Nos-Galan-thumb

Dim ond UN CYFLE ARALL sydd ar gael i gadw’ch lle ar Rasys Nos Galan 2023 sydd wedi ennill gwobrau.

Mae lleoedd ar gyfer yr achlysur wedi cael eu rhyddhau trwy gydol mis Medi 2023.  

Dyma’ch cyfle olaf i gymryd rhan yn un o achlysuron chwaraeon mwyaf unigryw a nodedig Cymru, gan redeg drwy strydoedd Aberpennar i ddathlu chwedl Guto Nyth Brân.

  • Dydd Llun, 25 Medi – 6pm

Ymunwch â’r rasys elît i ddynion a menywod, ras hwyl (gwisg ffansi yn ddewisol) a chategorïau rasys i blant ar y noson.

Yn ogystal ag achlysur sy'n dathlu cyflawniad chwaraeon, mae Rasys Nos Galan yn noson allan wych i'r teulu, gydag adloniant a thân gwyllt - yn ogystal â'r cyfle i weld y rhedwr dirgel. Pwy fydd y seren chwaraeon a fydd yn ymuno â ni yn 2023?

Mae eleni yn nodi 65 mlynedd ers dechrau Rasys Nos Galan, a sefydlwyd ym 1958 gan y diweddar Bernard Baldwin MBE i ddathlu’r chwedl leol Guto Nyth Brân. Fe oedd y dyn cyflymaf ar y ddaear a allai ddal aderyn yn ei ddwylo ei hun, yn ôl y sôn.

Cafodd y rasys eu hatal dros dro ym 1984, ond fe ddychwelodd yr achlysur yn fuan wedi hynny. Erbyn hyn mae'n denu dros 2,000 o redwyr o bob rhan o’r DU, gan gystadlu ar ystod o lefelau yn y rasys hanesyddol, yn ogystal â denu miloedd o gefnogwyr i strydoedd Aberpennar.

Mae'r achlysur yn dechrau gyda'r rasys i blant, cyn croesawu'r Rhedwr Dirgel enwog sy’n cario ffagl Nos Galan a'i thanio yng nghanol y dref. Mae rhedwyr dirgel blaenorol yn cynnwys Linford Christie, Nigel Owens, Chris Coleman, James Hook, Jamie Roberts, Nicole Cooke a llawer yn rhagor. Yn dilyn hyn, bydd arddangosfa tân gwyllt ysblennydd a rhywbeth arbennig ar gyfer 2023. Yna, ar eich marciau!... wrth i'r prif rasys gychwyn, gan gynnwys y rasys elît i ddynion a menywod a'r ras hwyl hynod o boblogaidd. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Rasys Ffordd Nos Galan: "Mae'r amser wedi cyrraedd unwaith eto, pan fydd lleoedd Rasys Nos Galan yn mynd ar werth a bydd pobl yn dechrau paratoi ar gyfer cymryd rhan yn un o achlysuron chwaraeon mwyaf unigryw Cymru.

"Mae'r ffaith ei fod wedi bod mor boblogaidd ers 65 mlynedd yn dangos pa mor wych yw Rasys Nos Galan i'r cystadleuwyr, y rheiny sy'n cymryd rhan a'r cefnogwyr. Roedd yn wych dychwelyd i strydoedd Aberpennar y llynedd, gyda George North fel y rhedwr dirgel, yn dilyn cynnal yr achlysur yn rhithwir am ddwy flynedd.

“Rydyn ni'n gwybod y bydd 2023 yr un mor llwyddiannus, ac rydyn ni'n eich gwahodd chi i nodi'r dyddiadau rhyddhau a gwneud yn siŵr eich bod chi'n sicrhau lle i chi'ch hun, eich ffrindiau neu'ch cyd-redwyr.

"Gwelwn ni chi Nos Galan!"

I gael y newyddion diweddaraf am Rasys Nos Galan 2023, dilynwch Rasys Nos Galan ar Facebook.

A oes gyda chi ddiddordeb mewn cymryd rhan? Rydyn ni'n edrych am wirfoddolwyr i helpu i gynnal Rasys Nos Galan 2023 ar y noson. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, e-bostiwch nosgalan@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 04/09/2023