Skip to main content

Amgueddfa Glofeydd Cymru - Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Pontypridd

Rydyn ni wedi cynnal ein Taith Aur Du olaf ar gyfer 2024.
Mae modd i chi brynu tocynnau ar gyfer Ogof Siôn Corn nawr! 

 Prynwch docynnau yma 


Croeso i Taith Pyllau Glo Cymru.

Prynwch docyn ar gyfer ein hatyniad sydd wedi ennill gwobrau, Taith Pyllau Glo Cymru.

Byddwch chi'n cael eich tywys o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser gan gyn-löwr a fu’n gweithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda pan oedd yn fachgen ifanc. Daliwch yn dynn wrth i chi deithio yn ôl i wyneb y pwyll ar DRAM!

Mae arddangosfeydd digidol a rhyngweithiol am ddim yn dod â'r hanes yn fyw. Dysgwch ragor am fywydau ein glowyr, perchnogion y glofeydd a chymunedau Cwm Rhondda a oedd yn gyfrifol am bweru'r byd. Eisteddwch ym mharlwr perchennog cyfoethog y pwll glo neu ewch i siop draddodiadol.

Ewch i grwydro'r iard a darganfod y pethau cofiadwy o'r diwydiant glo - dramiau llawn glo, y Lloches Anderson hanesyddol a hen sylfeini'r efail a gafodd ei defnyddio gan gof y pwll glo.

Mae Caffi Bracchi, gweithdai a siop crefftau Craft of Hearts a gweithdai a danteithion Chocolate House wedi'u lleoli ar y safle, dyma brofiad gwych i bawb.

NEWYDDION DIWEDDARAF

Dathlu Wythnos Genedlaethol Amgueddfeydd yn amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Disgrifiad
Roedd staff Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn falch o groesawu Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, yn ystod Wythnos Genedlaethol Amgueddfeydd ym mis Hydref.

 

 

 

 Croeso i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Croeso i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
RCT-web-logo Trip Adviser logo 2022

RHP welsh hosipitality

RHP-Welsh-Hospitality-Awards

Quality-Assured-Shrt

Sandford-Awarrd-Tourism