Skip to main content

Camau nesaf wrth adolygu'r Terfyn Cyflymder Diofyn cenedlaethol i Gymru

Yn dilyn adolygiad helaeth, mae'r Cyngor wedi cyflwyno rhestr o 26 ffordd a allai o bosibl ddychwelyd i derfyn cyflymder o 30mya o'r Terfyn Cyflymder Diofyn cenedlaethol o 20mya. Yn dilyn trafodaeth gan y pwyllgor craffu perthnasol, ymgynghorir â'r cyhoedd ar y diwygiadau posibl yma.

Mae'r 26 o ffyrdd sydd newydd gael eu nodi, yn ychwanegol at yr 84 o leoliadau a gadwodd derfyn cyflymder o 30mya pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya ledled pob Awdurdod Lleol ym mis Medi 2023. Gallai arwain at 110 o ffyrdd wedi'u heithrio yn Rhondda Cynon Taf.

Mae hyn yn dilyn dwy broses drylwyr gan swyddogion i asesu eithriadau addas – yn gyntaf, cyn cyflwyno'r fenter 20mya yn gychwynnol, ac yn fwy diweddar wrth ddefnyddio'r canllawiau diwygiedig ar gyfer eithriadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.  

Yn dilyn ymateb a dadl gref gan y cyhoedd mewn perthynas â'i gyflwyno ym mis Medi 2023, roedd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i'r Terfyn Cyflymder Diofyn o 20mya ond yn cydnabod yr angen am broses rhoi canllawiau ar waith wedi'i thargedu er mwyn pennu eithriadau lle gall terfyn cyflymder ffyrdd aros yn 30mya. 

Roedd amrywiad mawr yn nifer yr eithriadau a gafodd eu rhoi ar waith gan Awdurdodau Lleol yn y lle cyntaf, gyda rhai yn cadw ychydig o ffyrdd 30mya yn unig. Cafodd 84 o derfynau cyflymder eu cadw'n 30mya yma yn y Fwrdeistref Sirol. Roedd y nifer yma o ffyrdd wedi'u heithrio yn un o'r uchaf yng Nghymru, a hynny wrth gymharu Rhondda Cynon Taf â phob un o'r 22 Awdurdod Lleol.

Cafodd canllawiau diwygiedig eu datblygu ar y cyd, gyda'r nod o fynd i'r afael â phryderon y cyhoedd a mireinio’r broses rhoi'r polisi 20mya ar waith.  Maen nhw'n ganllawiau i Awdurdodau Lleol eu dilyn, gan sicrhau dull systematig ar gyfer y dyfodol.

Amlinellodd adroddiad i'r Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant ddydd Iau 17 Gorffennaf y camau diweddaraf.  Yn ystod ‘cyfnod gwrando’ yn yr haf 2024, derbyniodd y Cyngor 313 o geisiadau gan drigolion i adolygu terfynau cyflymder, yn amrywio o strydoedd unigol i ystadau tai, darnau byr o ffyrdd, ffyrdd cyswllt, a cheisiadau am adolygiad ledled y Fwrdeistref Sirol.

Cafodd yr holl adborth ei gasglu a'i gyfuno, gan arwain at bennu 87 o ffyrdd i fod yn destun proses adolygu.  Ym mis Chwefror a mis Mawrth 2025, cynhaliodd swyddogion asesiadau rhagarweiniol a gwaith casglu data a oedd yn berthnasol i'r canllawiau newydd – ar amseroedd teithio, cyflymder cerbydau, data gwrthdrawiadau, amgylcheddau ffyrdd a llif traffig.  Cafodd panel adolygu gyfarfod ar 21 Mawrth, 2025, i drafod pob un o'r lleoliadau'n fanwl.

Mae'r panel wedi dod i'r casgliad y bydd 26 ffordd yn cael eu cyflwyno i'w hystyried, mewn perthynas â newid y terfyn cyflymder o 20mya i 30mya. Mae rhestr o'r ffyrdd wedi'i chynnwys ar waelod yr eitem newyddion yma.

Bydd y rhestr o 26 ffordd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus statudol i dderbyn barn ac adborth ar y cynigion. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei hyrwyddo a'i gynnal gan y Cyngor - bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu maes o law.

