Skip to main content

Mae sticer ar fy min/bag/sach

Os ydych chi wedi cael sticer ar eich bag du, bag ailgylchu CLIR, bag gwastraff bwyd, sach WERDD neu fag PORFFOR yna mae fel arfer yn golygu nad yw’r ffordd rydych chi wedi cyflwyno'ch eitemau o bosibl wedi bod yn unol â'r canllawiau sydd wedi'u gosod gan y Cyngor. Y rheswm pennaf am hyn yw halogiad!

What do the stickers mean?

WEDI'I HALOGI

Rydych chi wedi rhoi'r eitemau anghywir yn eich bag. Fydd eich bagiau ddim yn cael eu casglu hyd nes y byddwch chi wedi tynnu'r eitem nad oes modd ei hailgylchu o ymyl y ffordd.

Bwriwch olwg yma i gael gwybod beth mae modd ei ailgylchu.

contamination sticker
GORMOD O FAGIAU DU

Rydych chi wedi rhoi mwy o fagiau du allan i'w casglu nag y mae'r terfynau gwastraff presennol yn ei ganiatáu. Bydd angen i chi symud y bagiau hyn o ymyl y ffordd a mynd â nhw yn ôl i mewn i'ch eiddo.

Bwriwch olwg yma i gael gwybod y terfynau gwastraff presennol.

too many black bags
HEB GASGLU GWASTRAFF BWYD

Rydych chi wedi rhoi eitemau sydd ddim yn fwydydd yn eich bin ailgylchu gwastraff bwyd. Mae hyn yn golygu ei fod bellach wedi'i halogi a fyddwn ni ddim yn ei gasglu. Tynnwch yr eitemau hyn allan a rhowch y bin allan i'w gasglu ar eich diwrnod casglu nesaf.

Bwriwch olwg yma i gael gwybod beth mae modd ei ailgylchu yn eich bin gwastraff bwyd.

food waste stciker
O diar!

Mae eich gwastraff a/neu’ch deunydd ailgylchu allan ar y diwrnod neu’r wythnos anghywir.

Bwriwch olwg yma i ddod o hyd i'ch diwrnod casglu gwastraff ac ailgylchu, a'ch grŵp casglu.

whoops
TAG RHYBUDD GWASTRAFF GWYRDD

Efallai eich bod chi wedi rhoi’r eitemau anghywir yn eich sach gwastraff gwyrdd. Mae hyn yn golygu ei fod bellach wedi'i halogi ac ni fydd yn cael ei gasglu. Tynnwch yr eitemau yma allan o'r sach a'i roi allan i'w chasglu ar eich diwrnod casglu nesaf.

Bwriwch olwg yma i gael gwybod beth mae modd ei roi yn eich sachau gwastraff gwyrdd.

Green Sack Sticker
DOEDDECH CHI DDIM YMA PAN ALWON NI HEIBIO
Roedd carfan Gorfodi a Chodi Ymwybyddiaeth y Cyngor yn yr ardal heddiw ac fe alwon nhw heibio i siarad â chi. Gallai hyn fod am fater yn ymwneud â gwastraff, i gynnig cyngor i chi neu i roi gwybod i chi am newidiadau yn eich ardal.
sorry
Beth yw deunydd ailgylchu sydd wedi'i halogi?

Mae deunydd ailgylchu sydd wedi'i halogi yn golygu fod eitemau anghywir wedi'u rhoi mewn bin, bag neu sach.

