Skip to main content

Derbyn Disgyblion i Ysgolion Uwchradd

Lleoedd mewn Ysgolion Uwchradd yn 2027 - ar gyfer disgyblion sy'n gadael Blwyddyn 6 ar ddiwedd Tymor yr Haf 2027 gyda dyddiadau geni rhwng 01/09/2015 a 31/08/2016.
  • Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Medi 2026 a 9 Hydref 2026.
  • Byddwch chi'n derbyn canlyniad eich cais ar 1 Mawrth 2027.

Sut i wneud cais?

Gwnewch eich cais ar-lein

Mae cyflwyno cais ar-lein yn syml. 

Nodwch - Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi i wneud eich cais ar-lein.

Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos.  Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Nodwch:  Dyw pob teclyn symudol (iPhone / iPad a ffonau / llechen gyfrifiadur android) ddim yn addas ar gyfer y system derbyn disgyblion ar-lein. Cyngor y cwmni sydd wedi creu'r meddalwedd yw mai defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur fyddai orau.  Os nad oes cyfrifiadur/gliniadur gyda chi, mae modd i chi ddefnyddio'r cyfrifiaduron yn un o'n Llyfrgelloedd.

Gwybodaeth ddefnyddiol: