Mae Caffè Bracchi yn Nhaith Pyllau Glo Cymru yn cael ei redeg gan y Chocolate House sy'n gwneud cacennau a phwdinau cartref blasus, yn ogystal â bwydlen sy’n llawn bwyd ffres.
Mae'r fwydlen yn cynnwys opsiynau llysieuol a feganaidd, yn ogystal â bwydlen i blant.
Bwriwch olwg ar y fwydlen yma!
Mae bwyd poeth yn cael ei weini rhwng dydd Mawrth a dydd Sadwrn, o 9.30am tan 2.30pm, ond bydd byrbrydau a chacennau ar gael tan 4.30pm.
Mae te prynhawn ar gael hefyd ond rhaid trefnu hwn ymlaen llaw gan ei fod yn boblogaidd.
Er mwyn cadw bwrdd yn Caffè Bracchi, cliciwch yma.
Mae gan y Caffè ddewis o siocledi Cymreig wedi’u gwneud â llaw sydd wedi ennill gwobrau, heb anghofio'r sach o lo bwytadwy sy'n boblogaidd iawn!
Am ragor o wybodaeth am y Chocolate House, gan gynnwys gweithdai gwneud siocledi, ewch i www.chocolate-house.co.uk
Mae Caffè Bracchi yn deyrnged i'r dylanwad Eidalaidd cryf sy'n parhau yng Nghymoedd Rhondda, a hynny dros ganrif ar ôl i'r ymfudwyr cyntaf ymgartrefu yn y cymoedd o ranbarth Bardi.
Agorodd yr Eidalwyr yma gaffis a siopau hufen iâ - gelwir y rhain yn Bracchi - ac mae rhai ohonyn nhw'n dal i fod ar agor heddiw.
Os ydych chi'n ymweld â ni a hoffech chi gadw bwrdd yng Nghaffi Bracchi ymlaen llaw, cliciwch yma.