Skip to main content

Mae Craft of Hearts

 

Mae Craft of Hearts, y siop gelf a chrefft, ar lawr cyntaf Taith Pyllau Glo Cymru. Mae'n hawdd cyrraedd yno o Gaerdydd, Merthyr Tudful ac unrhyw le arall yng nghymoedd de Cymru.

Mae gan Craft of Hearts arlwy eang o ddeunyddiau crefftio ac mae ganddi bopeth sydd ei angen arnoch chi er mwyn creu cardiau neu gerflunwaith ffabrig, ffeltio â nodwydd a llawer yn rhagor!

Mae dosbarthiadau celf a chrefft, gweithdai a chyrsiau'n cael eu cynnal yn Craft of Hearts, gyda'r nod o godi hyder crefftwyr.

Mae carfan Craft of Hearts yn darparu gwasanaeth arbennig ar gyfer plant ac oedolion ac yn arbenigo mewn datblygu cyfleoedd i grwpiau o bobl, er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael profiad diogel a chyfforddus a chael hwyl yr un pryd!

I gadw'ch lle yn un o'r dosbarthiadau, cysylltwch â ni: 07917 467103

craft-of-heart-1
Craft-of-heart-2
Craft-of-heart-3
Craft-of-hearts