Rhaid i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno siarad mewn cyfarfod o'r Cyngor gofrestru drwy gwblhau'r ffurflen isod. Cwblhewch ffurflen ar wahân ar gyfer pob person sy'n dymuno siarad.
Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor ar ddyddiau Mercher yn ystod tymor yr ysgol. Rhaid cyflwyno ceisiadau i siarad erbyn 5pm o leiaf wyth diwrnod gwaith cyn y cyfarfod perthnasol. Gweler y calendr o gyfarfodydd.
Caiff cyfarfodydd y Cyngor eu ffrydio'n fyw. Gwylio ffrwd byw cyfarfodydd Cyngor. Peidiwch â chwblhau'r ffurflen isod os ydych chi'n dymuno gwylio'r cyfarfod heb annerch y cyfarfod.
Gweler ein Strategaeth Chyfranogiad Cyhoedd Rhondda Cynon Taf am wybodaeth mewn perthynas a gymryd rhan yng nghyfarfodydd Cyngor.
Y Broses Gofrestru ar gyfer Siaradwyr Cyhoeddus
Llenwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais i siarad yn ystod cyfarfod Cyngor
Dim ond at ddibenion cyfarfodydd y Pwyllgor Cyngor y bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei nodi ar y ffurflen yma'n cael ei defnyddio. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r Gwasanaethau Democrataidd yn prosesu gwybodaeth bersonol, bwriwch olwg ar ein hysbysiadau preifatrwydd, yma: http://www.rctcbc.gov.uk/HysbysiadPreifatrwyddGwasanaeth.