Skip to main content

Gwybodaeth a Chyngor mewn perthynas â Derbyn Disgyblion i Ysgolion Uwchradd

Sut i gyflwyno cais

Caiff rhieni/cynhalwyr (gofalwyr) fynegi eu dewis wrth ddewis ysgol ar gyfer eu plentyn/plant.

Mae manylion yr holl ysgolion yn Rhondda Cynon Taf ar gael yn y llyfryn 'Dechrau'r Ysgol'. Mae modd cael manylion am ysgolion dalgylch drwy ddefnyddio'r peiriant chwilio dalgylchoedd.

Rhaid i rieni/cynhalwyr gwblhau ffurflen cais am le mewn ysgol uwchradd. Caiff rhieni wneud cais ar-lein am le i’w plentyn mewn dosbarth meithrin. Mae gwneud cais ar-lein yn hawdd.  Dilynwch y camau yma:

  1. Ewch i oneonline.rctcbc.gov.uk
  2. Cofrestrwch â chyfeiriad e-bost dilys
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau

Os nad oes gyda chi fynediad i gyfrifiadur, ewch i un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf . Neu, cysylltwch â’r garfan Derbyn Disgyblion am ffurflen gais bapur drwy ffonio 01443 281111.

Edrychwch hefyd ar y 'Canllawiau - Ffurflenni Derbyn Disgyblion'.

Mewn achosion lle y daw mwy o geisiadau i law na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn unol â meini prawf sydd wedi'u cyhoeddi mewn perthynas â gormod o alw.

Dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud cais

Nodwch y dyddiadau pwysig yn y tabl isod, fel byddwch chi'n gwybod pryd i gyflwyno cais a phryd cewch chi wybod am ganlyniad eich cais.

Cohort Derbyn

Oedran Disgyblion

Ffurflenni Nodi Dewis ar gael

(wythnos yn dechrau)

Ffurflenni nodi dewis i'w dychwelyd erbyn

Cyflwyno llythyron penderfynu

Ysgol Uwchradd

Blwyddyn 7

12fed pen-blwydd yn cwympo rhwng:

1af Medi 2024 a 31ain Awst 2025

1 Medi 2023

13 Hydref 2023

1 Mawrth 2024