Skip to main content

Rheolau Safle Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned

Mae'r HOLL Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned isod AR AGOR 7 diwrnod yr wythnos:

8.30am - 6.30pm (Dydd Llun, 1 Ebrill 2024 tan ddydd Sul, 27 Hydref 2024). 8.30am - 4.30pm (Dydd Llun, 28 Hydref 2024 tan ddydd Sul, 30 Mawrth 2025). Yn amodol ar newidiadau tymhorol.

Ar hyn o bryd mae chwe Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf.

  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0BX
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Glynrhedynog, Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Dinas, Heol y Cymer, Dinas, CF39 9BL
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Trefforest, Heol Ffynnon Taf, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
  • Canolfan Ailgylchu 100% Llantrisant, Ffordd Pant-y-Brad, ger Heol-y-Sarn, Ystad Ddiwydiannol Llantrisant, CF72 8YT
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ

Mae cynorthwywyr y Canolfannau Ailgylchu yno i'ch helpu chi, ac mae'n bwysig bod pob aelod o'r cyhoedd ac aelod o staff yn cael eu trin â pharch. Rydyn ni'n gwrtais gyda thrigolion bob amser ac rydyn ni'n disgwyl bod trigolion sy'n ymweld â'r canolfannau ailgylchu yn trin staff yn yr un modd.

Rydyn ni'n ymdrin ag achosion o ymddygiad bygythiol neu gamdriniol yn erbyn unrhyw gynorthwy-ydd neu oruchwyliwr o ddifrif. Os yw aelod o'r cyhoedd yn ymddwyn yn fygythiol neu'n camdriniol, byddwn ni'n gofyn iddyn nhw adael a fyddan nhw ddim yn cael mynediad i'r safle. Mae gyda ni Bolisi Dim Goddefgarwch, lle fydd ymddygiad ymosodol neu fygythiol tuag at ein staff ddim yn cael ei oddef dan unrhyw amgylchiadau.

Bydd camau pellach yn cael eu cymryd, gan gynnwys uwchgyfeirio'r achos at Heddlu De Cymru lle bo’n briodol, os bydd aelodau o’r cyhoedd yn  fygythiol ar lafar neu'n cam-drin staff y Canolfannau Ailgylchu.

Gobeithio y byddwch chi'n croesawu'r polisi yma. Mae ar waith er lles y staff rheng flaen weithgar sydd gyda ni wrth iddyn nhw gyflawni eu dyletswyddau.

MANYLION AM BETH SY'N CAEL EI AILGYCHU YN EIN CANOLFANNAU 

GWELD CWESTIYNAU CYFFREDIN

Rheolau'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned

ER MWYN SICRHAU DIOGELWCH EIN STAFF A'R CYHOEDD BYDD Y RHEOLAU CANLYNOL YN BERTHNASOL I BOB SAFLE:

  1. Cadwch at y rheolau rheoli traffig sydd ar waith BOB amser neu BYDD yn rhaid i ni GAU'R safle.
  2. Yn ystod cyfnodau prysur a lle mae ciwiau'n cael effaith ar y trefniadau rheoli traffig sydd ar waith efallai y bydd gofyn i chi ddychwelyd yn hwyrach.  
  3. Mae angen didoli'r holl eitemau a deunyddiau i fathau o wastraff, e.e. pren, plastig, metel, gwydr ac ati cyn mynd i mewn - fydd ailgylchu cymysg DDIM yn cael ei dderbyn. 
  4. DIM OND hyn a hyn o gerbydau fydd yn cael eu caniatáu ar y safle ar y tro.
  5. Does dim mynediad i gerddwyr am resymau iechyd a diogelwch.
  6. Byddwch yn barod i ddangos tystiolaeth o'ch cyfeiriad cartref er mwyn cael mynediad, megis Trwydded Yrru neu fil cyfleustodau.
  7. Wrth giwio, rhaid i chi BEIDIO â mynd allan o'ch cerbyd, os byddwch chi'n gwneud hyn bydd gofyn i chi adael y safle.
  8. Yn ystod cyfnodau prysur iawn, fyddwch chi ddim yn cael ymuno â'r ciw ar ôl 6pm. 
  9. Mae modd i oedolion adael eu ceir wrth iddyn nhw ddadlwytho gwastraff ac ailgylchu. Does dim modd i'r staff eich helpu chi i ddadlwytho neu godi unrhyw eitemau. Cofiwch gadw hyn mewn cof wrth ddod i'r safle. 
  10. Bydd gyda chi 10 munud i gael gwared ar eich eitemau ac yna bydd gofyn i chi adael y safle.
  11. Parchwch ein staff. Byddwn ni'n gofyn i unrhyw sy'n bod yn dreisgar tuag at staff i adael.
  12. Byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda. Efallai bydd angen i chi aros am amser hir
  13. Mae'r Cyngor yn cynnig Gwasanaeth casglu eitemau mawr (hyd at 3 eitem) ac mae modd i chi drefnu casgliad ar-lein ar wefan y Cyngor.
  14. Yn unol â'u trwydded, dim ond gwastraff o'r cartref y mae hawl i'r canolfannau yma eu derbyn. Dim gwastraff byd masnach o gwbl a fydd dim hawl gyda chi i'w ddadlwytho.  
  15. Peidiwch ag ysmygu yn ein Canolfannau Ailgylchu
  16. Cofiwch OLCHI eich dwylo yn drylwyr ar ôl gadael y safle.

Rheolau Defnyddio Faniau a Cherbydau Masnachol

Rhaid i bob person sy'n ymweld â'r safle sydd angen gwaredu gwastraff mewn cerbydau sy'n fwy na char neu 4x4 gydymffurfio â'r weithdrefn archebu i faniau. Mae modd i gynorthwywyr ddewis a oes modd i eitemau sengl/eitemau y mae modd cael gwared arnyn nhw'n gyflym, megis fframiau gwely, cadeiriau, neu focsys cardfwrdd ar gyfer cerbydau mwy gael eu hailgylchu. Bydd angen cwblhau trwydded ond does DIM ANGEN  i breswylwyr ffonio'r rhif archebu.

Rhaid i faniau maint transit hyd at 1.5 tunnell ar y mwyaf ddarparu tystiolaeth o'u cyfeiriad cartref yn ardal Rhondda Cynon Taf a chwblhau trwydded fan i ddod ar y safle bob tro. Mae modd i chi ddangos bil cyfleustodau, trwydded yrru neu'r cytundeb llogi fan sy'n cyfateb i fanylion y drwydded fel tystiolaeth o'ch cyfeiriad cartref. Dydyn ni ddim yn caniatáu lorïau codi na faniau luton sy'n fwy na 1.5 tunnell o dan unrhyw amgylchiadau. Dydyn ni ddim yn caniatáu tractorau sy'n tynnu trelars.

Rhaid i bobl â faniau drefnu eu hymweliad ymlaen llaw gan ffonio'r rhif archebu pwrpasol 07824 541758. Mae modd cadw eich lle rhwng dydd Llun a dydd Gwener (7.30am - 3.30pm) ac felly mae angen rhybudd ymlaen llaw ar gyfer tipio ar y safleoedd ar y penwythnos yn unol â disgresiwn ar gyfer llwythi ysgafnach.

Dydyn ni ddim yn caniatáu i ymwelwyr wneud nifer o ymweliadau o dan un drwydded. Rhaid cwblhau trwydded newydd ar gyfer pob ymweliad gan gydymffurfio â'r polisi archebu. Mae ymweliadau wedi'u cyfyngu i ddim mwy na thri ymweliad bob wythnos fesul cerbyd ac uchafswm o un ymweliad bob dydd, a hynny wrth archebu ymlaen llaw yn unig. Mae ymweliadau wedi'u cyfyngu i amser gwaredu o ddeg munud.

Dydyn ni ddim yn caniatáu faniau llawn gyda llawer iawn o wastraff cymysg amrywiol. Nod y gwasanaeth yw cynyddu ailgylchu ac ailddefnyddio preswyl. Mae modd i opsiynau cael eu darparu ar gyfer tipio yng nghyfleuster masnachu a didoli Bryn Pica trwy ffonio 01685 870770.

Mae modd i faniau gwersylla gael mynediad i'r Canolfannau Ailgylchu ochr yn ochr â cheir/4x4's gan gynnwys trelars bach sy'n cael eu tynnu. Dyw hyn ddim yn cynnwys faniau cadi/ faniau sydd wedi'u trawsnewid. Bydd y rhain angen trwydded.

Bydd y drwydded yn cael ei gwirio gan gynorthwywyr y Canolfannau Ailgylchu cyn bod modd i chi waredu eich gwastraff a'ch ailgylchu. Bydd hyn dim ond yn cael ei ganiatáu os yw'r wybodaeth sydd wedi'i chofnodi yn cyd-fynd â'r wybodaeth am eich cartref.

Mae'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned at ddefnydd preswyl yn unig. Gallai unrhyw ymgais i waredu gwastraff masnachol mewn unrhyw gerbyd fod yn drosedd o dan adran 34 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. 

MANYLION AM BETH SY'N CAEL EI AILGYCHU YN EIN CANOLFANNAU 

GWELD CWESTIYNAU CYFFREDIN