Skip to main content

 

Aelodau'r Cyhoedd yn Siarad yng Nghyfarfodydd Pwyllgorau Cyngor

Rhaid i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno siarad mewn cyfarfod Pwyllgor Cyngor gofrestru drwy gwblhau'r ffurflen isod. Cwblhewch ffurflen ar wahân ar gyfer pob person sy'n dymuno siarad.

Cyhelir cyfarfodydd Pwyllgor Cyngor ar ddyddiau wythnos yn ystod tymor yr ysgol. Rhaid cyflwyno ceisiadau i siarad erbyn 5pm diwrnod gwaith cyn cyfarfod perthnasol y Pwyllgor. 

Dyma restr o Bwyllgorau Cyngor, cliciwch ar y dolenni isod i weld eu hamserlen o gyfarfoddydd.

Caiff cyfarfodydd Pwyllgorau'r Cyngor eu ffrydio'n fyw. Gwylio ffrwd byw cyfarfodydd Pwyllgorau Cyngor. Peidiwch â chwblhau'r ffurflen isod os ydych chi'n dymuno gwylio'r cyfarfod heb annerch y Pwyllgor. 

Gweler ein Strategaeth Chyfranogiad Cyhoedd Rhondda Cynon Taf am wybodaeth mewn perthynas a gymryd rhan yng nghyfarfodydd Pwyllgorau'r Cyngor.

Y Broses Gofrestru ar gyfer Siaradwyr Cyhoeddus

Llenwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais i siarad yn ystod cyfarfod Pwyllgor Cyngor.

Dim ond at ddibenion cyfarfodydd y Pwyllgor Cyngor y bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei nodi ar y ffurflen yma'n cael ei defnyddio. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r Gwasanaethau Democrataidd yn prosesu gwybodaeth bersonol, bwriwch olwg ar ein hysbysiadau preifatrwydd, yma: http://www.rctcbc.gov.uk/HysbysiadPreifatrwyddGwasanaeth.