Rhaid bod gan blentyn drwydded i weithio ac ar gyfer y mwyafrif o berfformiadau y mae'n cymryd rhan ynddyn nhw. Rhaid bod y plentyn yng nghwmni hebryngwr â thrwydded er mwyn perfformio.
Trwydded Perfformio Plant
Efallai bydd angen i chi wneud cais am drwydded gan eich Awdurdod Lleol er mwyn caniatáu i blentyn gymryd rhan mewn;
- Perfformiad cyhoeddus, e.e. ffilm, drama neu sioe gerdd
- Achlysur chwaraeon lle bydd y plentyn yn cael ei dalu
- Penodiad sesiwn modelu ffasiynau yr ydych chi'n ei drefnu lle bydd y plentyn yn cael ei dalu
Trwydded Cyflogi Plant
Os ydych chi'n cyflogi plant o fewn eich busnes sy'n iau na'r oedran gadael yr ysgol gorfodol, mae angen i chi gyflwyno cais am drwydded cyflogi oddi wrth yr Awdurdod Lleol. Mae hyn yn berthnasol os bydd y gwaith â thal neu beidio.
Ar gyfer plant ifainc sy'n gweithio ym myd adloniant a pherfformio
Hebryngwy
Rhaid bod gan blentyn hebryngwr os yw'n cymryd rhan mewn perfformiadau neu adloniant cyhoeddus, oni bai ei fod yng nghwmni rhiant neu diwtor dynodedig. I wneud cais mae'n rhaid i hebryngwr fod yn 18 oed neu'n hŷn a chael tystysgrif ddilys gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (mae modd gwneud cais am dystysgrif yn ystod y broses).
Mae trwyddedau hybryngwyr yn ddilys am dair blynedd. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod chi'n adnewyddu eich trwydded ar ddiwedd y cyfnod yma. Dydyn ni ddim yn adnewyddu trwyddedau.
Dylech chi anfon eich ffurflenni cais at: presenoldeballes@rctcbc.gov.uk
Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles,
Canolfan Menter y Cymoedd
Parc Hen Lofa'r Navigation,
Aberpennar
CF45 4SN
Ffôn: 01443 744298