Ydych chi'n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i'ch plentyn?
Rydyn ni yma i'ch helpu chi. Mae addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn yma yn Rhondda Cynon Taf. Mae llawer o fanteision ychwanegol o ddewis addysg cyfrwng Cymraeg. Rydyn ni wedi eu cynnwys yn ein canllaw defnyddiol i rieni/gwarcheidwaid sydd ar gael yma: Bod yn Ddwyieithog yn Rhondda Cynon Taf
Ysgolion Cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf
Hwyrddyfodiaid i addysg Gymraeg
Peidiwch â meddwl ei bod hi’n rhy hwyr i’ch plentyn ddysgu’r Gymraeg! Mae cymorth nawr ar gael i ddisgyblion sy’n mynychu ysgol Saesneg i newid i ysgol Gymraeg. Bydd disgyblion yn cael eu cefnogi i ddysgu sgiliau Cymraeg yn gyflym er mwyn dechrau ar eu taith i fod yn ddwyieithog. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Ydych chi'n poeni oherwydd dydych chi ddim yn siarad Cymraeg?
Peidiwch â phoeni o gwbl! Does dim angen poeni gan fod ein holl ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cynnig cefnogaeth wych i rieni sy'n siarad Saesneg. Dydy'r mwyafrif o rieni sy'n anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg ddim yn siarad Cymraeg felly maen nhw wedi arfer â hyn a fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun. Mae'r llyfryn Bod yn Ddwyieithog uchod yn trafod rhai pryderon cyffredin eraill sydd gan rieni.
Darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg
Mae modd i'r daith i ddyfodol cyfrwng Cymraeg ddechrau cyn i'ch plentyn droi'n un oed. Mae ein partneriaid yn cynnal amrywiaeth o ddarpariaethau ledled Rhondda Cynon Taf:
Sesiynau tylino babi a yoga wythnosol, Amser Stori, Paned a Sgwrs a chwrs Fi a Fy Mabi. I gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i'ch sesiynau lleol, ewch i'r wefan trwy glicio ar y ddolen uchod.
Grŵp rhieni a phlant bach rhwng 0 a 2 oed lle mae plant yn chwarae gyda'i gilydd, yn gwrando ar straeon Cymraeg ac yn canu caneuon Cymraeg. I gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i'ch cylch lleol, ewch i'r wefan trwy glicio ar y ddolen uchod.
Cylchoedd meithrin ledled Cymru ar gyfer plant o ddwy oed hyd nes iddyn nhw ddechrau addysg gynradd. Mae nifer o'r lleoliadau yma ar safle ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn RhCT neu'n agos atyn nhw. I gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i'ch lleoliad agosaf, ewch i'r wefan drwy glicio ar y ddolen uchod.
Cymorth Ychwanegol
Mae amrywiaeth o gymorth, cyngor a gwybodaeth ar gael ar ddewis addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae nifer o adnoddau ar gael i’ch helpu chi i gefnogi eich plentyn drwy ei addysg Gymraeg. Bwriwch olwg ar ein Llyfryn Bod yn Ddwyieithog i gael rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt.
Fel arall, efallai yr hoffech chi edrych ar rhai o'r gwefannau a restrir isod lle cewch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am addysg a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg.