Mae'r Garfan Addysg ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn cynnig ystod o wasanaethau addysgol i Ysgolion a Grwpiau Cymuned.
Mae rhaglen diwtora undydd ar gael sy'n addas i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd fel ei gilydd. Mae modd ichi gael copi drwy glicio ar y cyswllt isod.
Yn ogystal â hyn mae rhaglan o weithgareddau gyda ni o’r enw ‘Inspired for Life.’ Pecyn preswyl yw hwn, wedi’i lunio’n arbennig i ysgolion cynradd Rhondda Cynon Taf. Disgyblion Cyfnod Allweddol 2 [rhwng 5 a 6 oed] yw’i gynulleidfa dybiedig. Dyma gyfle delfrydol i roi profiad cyntaf cyffrous o gwrs preswyl i’r plant, heb fod rhaid iddyn nhw deithio’n rhy bell o’u cartrefi.
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn cynnig cyfleusterau preswyl ar wahân i gyrsiau 'Inspired for Life'. Mae modd addasu’r llety er mwyn diwallu anghenion ysgolion. Os ydych chi’n dymuno, mae modd inni ddarparu tiwtora ar amrywiaeth o bynciau. Croeso i chi holi am fanylion.
Mae ysgolion lleol yn gyfarwydd â’r tiwtora rhagorol sydd ar gael yma. Un enghraifft o’r diwrnodau astudio poblogaidd sydd ar gael yw prosiect dilyn llwybr yr afon. I ysgolion cynradd, bydd hyn yn gofyn i’r plant edrych ar sut mae’r afon yn newid ar ei hynt o’r ffynnon i’r môr. Byddan nhw’n mesur lled yr afon, yn ogystal â chyflymder, dyfnder, a thymheredd y dŵr. Rydym ni'n cynnig astudiaethau afon i ysgolion uwchradd hefyd. Gyda’r rhain, byddwn ni’n addasu’r tiwtora i amcanion penodol y grŵp.
Cysylltu â ni:
Gwasanaeth Addysg yr Amgylched
Parc Gwledig Cwm Dâr
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
Ffôn: 01685 874672