Skip to main content

Cyflwyno cais am le mewn ysgol - Awgrymiadau

Term-dates

Cyflwynwch gais ar amser

Peidiwch â chyflwyno cais am le mewn ysgol yn hwyr!

Mae'n hollbwysig eich bod yn cyflwyno cais ar amser er mwyn sicrhau bod cais eich plentyn yn cael ei ystyried ar gyfer y rownd gyntaf o geisiadau.

Apply

Cyflwyno Cais Ar-lein

Gofynnwn ichi gyflwyno cais ar-lein (ac eithrio'r rheiny sy'n newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd – yn yr achos yma mae angen gofyn am ffurflen i'w llenwi).

Mae cyflwyno cais ar-lein yn syml ac yn effeithlon.

Trwy gyflwyno cais ar-lein byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fyddwn wedi derbyn eich cais. Byddwch hefyd yn cael gwybod canlyniad eich cais dros e-bost.  Gallwch chi dderbyn neu wrthod y lle ar y system ar-lein.

Find-a-school

Gwybod pa ysgolion sydd yn eich ardal chi

Edrychwch i weld pa ysgolion sydd yn eich ardal chi

Gallwch chi ymweld â gwefannau ysgolion, darllen prosbectws ysgolion a darllen adroddiadau Estyn cyn penderfynu ar ba ysgol i wneud cais amdani.

Gweld dalgylchoedd yr ysgol

Gallwch ofyn i ymweld ag ysgol trwy gysylltu'n uniongyrchol â'r ysgol a gwneud apwyntiad.

21st-Century-Schools

Dewis mwy nag un ysgol ddymunol ar eich cais

Rydyn ni'n ceisio sicrhau bod pob plentyn yn cael mynychu eu hysgol dewis cyntaf, fodd bynnag, mewn rhai achosion dydy hyn ddim yn bosib os ydyn ni'n derbyn mwy o geisiadau nag sydd yno o lefydd.   Yn yr achos yma byddwn yn troi at ein meini prawf gordanysgrifio. 

Oherwydd hyn rydyn ni'n argymell yn gryf eich bod yn nodi ail a thrydydd dewis ar eich cais.  Nodwch na fydd gwneud hyn yn effeithio ar gyfle eich plentyn i dderbyn cynnig i'ch dewis cyntaf.  Mae nodi ail a thrydydd dewis yn golygu os ydyn ni mewn sefyllfa ble nad yw'n bosib cynnig lle ichi yn eich dewis cyntaf, gallwn fwrw ati i edrych ar eich ail a thrydydd dewis.

School-admission-appeals

Derbyniwch neu gwrthodwch unrhyw lefydd sy'n cael eu cynnig

Pan fyddwch chi'n derbyn cynnig lle mewn ysgol yn RhCT, mae'n hollbwysig eich bod yn rhoi gwybod inni os ydych chi'n dymuno derbyn y lle cyn gynted ag sy'n bosib.

Mae'r un mor bwysig eich bod yn rhoi gwybod inni os ydych chi'n dymuno gwrthod y cynnig fel bod modd inni gynnig y lle i blentyn arall.