Skip to main content

BIN 2 GYM, SWIM or SPIN in RCT!

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn hwyluso'r ffyrdd mae modd i chi ailgylchu eich cyfarpar trydanol ac electronig bach (WEEE) gan fod bellach modd eu hailgylchu mewn canolfannau hamdden penodol ledled y Fwrdeistref Sirol.

O sychwyr gwallt sydd wedi torri i hen lampau – os oes gan y cyfarpar blwg, batri neu gebl ac mae'n llai na thostiwr pedair tafell, mae modd ei ailgylchu wrth i chi ymweld â chanolfan hamdden i nofio, fynd i ddosbarth troelli neu ymweld â champfa yn RhCT.

Mae nifer o eitemau trydanol cyffredin yn cynnwys batris lithiwm ailwefradwy – mae'r eitemau yma'n beryglus, felly peidiwch â'u gadael gyda'ch gwastraff neu ailgylchu ymyl y ffordd.

Ewch â phob eitem WEEE i ganolfan hamdden sy'n rhan o'r rhaglen, Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned neu eu dychwelyd i fanwerthwr trydanol.

Yn unol â deddfwriaeth WEEE, mae rhwymedigaeth ar gynhyrchwyr a manwerthwyr nwyddau trydanol i sicrhau bod prosesau a systemau casglu yn eu lle fel bod hen ddyfeisiau trydanol yn cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu, yn hytrach na'u gwastraffu.

Os caiff eitemau trydanol eu casglu yn rhan o gasgliad ailgylchu neu wastraff cyffredinol, mae perygl y gallai'r peiriant gwasgu ar y cerbyd casglu greu twll yn y batri, a pheri iddo fod yn ansefydlog. Gallai'r batri neu ddarnau ohono danio yn sgil hyn, gan achosi tân yng nghefn y cerbyd sbwriel. Bydd angen delio â'r tân yn ddiogel a gallai hyn oedi casgliadau.  

Mae bellach gan y SAITH prif Ganolfan Hamdden am Oes ledled RhCT finiau i chi adael eich eitemau cyn gwneud ymarfer corff – mae'r rhaglen yma'n fuddiol i'r amgylchedd ac i'ch iechyd chi.

Dyma'r canolfannau sy'n cymryd rhan:

  • Canolfan Chwaraeon Abercynon
  • Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen
  • Canolfan Hamdden Llantrisant 
  • Canolfan Hamdden Rhondda Fach
  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
  • Canolfan Hamdden Sobell
  • Canolfan Hamdden Tonyrefail  

Bydd y canolfannau yma'n derbyn:

  • Offer ymbincio personol: sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, brwshys dannedd trydanol ac eillwyr trydanol ac ati
  • Offer cegin bach: tegellau, tostwyr a blendwyr ac ati
  • Technoleg: radios, chwaraewyr CDau/DVDau, teganau/gemau electronig, ffonau, llechi trydanol a chamerâu
  • Lampau, tortshis, goleuadau coed Nadolig
  • Ceblau a gwifrau gwefru

Tynnwch unrhyw fatris a'u hailgylchu ar wahân yn eich manwerthwr agosaf sy'n eu derbyn neu Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned

Fydd y canolfannau ddim yn derbyn:

  • Unrhyw beth sy'n fwy na thostiwr pedair tafell sydd â phlwg, batri neu gebl
  • Sigarennau trydanol o unrhyw fath
  • Offer cegin mawr: platiau poeth, ffrïwyr aer, microdonnau a chrochanau araf

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Gwasanaethau Hamdden:

"Mae'r ymgyrch I’r Bin â’ch Cyfarpar Cyn Mynd Nofio, Troelli neu i’r Gampfa (Bin to Swim, Spin or Gym) ddiweddaraf yn enghraifft arall o sut rydyn ni'n ceisio sicrhau bod ailgylchu mor HAWDD ag sy'n bosibl yn RhCT. Yn aml, mae eitemau WEEE yn cael eu gadael yng nghefn y cwpwrdd neu ar silff y garej nes bod gyda chi ddigon eitemau trydanol neu ddigon o amser i fynd i'r ganolfan ailgylchu, ond mae eu hailgylchu bellach yn haws gan fod modd gadael yr eitemau mewn bin WEEE cyn ymarfer corff!

"Rydyn ni wir angen osgoi gadael unrhyw eitemau trydanol gydag ein gwastraff cyffredinol neu ailgylchu. Rwy'n annog trigolion i ddefnyddio'r cyfleusterau newydd yma er mwyn gwaredu ar eitemau WEEE mewn ffordd gyfrifol gan fod modd iddyn nhw achosi nifer o broblemau os ydyn nhw'n cael eu casglu o ymyl y ffordd ar ddamwain.

"Yn ogystal â'r cyfleusterau WEEE newydd mewn canolfannau hamdden allweddol, mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn cynnig gwasanaethau ailgylchu dyddiol i breswylwyr. Cadwch eich holl eitemau WEEE, bach a mawr, i un ochr a'u hailgylchu y tro nesaf rydych chi'n ymweld â chanolfan. Fel arall, dylai fod gan bob siop manwerthu sy'n gwerthu nwyddau trydanol gyfleusterau ailgylchu yn y siop.  

“Mae preswylwyr RhCT bob amser wedi bod yn ailgylchwyr gwych ac rydw i'n siŵr y byddan nhw'n parhau â'u brwydr yn erbyn gwastraff i helpu RhCT i gyrraedd ei darged o ailgylchu dros 80% o'i wastraff erbyn 2024/25. Daliwch ati RhCT!”

Ewch ag eitemau mwy i un o'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf. Mae Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor ar agor o 8am-7.30pm (yn ystod yr haf) a 8am–5.30pm (yn ystod y gaeaf) ac mae modd ailgylchu eitemau trydanol mwy yno, e.e. peiriannau golchi, meicrodonau, setiau teledu, oergelli ac ati. Mae'r holl gyfleusterau hyn yn darparu ar gyfer pob un o'r holl anghenion ailgylchu. Mae rhestr lawn o'r eitemau a dderbynnir i'w chael ar https://www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu. Mae staff pob canolfan yn barod i roi cyngor i breswylwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu eich WEEE yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/WEEE

Ydych chi'n ansicr am ba nwyddau mae modd eu hailgylchu? Defnyddiwch y cyfleuster chwilio ar-lein – https://www.rctcbc.gov.uk/ChwilioAilgylchu

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu? Croeso i chi fynd i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu

Wedi ei bostio ar 25/09/23