Skip to main content

Y Geiniog A'r Glo

 

Mae'r pecyn yma'n cyfuno taith ym Mhrofiad y Bathdy Brenhinol ag un arall yn Nhaith Pyllau Glo Cymru. 

Mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn un o'r atyniadau TripAdvisor gorau yn Ne Cymru ac mae'n gyrchfan berffaith i grwpiau o bob oed. P'un a ydych chi'n dewis ymweld yn rhan o achlysur cymdeithasol, achlysur arbennig neu ar gyfer taith ddiwylliannol a hanesyddol, mae modd i'r Bathdy Brenhinol ddarparu ar gyfer grwpiau o bob maint i sicrhau profiad bythgofiadwy. Yn ystod eich ymweliad, byddwch chi'n dysgu popeth am ble mae darnau arian y DU yn cael eu gwneud ac yn cael cipolwg hynod ddiddorol ar hanes y Bathdy Brenhinol. Gorau oll, byddwch chi'n cael cyfle i fathu'ch darn arian eich hun. Mae lluniaeth ysgafn a phrydau bwyd ar gael yn ein caffi ac mae modd prynu cofroddion o'r siop anrhegion i'ch atgoffa o'r ymweliad. 

Mae Taith yr Aur Du'n cael ei harwain gan dywyswyr a oedd yn gweithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda. Byddan nhw'n rhannu eu profiadau a'u straeon o weithio dan ddaear ac yn adrodd hanes yr Aur Du a gafodd ei gludo o Gwm Rhondda i weddill y byd. Ar ddiwedd pob taith, bydd cyfle i chi neidio ar y DRAM! Y dram lo rithwir yw hon. Byddwch chi'n cael eich syfrdanu! Yn ystod eich ymweliad, beth am fynd ar daith am ddim o amgylch yr arddangosfeydd. A oeddech chi'n gwybod bod glo o Gwm Rhondda wedi'i ddefnyddio i bweru'r Titanic? Cymerwch hoe yng Nghaffi Bracchi a mwynhau amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, byrbrydau, prydiau mawr a danteithion melys – gan gynnwys cacennau blasus! Galwch i mewn i'r 'Chocolate Shop' arobryn a mynd â siocled wedi'i wneud â llaw adref gyda chi. Os yw crefftio'n mynd â'ch bryd, mae yna enillydd gwobr arall ar y llawr cyntaf. Dewch i Craft of Hearts i bori trwy'r deunyddiau crefftio (mae cyfyngiadau ar y nifer o bobl all ddod i mewn ar y tro) neu byddwch yn greadigol a chadw'ch lle mewn dosbarth crefftio o'ch dewis.

Caniatewch o leiaf dwy awr ym mhob lleoliad. Y pellter rhwng y ddau safle yw 8 milltir (tua 20 munud).

Archebwch yma, neu ffoniwch 01443 682036.

   
RoyalMintChildRoyalMintCoinRoyalMintGroup2MinerWithCoalMWEMinerWithLampWMEDram