Skip to main content

Ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar gyfer cynigion Terfyn Cyflymder Diofyn

20mph artwork

Mae'r Cyngor bellach wedi cadarnhau'r trefniadau ar gyfer ei ymgynghoriad cyhoeddus statudol mewn perthynas â therfyn cyflymder 26 o ffyrdd a allai o bosibl ddychwelyd i 30mya, o'r terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol o 20mya, yn ychwanegol at yr 84 o ffyrdd a gafodd eu heithrio yn y lle cyntaf. 

Mae'r 26 o ffyrdd wedi cael eu cyflwyno i'w hystyried ar ôl adolygiad sydd wedi defnyddio'r canllawiau diwygiedig ar eithriadau i'r terfyn cyflymder diofyn, a gafodd ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru. Dewiswyd y lleoliadau hefyd yn sgil 'cyfnod gwrando' yn yr haf 2024, lle cafodd trigolion gyfle i ddweud eu dweud mewn perthynas â ffyrdd lleol a'r polisi 20mya. Ym mis Gorffennaf 2025, trafododd y Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant y cynigion. 

Mae'r 26 o ffyrdd sydd newydd gael eu nodi yn ychwanegol at yr 84 o leoliadau a gadwodd derfyn cyflymder o 30mya pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya ledled pob Awdurdod Lleol ym mis Medi 2023. Gallai arwain at 110 o ffyrdd wedi'u heithrio yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r rhestr o ffyrdd sydd wrthi'n cael eu hystyried i ddychwelyd i derfyn cyflymder parhaol o 30mya i'w gweld ar waelod yr eitem newyddion yma. 

Cam nesaf y broses yw ymgynghori'n ffurfiol â thrigolion ar y newidiadau arfaethedig – ac mae'r Cyngor bellach wedi cadarnhau y bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Llun 22 Medi ac yn dod i ben ddydd Llun 13 Hydref.

Rhwng y dyddiadau yma, bydd modd i'r cyhoedd gymryd rhan trwy wefan ymgysylltu digidol AppyWay sydd ar gael yma.

Fel arall, gallwch chi ddweud eich dweud trwy anfon e-bost i 20MYA@rctcbc.gov.uk, neu drwy'r post – Rheolwr Gwasanaethau Traffig, Rheoli Traffig, Llawr 2, Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH. Defnyddiwch y cyfeiriad post yma ar gyfer unrhyw geisiadau am gynlluniau penodol, fformatau eraill neu ymateb ysgrifenedig. 

Bydd modd gweld deunyddiau argraffedig yr ymgynghoriad a fersiynau mawr o'r cynlluniau yn Llyfrgell Pontypridd, Llyfrgell Aberdâr a Llyfrgell Treorci. Mae modd i drigolion gymryd rhan drwy ffonio'r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid (01443 425001) neu drwy e-bostio 20MYA@rctcbc.gov.uk i ofyn i rywun eich ffonio. 

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Gan ddefnyddio'r canllawiau diwygiedig ar gyfer eithriadau i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, mae swyddogion wedi cyflwyno rhestr o 26 o ffyrdd a allai o bosibl ddychwelyd i derfyn cyflymder parhaol o 30mya. Cafodd y rhestr yma ei llywio hefyd gan 'gyfnod gwrando' cyhoeddus yr ystod yr haf y llynedd. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr 84 o ffyrdd a gadwodd derfyn cyflymder o 30mya yn wreiddiol ym mis Medi 2023 – a oedd eisoes yn un o'r cyfansymiau uchaf yng Nghymru wrth ei gymharu â phob un o'r 22 o Awdurdodau Lleol. Gallai arwain at gyfanswm o 110 o ffyrdd wedi'u heithrio. 

“Rydyn ni'n gwybod bod y polisi 20mya cenedlaethol yn gweithio yn ôl y bwriad yn gyffredinol, gan sicrhau bod ffyrdd a lleoliadau cymunedol prysur yn fwy diogel i fodurwyr, beicwyr a cherddwyr. Serch hynny, croesawodd y Cyngor y cyfle yma i adolygu terfyn cyflymder rhai lleoliadau ac, ar ôl cymryd ein hamser yn sicrhau ein bod ni'n gwneud hyn yn iawn, rydyn ni bellach wedi llunio rhestr o 26 o ffyrdd i gynnal ymgynghoriad arnyn nhw – a hynny tuag at roi unrhyw newidiadau ar waith erbyn diwedd 2025/26 o bosibl.  

“Mae'r Cyngor bellach wedi cadarnhau y bydd modd i'r cyhoedd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad statudol ffurfiol o ddydd Llun 22 Medi. Nodwch fod rhaid cymryd rhan yn ffurfiol yn y broses ymgynghori felly, er enghraifft, fydd dim modd cofnodi sylwadau sy'n cael eu hysgrifennu ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr holl adborth wedyn yn llywio penderfyniad terfynol y Cyngor maes o law.”

Mae'r rhestr o 26 ffordd a gyflwynir i ddychwelyd i derfyn cyflymder o 30mya yn cynnwys: 

  • Yr A4059 ym Mhenderyn (i'r gogledd o'r ysgol). 
  • Yr A4059 ym Mhenderyn (i'r de o'r ysgol). 
  • Ystad Ddiwydiannol Hirwaun. 
  • Ffordd Abertawe/Ffordd Merthyr, Hirwaun. 
  • Heol Llanwynno, Aberpennar. 
  • Ffordd Gyswllt Abercynon, Abercynon. 
  • Heol Berw, Pontypridd. 
  • Heol Sardis, Pontypridd. 
  • Lôn Coedcae, Pont-y-clun. 
  • Heol Ynys-hir (Cylchfan Wattstown), Ynys-hir. 
  • Heol Penrhys, Tylorstown. 
  • Ffordd Hirwaun, Trewaun. 
  • Heol yr Orsaf, Pentre'r Eglwys. 
  • Lôn Brynteg, Beddau. 
  • Heol Caerdydd i'r Heol Fawr, Cross Inn. 
  • Heol Llwyncelyn, Porth. 
  • Cylchfan Glan-bad. 
  • Yr A4054 Heol Caerdydd (rhan ogleddol), Rhydfelen. 
  • Yr A473 Cylchfan Nant Celyn, Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys. 
  • Y B4595 Heol Talbot, Llantrisant. 
  • Yr A4058 Heol Ystrad, Pentre. 
  • Y B4276 Stryd Harriet, Ffordd Llwydcoed. 
  • Heol Cwmynysminton, Llwydcoed. 
  • Yr A4233 Heol y Dwyrain (yn rhannol) 
  • Glan-bad i Barc Manwerthu Midway ac Ystad Ddiwydiannol Gelli Hirion. 
  • Heol Gwaunmeisgyn (rhan ddeheuol) 

Byddai amserlen i roi'r newidiadau ar waith yn cynnwys cyhoeddi'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a'r Hysbysiad Cyhoeddus perthnasol, a chael cymeradwyaeth ffurfiol, yn y misoedd nesaf.  Byddai'r holl newidiadau i'r terfyn cyflymder y cytunir arnyn nhw'n cael eu rhoi ar waith cyn diwedd blwyddyn ariannol 2025/26. 

Wedi ei bostio ar 22/09/2025