Oriau agor Canolfan Hamdden Llantrisant
Nodwch: Mae oriau agor yn wahanol ac mae amserlenni'n newid yn ystod Gwyliau Banc. Ewch i'n tudalen Facebook i weld oriau agor Gwyliau Banc.
Oriau agor Canolfan Hamdden Llantrisant
DYDD LLUN | Amser |
Dydd llun |
6.15am - 10pm |
Dydd mawrth |
6.15am - 10pm |
Dydd mercher |
6.15am - 10pm |
Dydd iau |
6.15am - 10pm |
Dydd gwener |
6.15am - 9pm |
Ddydd sadwrn |
7:15am - 4pm |
Dydd sul |
8:15am - 5pm |
Mynediad i'r ganolfan a'i chyfleusterau
- Mynediad â ramp wrth flaen yr adeilad.
- Lifft i bob lefel.
- Teclyn codi a grisiau ar gyfer mynediad i'r pwll.
Cymorth Cyntaf ac Iechyd a Diogelwch
- Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle drwy'r amser.
- Rhieni sy'n gyfrifol am eu plant drwy'r amser – rhaid dilyn y gymhareb pwll nofio.
- Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.
Cyfleusterau newid
- Ystafelloedd newid ar gyfer pobl sy'n defnyddio dosbarthiadau, cyrtiau a'r gampfa sy'n cynnwys ciwbiclau newid a chawodydd.
- Ardal newid ar wahân ar gyfer defnyddwyr y pwll sydd â chiwbiclau arferol, cawodydd a chiwbiclau mwy ar gyfer teuluoedd.
- Cyfleusterau newid cewynnau.
- Ystafelloedd mwy ar gyfer pobl ag anableddau. Mae teclyn codi 'Oxford Midi' ar gael o ofyn amdano. Dewch â'ch gwregys eich hun a rhaid i'r cynhaliwr/gofalwr ddefnyddio'r teclyn codi.
- Sychwyr gwallt.
- Loceri.
Polisi mynediad i'r prif bwll
Rhaid i blant sydd dan 8 oed fod yng nghwmni fel a ganlyn:
- 1 oedolyn yn gwmni i bob plentyn dan 5 oed.
- 1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant rhwng 5 ac 8 oed.
- Caiff plant 8 oed neu'n hŷn fynd i'r pwll heb gwmni.
Rydyn ni'n atgoffa rhieni/gwarcheidwaid bod rhaid i blant 8 oed neu'n hŷn ddefnyddio ystafelloedd newid sy'n briodol i'w rhyw.
NODWCH: FYDDWN NI DDIM YN CANIATÁU MYNEDIAD I'R PWLL YN HWYRACH NA 45 MUNUD CYN DIWEDD Y SESIWN.
Polisi Mynediad i'r Pwll Bach
RHAID i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn ar BOB adeg yn y pwll bach.
- Rhaid i blant sydd dan 8 oed fod yng nghwmni fel a ganlyn:
- 1 oedolyn yn gwmni i bob tri o blant rhwng 5 a 8 oed.
- 1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant dan 5 oed.
NODWCH: FYDDWN NI DDIM YN CANIATÁU MYNEDIAD I'R PWLL YN HWYRACH NA 45 MUNUD CYN DIWEDD Y SESIWN.
CYFLEUSTERAU CYFARFOD
Mae neuaddau ac ystafelloedd ar gael ar gyfer achlysuron, cyfarfodydd neu gynadleddau. Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch ein canllaw prisoedd.