Byddai amserlen i roi’r newidiadau ar waith yn cynnwys cyhoeddi'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a'r Hysbysiad Cyhoeddus perthnasol, a chael cymeradwyaeth ffurfiol, yn y misoedd nesaf.  Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig i'r terfyn cyflymder yn cael eu rhoi ar waith cyn diwedd blwyddyn ariannol 25/26.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Trwy gydnabod y canllawiau diwygiedig gan Lywodraeth Cymru o ran pennu eithriadau addas i’r Terfyn Cyflymder Diofyn o 20mya, a gwrando ar adborth gan drigolion yn ystod ymarfer ymgysylltu’r haf y llynedd, mae’r Cyngor bellach wedi cyflwyno 26 o ffyrdd a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer terfyn cyflymder o 30mya.  Mae hyn yn ychwanegol at yr 84 o leoliadau a gadwyd yn 30mya yn wreiddiol ym mis Medi 2023.

“Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y Terfyn Cyflymder Diofyn cychwynnol o 20mya gan Lywodraeth Cymru wedi gweithio yn ôl y bwriad – i sicrhau bod ein ffyrdd mor ddiogel â phosibl ac i greu amgylcheddau mwy diogel i gerddwyr a beicwyr mewn lleoliadau cymunedol prysur. Aeth y Cyngor ati i groesawu'r cyfle i adolygu terfyn cyflymder rhai lleoliadau ymhellach, ochr yn ochr â phob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru – ac rydyn ni wedi cymryd yr amser i wneud yn siŵr ein bod yn cael y broses yn iawn.

“Mae'n golygu ein bod ni wedi cynnal dwy broses ar wahân, drylwyr iawn a ystyriodd yr eithriadau posibl, yn enwedig wrth gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru, gyda rhai ohonyn nhw'n cadw terfyn cyflymder ychydig o ffyrdd yn unig yn 30mph. Os cytunir ar y 26 o leoliadau newydd, bydd 110 o eithriadau ledled RhCT.

“Yn dilyn trafodaeth y Pwyllgor Craffu, bydd y Cyngor yn cynnal ymarfer ymgysylltu cyhoeddus pellach sy’n benodol i'r 26 o ffyrdd sydd newydd gael eu nodi – rhan allweddol o'r broses tuag at roi’r newidiadau ar waith o bosibl y flwyddyn nesaf.”

Mae'r rhestr o 26 ffordd a gyflwynir i ddychwelyd i derfyn cyflymder o 30mya yn cynnwys:

  • Yr A4059 ym Mhenderyn (i'r gogledd o'r ysgol).
  • Yr A4059 ym Mhenderyn (i'r de o'r ysgol).
  • Ystad Ddiwydiannol Hirwaun.
  • Ffordd Abertawe/Ffordd Merthyr, Hirwaun.
  • Heol Llanwynno, Aberpennar.
  • Ffordd Gyswllt Abercynon, Abercynon.
  • Heol Berw, Pontypridd.
  • Heol Sardis, Pontypridd.
  • Lôn Coedcae, Pont-y-clun.
  • Heol Ynys-hir (Cylchfan Wattstown), Ynys-hir.
  • Heol Penrhys, Tylorstown.
  • Ffordd Hirwaun, Trewaun.
  • Heol yr Orsaf, Pentre'r Eglwys.
  • Lôn Brynteg, Beddau.
  • Heol Caerdydd i'r Heol Fawr, Cross Inn.
  • Heol Llwyncelyn, Porth.
  • Cylchfan Glan-bad.
  • Yr A4054 Heol Caerdydd (rhan ogleddol), Rhydfelen.
  • Yr A473 Cylchfan Nant Celyn, Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys.
  • Y B4595 Heol Talbot, Llantrisant.
  • Yr A4058 Heol Ystrad, Pentre.
  • Y B4276 Stryd Harriet, Ffordd Llwydcoed.
  • Heol Cwmynysminton, Llwydcoed.
  • Yr A4233 Heol y Dwyrain (yn rhannol).
  • Glan-bad i Barc Manwerthu Midway ac Ystad Ddiwydiannol Gelli Hirion.
  • Heol Gwaunmeisgyn (rhan ddeheuol)
Wedi ei bostio ar 08/08/2025