Skip to main content

Taith Pyllau Glo Cymru A Distyllfa Castell Hensol

 

Mae'r pecyn unigryw yma'n cynnwys teithiau mewn dau leoliad unigryw.

Ychydig y tu allan i Gaerdydd fe welwch chi ddistyllfa jin lawn gyntaf de Cymru, profiad ymwelwyr, ysgol jin a ffatri botelu, i gyd yn distyllu'n braf yn selar Castell Hensol o'r 17eg ganrif. Mae’r cyfuniad o Gastell Hensol a'i hanes cyfoethog, ynghyd â naws modern a natur hwyliog y sypiau bach o jin arbenigol yn creu profiad gwirioneddol unigryw. 

Cyfunwch daith yn Hensol â Thaith danddaearol yr Aur Du yn Nhaith Pyllau Glo Cymru ar gyfer pecyn gwirioneddol wreiddiol i grwpiau. Yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, bydd eich grŵp yn cael ei arwain o dan y ddaear gan dywyswyr a oedd yn gweithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda. Mae'r daith yn darparu tystiolaeth fyw o gymunedau glofaol byd-enwog Cwm Rhondda drwy gynnig cipolwg hanesyddol ar y diwylliant cyfoethog a chymeriad cymoedd de Cymru. Ar ddiwedd pob taith, bydd cyfle i chi neidio ar y DRAM! Y dram lo rithwir yw hon. Byddwch chi'n cael eich syfrdanu!

Mae cynigion gwahanol ar gael ar gyfer archebion grŵp, gyda gostyngiadau gwell ar gael ar sail nifer yr ymwelwyr.

Anfonwch e-bost at marketing@hensolcastledistillery.com am ddyfynbris penodol i'ch grŵp neu ffonio 01443 682036.

   
WMECoalDramMinerWithLampMWEFlowersHensolGlassHensolStaffHensolHerbs