Skip to main content

Offer Teleofal ar gyfer problemau cofio

Mae modd gosod yr offer isod i gefnogi pobl sydd â phroblemau cofio. Bydd angen i chi gael eich asesu i gael mynediad at y math yma o offer.

Gall yr holl offer yma naill ai fod wedi'u cysylltu â'n canolfan fonitro Gwifren Achub Bywyd 24 awr neu â Theclyn Galw Cynhalwyr

Gall offer Teleofal eraill  fod o fantais hefyd.

Synhwyrydd llifogydd
Synhwyrydd llifogydd

Mae'r synhwyrydd yma'n cael ei actifadu pan ddaw i
gysylltiad â dŵr. Gall pobl sydd â phroblemau cofio
ei ddefnyddio, er mwyn atal llifogydd yn y cartref.

Synhwyrydd nwy â falf gau

Mae'r synwyryddion yma'n cael eu cysylltu â chyfarpar nwy a
bydd yn rhoi rhybudd os yw'r cyfarpar yn cael ei adael ymlaen
heb ei danio.  Bydd y system yn synhwyro lefel y nwy yn
cynyddu, a diffodd y nwy ar y cyfarpar.

Mat Pwysedd

Mae modd gosod matiau o amgylch y cartref i roi rhybudd pan
fydd rhywun yn dynesu at ardal a allai beri risg. 

Synhwyrydd ymadael

Bwriad y synhwyrydd yma yw monitro diogelwch pobl sydd â
phroblemau cofio a allai fod yn dueddol o adael eu cartrefi ar
adegau amhriodol.

Os ydych chi o'r farn y byddech chi'n elwa o gael Gwifren Achub Bywyd neu offer Teleofal, dylech chi gysylltu â'n Carfan Ymateb ar Unwaith neu'ch Gweithiwr Cymdeithasol/Rheolwr Gofal os oes un gyda chi.

Bydd y Garfan Ymateb ar Unwaith yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich sefyllfa, ac os ydyn nhw o'r farn bod eich cais yn briodol, byddan nhw'n ei drosglwyddo i Reolwr Gofal.

Cysylltwch â:
Carfan Ymateb ar Unwaith
Ffôn: 01443 425003
 E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk