cael eu symud yn raddol o’r hen system AAA i’r system ADY newydd. Mae RhCT wedi ymgymryd â dyletswyddau newydd yn ymwneud â phobl ifainc ag ADY mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.
Bydd y rhan fwyaf o bobl ifainc ag ADY yn gallu symud ymlaen o'r ysgol i raglen astudio yn eu coleg addysg bellach lleol. I rai pobl ifainc ag ADY cymhleth, efallai na fydd Coleg Addysg Bellach yn gallu bodloni eu hanghenion, a bydd eu darpariaeth dysgu ychwanegol yn cael ei nodi fel coleg addysg bellach arbenigol. Mae’r ddeddfwriaeth ADY yn cyfeirio at golegau addysg bellach arbenigol fel sefydliadau ôl-16 arbenigol annibynnol (ISPIs).
Yn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau am ddarpariaeth ôl-16 ar gyfer pobl ifainc 16-25 oed sydd angen lleoliad arbenigol. Mae’r cyfrifoldeb yma wedi’i drosglwyddo i awdurdodau lleol (ALl), sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau hyn ac mae’n golygu y bydd ALl RhCT yn gweithio ar y cyd ag ystod o bartneriaid i ddatblygu a chryfhau darpariaeth ADY arbenigol ôl-16.
Mae Fforwm ADY ôl-16 Rhondda Cynon Taf yn grŵp aml-asiantaeth sy'n gwneud penderfyniadau am bobl ifainc ag ADY yn RhCT, gan gynnwys lleoliadau mewn ISPIs ar gyfer pobl ifainc yn y system ADY. (Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau ac ariannu lleoliadau ôl-16 arbenigol ar gyfer y bobl ifainc hynny nad ydyn nhw wedi’u symud i’r system ADY hyd yn hyn). Canllaw i Fforwm ADY Ôl-16 yn esbonio rhagor am broses gwneud penderfyniadau RhCT.
Bydd ysgolion a Gyrfa Cymru yn parhau i gefnogi pobl ifainc a'u teuluoedd i archwilio opsiynau a nodi llwybrau dilyniant.
I gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth ôl-16, cliciwch ar y dolenni isod. Mae modd i chi hefyd gysylltu â ni: A&IService@rctcbc.gov.uk
Mae’r tabl isod yn dangos pryd y disgwylir i bobl ifanc symud i’r system ADY: