Yr Orielau
Dewch i ymweld â'r orielau sydd gyda ni i ddysgu rhagor am hanes pentrefi Cwm Rhondda.
Y Casgliad
Ar un adeg roedd Cymoedd y Rhondda, DeCymru, yn fyd enwog gan eu bod nhw’n pweru’r byd gyda’i lo. Mae ein casgliad yn cynnwys eitemau o’r cyfnod pan oedd glo’n frenin – gan gynnwys lampau Davy enwog a ddefnyddiwyd gan lowyr i oleuo’r ffordd drwy’r pyllau glo tywyll. Cafodd yr eitemau yma'u sganio mewn 3D yn ein stiwdio symudol yn rhan o brofiad mwyngloddio rhithwir "Pwll Bach Cwm Rhondda". Dyma brosiect sydd wedi’i greu gan Vision Fountain gan ddefnyddio cyllid "Gaeaf Llawn Lles" Llywodraeth Cymru. Cafodd tair o'r eitemau yma'u sganio'n rhan o brosiect rhithwir "Y Genhedlaeth Olaf o Lowyr", sef prosiect ar y cyd rhyngom ni, Cronfa Treftadaeth y Loteri ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Gweld y casgliad
Oriel yr Aur Du
Mae ein harddangosfa ryngweithiol ar agor nawr!
Mae'r arddangosfa wedi'i hariannu'n rhannol gan Adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru ac yn cynnwys lluniau anhygoel o'r archif o'r cyfnod pan oedd y byd yn rhedeg ar lo Cwm Rhondda. Mae dros 140 o arteffactau cloddio ac o hanes Cymru yn cael eu harddangos i lunio'r arddangosfa fwyaf erioed i gael ei chynnal yma. Mae hefyd yn cynnwys lluniau anhygoel, sgriniau rhyngweithiol, cwisiau, posau ac arteffactau wedi'u digideiddio. Dyma arddangosfa sy'n dangos mawredd hanes Cymoedd De Cymru.
Mae sgriniau rhyngweithiol ger nifer o'r arteffactau sy'n cael eu harddangos yn adrodd hanes y gwrthrychau. Mae modd i ymwelwyr bori trwy bynciau megis y Rhuthr am Lo Cwm Rhondda a chyfranogiad glowyr Cwm Rhondda yn Rhyfel Cartref Sbaen. Bydd y pynciau yma'n dod yn fyw ar y sgriniau mawr gyda chlipiau newyddion hanesyddol. Mae llinellau amser, mapiau a hyd yn oed rhagor o arteffactau digidol i'w harchwilio. Mae'r arddangosfa yma wedi'i lleoli ar y llawr gwaelod ger ein harddangosfa ‘Cymdeithas Lofaol’.
Y Gymdeithas Lofaol
Mae oriel y Gymdeithas Lofaol ar y llawr gwaelod. Mae'n adrodd hanes pobl Cwm Rhondda o 1800 hyd heddiw. Mae'r oriel yma'n canolbwyntio ar leisiau Menywod, Ymgyrchwyr a Chapeli, a'r portreadau tu hwnt i ddynion yn gweithio yn y pyllau glo. Roedd bywyd yn wahanol i bawb a oedd yn byw yng Nghwm Rhondda ac mae'r arddangosfa yma'n tynnu ein sylw at y profiadau hynny. Defnyddiwch ein sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol i ddarganfod pam fod pobl wedi symud i'r ardal neu i wrando ar yr ymgyrchydd Elizabeth Andrews. Rhowch gynnig ar ein llinell amser rhyngweithiol i ddysgu rhagor am ddigwyddiadau allweddol y gorffennol. Mae modd i chi hefyd eistedd yn ein parlwr arbennig. Roedd y parlwr yn ystafell bwysig yn y rhan fwyaf o gartrefi yng Nghwm Rhondda.
Oriel Dros Dro
Mae rhagor i'w ddarganfod ar ein llawr cyntaf yn yr orielau dros dro. Mae'r rhain yn newid bob 3 i 4 mis ac yn arddangos pynciau gwahanol o hanes Cwm Rhondda.
Iard y Tu Allan
Mae gyda ni arddangosfeydd yn yr iard y tu allan hefyd. Dewch i weld yr efail a dysgu rhagor am waith gof y pwll glo a gwrando ar ei straeon. Mae Lloches Anderson gwreiddiol yn yr iard, ynghyd â gardd 'Dig for Victory'. Mae modd i chi hefyd weld y peiriannau oedd yn cael eu defnyddio dan y ddaear, a gweld ein dramiau glo!