Skip to main content

Teithiau Aur Du

 

“Peidiwch â cholli cyfle os ydych chi'n ymweld â'r ardal”

Mae Taith Dan Ddaear yr Aur Du yn brofiad gwych i grwpiau ac mae modd cynnig teithiau unigryw ar gais. Maen nhw’n cynnig popeth o dan haul – o berfformiadau gan gorau, perfformiadau gan delynorion a buffets. Mae cynigion ar gael ar gyfer archebion grŵp, gyda gostyngiadau gwell ar gael ar sail nifer yr ymwelwyr ac amser y flwyddyn. Rydyn ni hefyd yn cynnig mynediad a lluniaeth am ddim i yrwyr bysiau ac arweinwyr grwpiau ac mae digon o leoedd parcio i fysiau ar y safle. Perffaith ar gyfer cipolwg hanesyddol, difyr, go iawn ar dreftadaeth Cymru.

Mae hefyd gyda ni rai cynigion cyffrous ar gael gyda Phrofiad y Bathdy Brenhinol a Distyllfa Castell Hensol.

Am ragor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad, ffoniwch 01443 682036.

   
RHPRHP2RHP3RHP4RHP5MWEFlowers2