Dyma'r eitemau anghywir mwyaf cyffredin:

  • Cewynnau, hancesi papur ac eitemau mislif yn y bag anghywir
  • Gwastraff bwyd wedi'i gynnwys yn y bag ailgylchu clir
  • Dillad neu decstilau wedi'u cynnwys yn y bag ailgylchu clir*
  • Eitemau trydanol a batris wedi'u cynnwys yn y bag ailgylchu clir*
  • Gwastraff gwyrdd wedi'i roi mewn bag clir neu mewn sach gwastraff gwyrdd gyda phridd, addurniadau gardd, cerrrig ac ati. *
  • Yr eitemau cywir, ond yn fudr neu gyda bwyd dros ben, olew neu saim arnyn nhw. 
  • Gwastraff bwyd yn cynnwys deunydd pacio plastig fel bagiau bara

*mae modd ailgylchu'r rhain, ond nid wrth ymyl y ffordd.  Ewch â'r rhain i'ch Canolfan Ailgylchu Lleol.

Fydd dim modd i'n criwiau gasglu eich deunydd ailgylchu os yw wedi'i halogi neu'n cynnwys eitemau sydd ddim yn cael eu derbyn wrth ymyl y ffordd. Mae angen i'ch deunydd ailgylchu fod yn lân, yn sych ac yn wag. 

Sicrhewch eich bod chi'n rhoi gwastraff bwyd yn y bagiau gwyrdd cywir a'ch bod chi'n cofrestru ar gyfer ailgylchu cewynnau a gwastraff gwyrdd, os yn berthnasol. Rhowch y cewynnau yn y bagiau PORFFOR a'r gwastraff gwyrdd yn y sachau GWYRDD.  Dylai'r holl ddeunyddiau ailgylchu glân a sych gael eu rhoi mewn bagiau ailgylchu CLIR.

Beth sy'n rhaid imi ei wneud nawr?

Bydd angen i chi fynd i'r afael â'r mater a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sticer ar unwaith.

Gallai hyn olygu tynnu cewynnau o'ch bag clir a gwneud cais i ddod yn rhan o'r cynllun ailgylchu cewynnau i gael bagiau PORFFOR a diwrnod casglu cewynnau - mae modd i hyn gymryd hyd at 10 diwrnod, felly cewch roi'r eitemau hyn yn eich bag/bin gwastraff du yn y cyfamser.

Os ydych chi wedi rhoi bwyd yn eich bag CLIR gyda deunyddiau ailgylchadwy eraill, yn enwedig papur, bydd yr eitemau hyn bellach wedi'u halogi a bydd angen eu rhoi yn eich bag/bin gwastraff du gan nad oes modd eu hailgylchu mwyach. Bydd modd golchi plastigion, gwydr ac ati mewn dŵr sy'n weddill ar ôl golchi'r llestri, eu gadael i sychu a'u rhoi mewn bag CLIR newydd. 

Beth sy'n digwydd os byddwch chi'n anwybyddu'r sticer?

Os byddwch chi'n parhau i anwybyddu’r cyngor ar y sticer ac yn gadael yr eitem allan wrth ymyl y ffordd, bydd hyn yn arwain at dri hysbysiad gorfodi pellach.

Gallai'r cam pellach yma arwain at ddirwy o £100 neu achos llys. 

Beth os ydw i'n cael trafferth wrth ailgylchu?

Os ydych chi'n gwneud eich gorau i ailgylchu ac eisiau rhagor o gefnogaeth, e-bostiwch y garfan a byddwn ni'n ceisio eich cynorthwyo ymhellach. 

Os ydych chi'n cael trafferth cadw at y terfynau gwastraff mae modd i chi wneud cais am lwfans bag du ychwanegol – nodwch y gall eich gwastraff ac ailgylchu cael eu monitro yn rhan o’r broses benderfynu.

Os ydych chi'n cael trafferth dod â'ch ailgylchu a'ch gwastraff i'ch man casglu oherwydd anawsterau corfforol, mae modd i chi wneud cais am gasgliad â chymorth.

Herio'r sticer

Ar ôl darllen yr wybodaeth uchod, os hoffech chi ddadlau bod eich gwastraff ddim wedi'i halogi neu eich bod chi wedi cydymffurfio â'r ffordd y dylai gwastraff gael ei gyflwyno, cysylltwch â ni isod.

Anghydfod yn ymwneud â bin wedi'i halogi