Skip to main content

Trosglwyddo o'r adran babanod i'r adran iau Sut i gyflwyno cais

Sut i gyflwyno cais

Caiff rhieni/cynhalwyr (gofalwyr) fynegi eu dewis wrth ddewis ysgol ar gyfer eu plentyn/plant.

Mae manylion yr holl ysgolion yn Rhondda Cynon Taf ar gael yn y llyfryn 'Dechrau'r Ysgol'. Mae modd cael manylion am ysgolion dalgylch drwy ddefnyddio'r peiriant chwilio dalgylchoedd.

Rhaid i rieni/cynhalwyr gwblhau ffurflen cais am le. Caiff rhieni wneud cais ar-lein am le mewn dosbarth meithrin. Mae gwneud cais ar-lein yn syml. : Dilynwch y camau yma:

  1. Ewch i oneonline.rctcbc.gov.uk
  2. Ymgofrestrwch gyda chyfeiriad e-bost dilys.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd i'w gweld ar-lein.

Os nad oes cyfrifiadur gyda chi, cewch ddefnyddio'r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim yn un lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Neu, cewch lenwi ffurflen gais bapur drwy gysylltu â'r garfan Materion Derbyn Disgyblion ar 01443 281111.

Edrychwch hefyd ar y 'Canllawiau - Ffurflenni Derbyn Disgyblion'

Mewn achosion lle y daw mwy o geisiadau i law na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn unol â meini prawf sydd wedi'u cyhoeddi mewn perthynas â gormod o alw.

Dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud cais

Nodwch y dyddiadau pwysig yn y tabl isod, fel byddwch chi'n gwybod pryd i gyflwyno cais a phryd cewch chi wybod am ganlyniad eich cais.

Cohort Derbyn

Oedran Disgyblion

Dosbarthu Ffurflenni o (wythnos yn dechrau)

Anfon Ffurflenni yn ôl erbyn

Anfon llythyron nodi penderfyniad

Ysgol Gynradd – Blwyddyn 3

Trosglwyddo o’r Ysgol Fabanod i’r Ysgol Iau neu Ysgol Gynradd

Pen-blwydd yn 8 oed yn cwympo rhwng:

1 Medi 2024 a 31 Awst 2025

1 Medi 2023

10 Tachwedd 2023

16 Ebrill 2024