ORIAU AGOR Y GANOLFAN
(Nodwch, mae mynediad i'r dosbarthiadau a mynediad cyntaf/olaf i'r pwll nofio neu'r gampfa yn dibynnu ar amserlenni'r cyfleusterau penodol hynny, nid oriau agor y ganolfan).
Nodwch: Mae oriau agor yn wahanol ac mae amserlenni'n newid yn ystod Gwyliau Banc. Ewch i'n tudalen Facebook i weld oriau agor Gwyliau Banc.
Abercynon Sports Centre Timetable
Diwrnod | Amseroedd |
Dydd llun |
6.30am-9pm |
Dydd mawrth |
6.30am-9pm |
Dydd mercher |
6.30am-9pm |
Dydd iau |
6.30am-9pm |
Dydd gwener |
6.30am-2pm |
Ddydd sadwrn |
7:30am - 1pm |
Dydd sul |
7:30am - 1pm |
MYNEDIAD I'R GANOLFAN A'I CHYFLEUSTERAU
- Mynediad â ramp wrth flaen yr adeilad.
- Offer codi ar gyfer mynediad i'r pwll.
CYMORTH CYNTAF AC IECHYD A DIOGELWCH
- Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle drwy'r amser.
- Rhieni sy'n gyfrifol am eu plant drwy'r amser – rhaid dilyn y gymhareb pwll nofio.
- Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.
CYFLEUSTERAU NEWID
- Mae ystafelloedd newid i ddynion a merched â chiwbiclau preifat ar gael.
- Lle yn fwy ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn sydd yn dymuno newid a chael cawod.
- Cyfleusterau cawod.
- Cyfleusterau newid cewynnau.
- Sychwyr gwallt.
- Loceri.
POLISI MYNEDIAD I'R PRIF BWLL
Rhaid i blant sydd dan 8 oed fod yng nghwmni fel a ganlyn:
- 1 oedolyn yn gwmni i bob plentyn dan 5 oed.
- 1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant rhwng 5 ac 8 oed.
- Caiff plant 8 oed neu'n hŷn fynd i'r pwll heb gwmni.
Rydyn ni'n atgoffa rhieni/gwarcheidwaid bod rhaid i blant 8 oed neu'n hŷn ddefnyddio ystafelloedd newid sy'n briodol i'w rhyw.
DYFNDER Y PWLL A THYMHEREDD Y DŴR
- 1-2 metr o ddyfnder.
- Tymheredd y dŵr yw 28-30 gradd celsius.
CWRTEISI YSTAFELL NEWID
Rhaid i blant 8 oed neu’n hŷn ddefnyddio'r ystafell newid sy'n briodol i'w rhyw.
Rhaid i holl blant 7 oed neu'n iau fod gydag oedolyn mewn ystafelloedd newid, pa bynnag rhyw'r plentyn, am resymau iechyd a diogelwch. Rydyn ni'n gofyn i blant a'u gwarchodwyr ddefnyddio ciwbicl newid pan fo'n bosibl.
Byddwch yn gynnil wrth newid os oes plant yna.
CYFLEUSTERAU CYFARFOD
Mae neuaddau ac ystafelloedd ar gael ar gyfer achlysuron, cyfarfodydd neu gynadleddau. Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch ein canllaw prisoedd.