Byddwn ni'n dathlu pen-blwydd Rasys eiconig Nos Galan yn 65 oed gyda DAU unigolyn pwysig o fyd chwaraeon Cymru!

Gareth Thomas o'r byd rygbi a Laura McAllister o'r byd pêl-droed yw'r rhedwyr dirgel enwog ar gyfer achlysur 2023!

Bydd y pâr, ymhlith rhai o ffigurau chwaraeon a chymdeithasol mwyaf dylanwadol Cymru, yn mynd i wasanaeth yn Eglwys brydferth Sant Gwynno ac yn gosod torch ar fedd Guto Nyth Brân, y dyn wnaeth ysbrydoli'r achlysur.

Byddan nhw yna'n gwneud eu ffordd i Aberpennar, gan fwynhau croeso cynnes enfawr gan y torfeydd, cyn cynnau ffagl Nos Galan wrth i’r arddangosfa tân gwyllt a goleuadau gael ei chynnal.

Yna, bydd y rasys elit a hwyl.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan: “65 mlynedd o Rasys Nos Galan! Am garreg filltir! Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae strydoedd Aberpennar yn orlawn wrth i redwyr o bob rhan o’r byd gadw’r Chwedl yn Fyw.

“Maen nhw'n dilyn ôl-troed amrywiaeth enfawr o redwyr dirgel enwog – o David Bedford i Shane Williams. Maen nhw wedi llwyddo i gwblhau achlysur arobryn ac mae pawb wedi cael noson hudolus hefyd.

“Does 'na ddim ffordd well o ddathlu 65 mlynedd na thrwy gael dau o ffigurau pwysicaf byd chwaraeon Cymru i ymuno â ni fel rhedwyr dirgel. Mae’r rhedwyr dirgel bob amser yn wledd i’r dorf ac yn ysbrydoliaeth i’r cystadleuwyr ac eleni maen nhw, heb os, yn ysbrydoledig. Rydyn ni'n hynod falch o groesawu Gareth Thomas a Laura McAllister i Aberpennar yn 2023.”

Ac eithrio dwy flynedd pan gynhaliwyd yr achlysur yn rhithwir yn ystod pandemig COVID, mae Nos Galan wedi dod ag awyrgylch hudolus i Aberpennar bob Nos Galan ers 1958.

Y diweddar Bernard Baldwin wnaeth sefydlu'r achlysur, a'r ysbrydoliaeth oedd chwedl Griffith Morgan (Guto Nyth Brân) a oedd unwaith y dyn cyflymaf yn y byd a allai redeg o’i gartref i’r Porth ac yn ôl cyn i’r tegell ferwi. Gallai ddal aderyn yn ei ddwylo a rhedeg yn gynt nag ysgyfarnogod gwyllt.

Roedd Bernard yn benderfynol o gadw’r Chwedl yn Fyw ac mae achlysur Rasys Nos Galan, gyda’i redwr dirgel enwog, wedi mynd o nerth i nerth.

Mae Gareth Thomas CBE (Alfie) yn gyn-chwaraewr rygbi’r undeb a’r gynghrair a gynrychiolodd y wlad yn y ddwy gamp – fe oedd y chwaraewr rygbi’r undeb cyntaf o Gymru i chwarae mewn 100 o gemau.

Fel y chwaraewr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru namyn 5 arall (a'r 15fed yn y byd!) mae wedi chwarae ar draws y DU ac Ewrop ac mae bellach yn sylwebydd, gan ymddangos ar ein sgriniau i ddadansoddi gemau Cymru sy’n cael eu cynnal ar draws y byd.

Mae hefyd wedi ymddangos ar ein sgriniau ar Big Brother, SAS: Who Dares Wins ac fe wnaeth ymddangos fel ef ei hun ar y rhaglen Stella gyda Ruth Jones (a gafodd ei ffilmio yn Ferndale), yn ogystal â rhaglenni dogfen gyda’r Tywysog Harry, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins a “Gareth Thomas: HIV and Me”. Ei hunangofiant “Proud” oedd llyfr chwaraeon y flwyddyn yn 2015.

Mae ei ddylanwad ar iechyd y cyhoedd yr un mor bwysig. Cafodd ei bleidleisio fel y person hoyw mwyaf dylanwadol yn y DU yn 2010 yn Pink List papur newydd The Independent ac fe wnaeth hefyd ennill gwobr Arwr y Flwyddyn Stonewall.

Mae Alfie yn gefnogwr brwd o’r NSPCC a Childline ac mae’n parhau’n benderfynol o helpu pobl ifainc eraill i geisio cymorth.

Mae’r Athro Laura McAllister CBE yn un o’r merched mwyaf dylanwadol ym myd chwaraeon a materion cymdeithasol Cymru.

Yn dilyn gyrfa lwyddiannus gyda chlybiau, Laura oedd un o dri chwaraewr a lobïodd i bêl-droed merched gael ei gydnabod yn fyd-eang gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru – ac yna aeth ymlaen i sgorio 24 o gapiau dros ei gwlad fel chwaraewr rhyngwladol.

Roedd ar fwrdd Chwaraeon Cymru a hi oedd wrth y llyw yn ystod y cyfnod mwyaf llwyddiannus erioed i chwaraeon elitaidd Cymru. Yn ystod y cyfnod, enillwyd y nifer fwyaf erioed o fedalau yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 a 2016 a Gemau’r Gymanwlad 2014.

Roedd hefyd ar fwrdd UK Sport yn ystod cyfnod llwyddiannus i Dîm GB.

Daeth yn Is-lywydd Cymreig cyntaf erioed UEFA ac mae hefyd yn ddirprwy gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Merched UEFA ac yn gadeirydd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.

Ar hyn o bryd mae hi'n gweithio fel Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd. Mae Laura yn arbenigwraig ar ddatganoli, etholiadau gwleidyddiaeth Cymru, polisi cyhoeddus a chynrychiolaeth menywod mewn gwleidyddiaeth.

Roedd Laura ar frig Rhestr Pinc Cymru 2023, sy'n dathlu Cymry yn gwneud pethau anhygoel dros y gymuned LHDTC+. Soniwyd am ei hymdrechion yng ngêm Cwpan y Byd gyntaf Cymru yn Qatar pan ofynnwyd iddi dynnu ei het fwced Y Wal Enfys.

Yn olaf, cafodd ei hanrhydeddu gan Orsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni am ei gwasanaeth i chwaraeon. Rhondda Cynon Taf fydd yn cynnal yr Eisteddfod yn 2024. Mae hi'n bartner anhygoel ac yn fam i ddau!

 

Wedi ei bostio ar 02/01/24