Ar eich marciau! Bydd y broses gofrestru ar gyfer Rasys Ffordd Nos Galan yn agor o 9 Medi, lle bydd y cylch cyntaf o leoedd (tua 2,000) yn cael ei ryddhau. Bydd pobl ar draws y DU yn barod o 10am ddydd Llun 9 Medi i gadw lle ar rasys. Mae'r rasys yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn. Am y tro cyntaf yn 2019, bydd dwy ras i redwyr elît – un i ddynion ac un i fenywod. Trwy wneud hyn, bydd y rasys yn fwy cystadleuol gan y bydd mwy o le ar y llwybr. Fel y llynedd, bydd proses gofrestru dros gyfnod gydag amseroedd amrywiol er mwyn rhoi cyfle teg i bawb gadw lle.
Am 10am ddydd Llun 9 Medi, bydd holl leoedd y rasys i blant, 590 o leoedd cyntaf y ras hwyl a 100 o leoedd cyntaf y rasys elît i ddynion a menywod, yn cael eu rhyddhau. Bydd modd cadw lle ar-lein.
Am 12pm ddydd Llun 16 Medi, bydd 350 o leoedd ychwanegol ar gyfer y ras hwyl a 50 o leoedd ar gyfer y ddwy ras i redwyr elît (dynion a menywod) yn cael eu rhyddhau.
Am 6pm ddydd Llun 23 Medi, bydd gweddill y lleoedd (125) ar gyfer y ras hwyl a 50 o leoedd ar gyfer y ddwy ras i redwyr elît (dynion a menywod) yn cael eu rhyddhau.
O ganlyniad i waith adeiladu cynllun Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, bydd llwybr Nos Galan 2019 yn aros yr un peth â'r llynedd. Bydd angen gwneud pedair lap o'r llwybr. Treuliwch amser yn gwylio fideo o'r llwybr ar www.nosgalan.co.uk i ymgyfarwyddo â fe cyn cadw lle ar-lein.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth a Chadeirydd Pwyllgor Nos Galan: "Rydyn ni'n gwybod y bydd Nos Galan 2019 yn boblogaidd ac rydyn ni wedi gwneud ambell i newid yn seiliedig ar adborth rhedwyr blaenorol.
"Bydd cyflwyno dwy ras i redwyr elît, un i ddynion ac un i fenywod, yn golygu y bydd llai o redwyr ar y llwybr gan ei wneud e'n achlysur mwy cystadleuol.
"O ganlyniad i batrymau gwaith a bywydau teuluol rhedwyr posibl, rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i barhau â'n broses gofrestru dros gyfnod er mwyn sicrhau bod gan bawb gyfle teg i gadw lle.
"Y llynedd oedd pen-blwydd Nos Galan yn 60 oed, felly bydd hi'n anodd rhagori ar y noson ryfeddol honno.
"Serch hynny, rydyn ni'n gwybod y bydd yr awyrgylch yng nghanol tref Aberpennar ar Nos Galan, gan gynnwys cymorth gwych trigolion, busnesau a sefydliadau lleol, yn anhygoel yn ôl yr arfer.
"Does dim teimlad gwell na'r cyffro yn y dref wrth i'r rhedwr diogel – rydyn ni wedi ei drefnu yn barod, a byddwch chi wrth eich boddau – ddod i'r dref. Bydd y rhedwr yn dilyn olion traed Guto Nyth Brân, a oedd rhedwr cyflymaf y byd yn ôl y sôn. "Bydd hwyl i'r teulu, tân gwyllt a ffair bleser gan ddathlu diwedd 2019 a chroesawu 2020!"
Dilynwch Rasys Nos Galan ar Twitter a Facebook am y newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf. Cofiwch nodi’r dyddiadau ac amseroedd yn eich dyddiadur i gadw eich lle ar www.nosgalan.co.uk.
Wedi ei bostio ar 30/08/19