Dyma oriau agor y parc ar hyn o bryd:
Ionawr – 8:30am – 5:45pm
Chwefror – 8:30am – 5:45pm
Mawrth – 8:30am – 6:45pm
Ebrill – 8:30am – 7:45pm
Mai – 8:30am – 8:45pm
Mehefin – 8:30am – 8:45pm
Gorffennaf – 8:30am – 8:45pm
Awst – 8:30am – 8:45pm
Medi – 8:30am – 7:45pm
Hydref – 8:30am – 6:45pm
Tachwedd – 8:30am – 5:45pm
Rhagfyr – 8:30am – 5:45pm 
Mae croeso i chi ddod â'ch cŵn i'r parc. Gofynnwn yn garedig i chi eu cadw nhw ar dennyn. Byddwch yn effro i'n Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, sy'n egluro'r rheolau ynglŷn â chŵn yn ein parciau.
Mae llawer o finiau baw cŵn a biniau sbwriel cyffredinol ym mhob rhan o'r parc - cofiwch roi baw eich ci yn y bin!
Sut i gyrraedd
Mewn car
Mae Parc Coffa Ynysangharad yng nghanol Pontypridd. Does dim cyfleusterau parcio ar y safle ar gyfer ceir nac ar gyfer teithiau bws. Y cod post ar gyfer dyfeisiau llywio â lloeren yw:  CF37 4PE
Meysydd parcio agosaf:
Does dim cyfleusterau parcio ar y safle.
Bydd modd i deithiau bws barcio ar y safle os caiff hyn ei drefnu ymlaen llaw.
Bws
Mae safle bws y tu allan i'r parc.
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Stagecoach.
Ar y trên
Mae Gorsaf Drenau Pontypridd dafliad carreg o'r parc, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau rheolaidd i'r dref.