Skip to main content

Cylch Trafod Derbyn Disgyblion

Mae Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003, yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu cylch trafod (fforwm) derbyn disgyblion.

Mae Cylch Trafod Derbyn Disgyblion Rhondda Cynon Taf yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau system dderbyn deg sy'n hawdd ac yn syml i rieni ei deall.

Mae'r Cylch Trafod yn gyfrifol am fonitro ein cydymffurfiad â Chod Derbyniadau Ysgolion 2013. Mae'r fforwm yma’n trafod effeithiolrwydd trefniadau derbyn disgyblion lleol, ystyried sut i ddelio â materion anodd ynghylch derbyn disgyblion a chynghori ar ffyrdd i wella trefniadau.

Mae aelodau'r cylch trafod yn cynnwys aelodau o ysgolion (penaethiaid a llywodraethwyr) ac aelodau sydd ddim yn ymwneud ag ysgolion yn uniongyrchol, fel swyddogion y Cyngor, aelodau awdurdodau crefyddol a chynrychiolwyr o'r gymuned leol. Mae'r rheoliadau'n nodi'r nifer uchaf o gynrychiolwyr ar gyfer pob grŵp.

Mae'r fforwm yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn, sy'n ofynnol yn rhan o'r rheoliadau.