Medi 2024
Cronfa Ysgolion yn dychwelyd!
Cronfa Ysgolion yn dychwelyd i Chwaraeon RhCT, am y tro olaf o bosibl!
Oherwydd toriadau cyllid, rydyn ni'n ansicr a fydd modd i ni gynnig Cronfa Ysgolion ar ôl y flwyddyn ariannol yma. Felly, dyma ni'n ei hagor am un tro olaf.
Mae Cronfa Ysgolion ar agor o heddiw tan 25 Hydref. Os oes angen, byddwn ni'n agor ail rownd ym mis Ionawr.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, bwriwch olwg ar dudalen y Gronfa Ysgolion YMA.
Llysgenhadon Ifainc
Bydd Llysgenhadon Ifainc yn ysbrydoli, dylanwadu, mentora ac arwain yn eu hysgolion neu gymunedau. Bydd ein Llysgenhadon Ifainc yn derbyn cefnogaeth barhaus sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn sicrhau eu bod yn datblygu i fod yn arweinwyr hyderus, medrus, llawn cymhelliant. Rydyn ni'n awyddus iddyn nhw ddysgu sgiliau arweinyddiaeth drwy ddarparu cyfleoedd a phrofiadau cadarnhaol a gwerthfawr i wella eu sgiliau allweddol.
Enwebu Llysgenhadon YMA!
Byddwn ni'n cynnal 3 achlysur ar-lein i groesawu'r flwyddyn newydd ar 9 Hydref.
- 10:00am – Cadwch le YMA
- 13.30pm – Cadwch le YMA
- 14.30pm – Cadwch le YMA
Yn ystod y sesiynau yma byddwn ni'n croesawu ac yn llongyfarch ein Llysgenhadon Ifainc newydd. Byddwn ni'n defnyddio'r cyfarfod yma i roi syniadau iddyn nhw am yr hyn yr hoffen ni iddyn nhw ei wneud rhwng nawr a'r gynhadledd. Byddwn ni'n cynnal un gynhadledd ganolog eleni. Bydd y gynhadledd yn llawn gweithdai hwyl, gweithgareddau, a chyfleoedd yn ymwneud â sut i ysbrydoli cyfoedion a gwella cyfranogiad yn yr ysgol.
Gwasanaeth Negeseuon Testeun Chwaraeon RhCT i Ysgolion
Fel y crybwyllwyd ar 9 Medi yn yr e-bost “Croeso Nôl”, rydyn ni'n lansio Gwasanaeth Negeseuon Testun Ysgolion i anfon gwybodaeth yn syth i'ch ffôn!
Mae modd cofrestru i dderbyn mathau gwahanol o wybodaeth, gan sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynigion a rhaglenni penodol.
Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth newydd YMA!
Cyswllt Tymhorol
Dyma gyfle i athrawon gysylltu ac ymgysylltu â ni yn Chwaraeon RhCT a sefydliadau eraill i helpu i nodi rhaglenni newydd a phresennol a'u treialu, datblygu ac adolygu.
Rydyn ni am ddefnyddio'r cyfle yma i leihau sawl tro rydyn ni'n cyfathrebu â chi ac i gael fforwm agored i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac ymgynghori ag athrawon yma yn ysgolion RhCT. Byddwn ni'n cynnal tri chyfarfod Cyswllt Tymhorol ar-lein yn ystod y flwyddyn ar gyfer ysgolion Cynradd ac Uwchradd.
Ysgolion Cynradd
- Dydd Mercher 2 Hydref 2024, 12pm (Cadwch le nawr!)
- Dydd Mercher 29 Ionawr 2025, 12pm
- Dydd Mercher 2 Ebrill 2025, 12pm
Ysgolion Uwchradd
- Dydd Iau 3 Hydref 2024, 1pm (Cadwch le nawr!)
- Dydd Iau 30 Ionawr 2025, 1pm
- Dydd Iau 3 Ebrill 2025, 1pm
Cyllid Allanol
Gan fod cymorth a chyllid yn cael eu torri ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol rydyn ni wedi bod yn chwilio am ffrydiau ariannu eraill y gall ein hysgolion fanteisio arnyn nhw.
Gobeithio eich bod chi wedi gweld y dudalen Cyfleoedd Ariannu Allanol ar y wefan yn ystod y misoedd diwethaf. Os nad ydych wedi gwneud hyn, bydd y dudalen yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda chyfleoedd ariannu y gall eich ysgol gael mynediad atyn nhw.
Gall y grantiau ar y dudalen yma amrywio o £250 hyd at £10,000 gan ddibynnu ar y cyllidwr. Maen nhw hefyd yn ymdrin ag ystod o themâu megis Iechyd a Lles, yr Amgylchedd, Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol.
Cadwch lygad ar y wefan gan y byddwn ni'n diweddaru'r cronfeydd yn rheolaidd. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn ni hefyd yn rhannu'r wybodaeth yma ar yr ap.
Cyrchwch ein tudalen Cyfleoedd Ariannu Allanol YMA!
Dyddiadau i'w Nodi
Medi
- 23-27: Wythnos Beicio i’r Ysgol
- 30: Diwrnod Treftadaeth Chwaraeon Cenedlaethol
Hydref
9: Achlysur Croesawu Llysgenhadon Ifainc – Ar-lein (10:00) – rhaid cofrestru ar-lein9: Achlysur Croesawu Llysgenhadon Ifainc – Ar-lein (13:30) – rhaid cofrestru ar-lein9: Achlysur Croesawu Llysgenhadon Ifainc – Ar-lein (14:30) – rhaid cofrestru ar-lein
Tachwedd