Skip to main content

Y camau nesaf ar ôl ymgynghori â thrigolion ar newid terfyn cyflymder ffyrdd yn ôl i 30mya

Mae'r Cyngor yn rhoi gwybod i drigolion fod Hysbysiad Cyhoeddus statudol, mewn perthynas â newid terfyn cyflymder 22 o ffyrdd yn ôl i 30mya (o 20mya), bellach wedi dechrau. Mae modd i drigolion weld yr hysbysiad a'r dogfennau perthnasol ar-lein a dweud eu dweud. Mae'r cynigion yma'n ychwanegol at yr 84 o ffyrdd a gafodd eu heithrio o'r Terfyn Cyflymder Diofyn o 20mya yn y lle cyntaf pan gafodd ei gyflwyno yn 2023.

Cyfnod yr hysbysiad statudol yw'r cam nesaf o ran rhoi'r cynigion ar waith. Cyrhaeddwyd y cam yma yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus (22 Medi - 13 Hydref 2025) a roddodd gyfle i drigolion ddweud eu dweud ar 26 o ffyrdd y cafodd eu terfyn cyflymder ei ystyried i'w newid yn ôl i 30mya. Cafodd y lleoliadau eu nodi yn dilyn 'cyfnod gwrando' yn 2024, er mwyn casglu barn trigolion ar y polisi 20mya cenedlaethol yng nghymunedau lleol.

Ers diwedd yr ymgynghoriad, mae swyddogion wedi adolygu pob sylw a gwrthwynebiad a ddaeth i law. Roedd hyn yn cynnwys 942 o sylwadau trwy wefan AppyWay, a 26 arall trwy e-bost neu drwy'r post. Ar ôl yr adolygiad, gan gynnwys trafodaethau gydag Aelodau Etholedig yr wardiau perthnasol, bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen â newid terfyn cyflymder 22 o'r 26 ffordd yn ôl i 30mya.

Y pedair ffordd a fydd yn parhau i fod yn 20mya yw Heol Berw (Pontypridd), Lôn Brynteg (Beddau), Heol Caerdydd i'r Heol Fawr (Cross Inn) a'r A4058 Heol Ystrad (Pentre). Hefyd, mae hyd y terfyn cyflymder 30mya arfaethedig ar Heol Sardis a Lôn y Ffatri (Pontypridd) yn llai, i beidio â chynnwys Lôn y Ffatri mwyach. Mae rhestr newydd o'r ffyrdd wedi'i chynnwys ar waelod yr eitem newyddion yma.

Mae cyfnod yr hysbysiad statudol ar gyfer y cynigion diweddaraf bellach yn fyw, a bydd yn dod i ben ddydd Gwener 13 Chwefror. Mae modd i drigolion weld dogfennau sy'n amlinellu'r cynigion trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/20mya.

Mae'r dogfennau hefyd ar gael i'w gweld wyneb yn wyneb yn Swyddfeydd y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH, ac yn llyfrgelloedd lleol y Cyngor (yn ystod yr oriau agor arferol). Rhaid anfon sylwadau mewn perthynas â'r cynigion mewn ysgrifen at y Rheolwr Traffig, 2il Lawr, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH, neu drwy e-bost: 20mya@rctcbc.gov.uk.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r Cyngor yn parhau â'r broses statudol i newid terfyn cyflymder rhai ffyrdd lleol yn ôl i 30mya – sy'n cynnwys parhau i ymgynghori â'r cyhoedd yn ystod camau allweddol amrywiol. Yn y lle cyntaf, cafodd 26 o ffyrdd eu cynnig yn dilyn 'cyfnod gwrando' yn yr haf, 2024, ac mae'r rhestr yma bellach wedi'i mireinio i gynnwys 22 o ffyrdd yn dilyn ymgynghoriad yr hydref. Mae swyddogion wedi ystyried yr holl adborth, ac wedi ymgynghori ag Aelodau Etholedig lleol sy'n cynrychioli'r wardiau perthnasol. Os caiff y cynigion eu cymeradwyo, bydd cyfanswm o 106 o ffyrdd yn y Fwrdeistref Sirol wedi'u heithrio o'r Terfyn Cyflymder Diofyn o 20mya.

“Bydd cyfnod yr hysbysiad statudol yn para tan ddydd Llun 13 Chwefror, a bydd modd i drigolion weld y cynigion ar-lein neu wyneb yn wyneb, a dweud eu dweud ar yr hyn sydd wedi'i gynnig. Y cam nesaf fydd adolygu unrhyw adborth o ran yr hysbysiad cyhoeddus, ac ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu perthnasol, cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud. Os cytunir ar hyn, bydd gwaith rhoi'r terfynau cyflymder 30mya newydd ar waith yn y 22 o leoliadau yn cael ei gynnal o ddiwedd mis Chwefror ac yn ystod mis Mawrth 2026.”

Mae'r rhestr o'r 22 ffordd y cynigir newid eu terfyn cyflymder yn ôl i 30mya yn cynnwys: 

  • Yr A4059 ym Mhenderyn (i'r gogledd o'r ysgol). 
  • Yr A4059 ym Mhenderyn (i'r de o'r ysgol). 
  • Ystad Ddiwydiannol Hirwaun. 
  • Ffordd Abertawe/Ffordd Merthyr, Hirwaun. 
  • Heol Llanwynno, Aberpennar. 
  • Ffordd Gyswllt Abercynon, Abercynon. 
  • Heol Sardis, Pontypridd. 
  • Lôn Coedcae, Pont-y-clun. 
  • Heol Ynys-hir (Cylchfan Wattstown), Ynys-hir. 
  • Heol Penrhys, Tylorstown. 
  • Ffordd Hirwaun, Trewaun. 
  • Heol yr Orsaf, Pentre'r Eglwys. 
  • Heol Llwyncelyn, Porth. 
  • Cylchfan Glan-bad. 
  • Yr A4054 Heol Caerdydd (rhan ogleddol), Rhydfelen. 
  • Yr A473 Cylchfan Nant Celyn, Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys. 
  • Y B4595 Heol Talbot, Llantrisant. 
  • Y B4276 Stryd Harriet, Ffordd Llwydcoed. 
  • Heol Cwmynysminton, Llwydcoed. 
  • Yr A4233 Heol y Dwyrain (yn rhannol). 
  • Glan-bad i Barc Manwerthu Midway ac Ystad Ddiwydiannol Gelli Hirion. 
  • Heol Gwaunmeisgyn (rhan ddeheuol). 
Wedi ei bostio ar 23/01/2026